Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae’n bleser gennyf roi’r newyddion diweddaraf ar y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu Fframwaith Gweithredu ar Droseddau Casineb Llywodraeth Cymru. Mae nifer o sefydliadau partner yn gweithio gyda ni i ddatblygu’r Fframwaith a bydd drafft o’r Fframwaith 5 mlynedd ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn yr haf. Mae hyn yn dangos bod yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu wedi cael ei wireddu. Dyma un o brif amcanion ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ac mae’n ychwanegu at ganfyddiadau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol sy’n ymwneud ag aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael â throseddau casineb i sicrhau bod Cymru yn wlad oddefgar sydd â’i sylfeini ar egwyddorion o degwch a chydraddoldeb. Dylai pobl deimlo eu bod yn gallu byw mewn cymunedau heb ofn cael eu haflonyddu, fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol a chyfrannu ato.
Bydd y broses o ddatblygu’r Fframwaith yn canolbwyntio ar nodweddion gwarchodedig hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Ond bydd hefyd yn targedu meysydd eraill o droseddau casineb, gan gynnwys isddiwylliannau amgen a phobl hŷn. Yn ogystal â hynny, mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnwys meysydd allweddol eraill yn y Fframwaith, gan gynnwys eithafiaeth asgell dde, aflonyddu ar-lein a throseddau cyfeillio (pan fydd aelodau o’r gymuned yn bod yn gyfaill â pherson sy’n agored i niwed ac yn yna yn cymryd mantais ohonynt).
Bydd y Fframwaith yn canolbwyntio ar dri amcan nodedig: codi ymwybyddiaeth ac atal troseddau casineb, ymateb i ddioddefwyr a’u cefnogi a gwella’r ymateb gweithredol. Mae hyn yn cael ei lywio gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n cynnwys swyddogion allweddol Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol a gwirfoddol, sy’n adlewyrchu’r angen am ddull aml-asiantaethol i ddatblygu a gweithredu’r Fframwaith ledled Cymru.
Rydyn ni wedi mynd ati’n eang a chynhwysol i ymgysylltu â phobl, gan gynnwys ffurfio grwpiau rhanddeiliaid arbenigol ar draws y nodweddion gwarchodedig. Mae arolwg ar-lein wedi cael ei gynnal a arweiniodd at sicrhau cefnogaeth ar gyfer y gwaith i ddatblygu’r Fframwaith drafft. Rydym yn cynnal ymchwil arloesol i ddarparu sylfaen o dystiolaeth bendant i fynd i’r afael â throseddau casineb. Mae hyn yn cynnwys yr ymchwil cyntaf yn y DU i’r sawl sy’n cyflawni troseddau casineb, yn ogystal ag ymchwilio i grwpiau asgell dde eithafol ac eithafiaeth yng Nghymru. Mae canfyddiadau gan Brifysgol Caerdydd, lle mae astudiaeth tair blynedd i droseddau casineb yn cael ei gynnal, yn cefnogi’r gwaith hwn.
Edrychaf ymlaen at fwrw ati â’r maes gwaith allweddol hwn, ac rwy’n croesawu’r ymrwymiad amlwg ar draws Llywodraeth Cymru. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf am lansiad yr ymgynghoriad a threfniadau maes o law.