Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol sydd ar fin cael ei gyflwyno. Bydd y Fframwaith yn amlinellu’r camau i’w cymryd i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac ymarfer yr un hawliau â dinasyddion eraill. Bydd yn cyfrannu at Gynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

Yn fy nhystiolaeth gerbron y Pwyllgor Deisebau ar 11 Hydref 2011, dywedais y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol erbyn haf 2012: mae’r Fframwaith yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

Wrth ddatblygu’r Fframwaith, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod llawer o bobl anabl yng Nghymru yn agored i effaith rhaglen Llywodraeth y DU ar ddiwygio lles. Dim ond o fewn pwerau Llywodraeth Cymru y gall y Fframwaith roi sylw i’r materion hynny. Ond bydd yn nodi’n glir yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a’r hyn y bwriadwn ei wneud, i hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysfawr.

Bydd y Fframwaith yn ymdrin â’r blaenoriaethau a nodir gan bobl anabl. Cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â nhw a sefydliadau pobl anabl, gydag ymgysylltiad ledled Cymru.

Bydd y Fframwaith yn cael ei lansio ar gyfer ymgynghoriad ar 20 Medi a byddaf yn gwneud yn siŵr y caiff yr Aelodau gopïau ohono bryd hynny. Bydd datganiad llafar i ddilyn yn ystod cyfarfodydd yr hydref.