Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydym yn lansio heddiw ymgynghoriad ar Fframwaith Deilliannau arfaethedig Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2013 gynllun cyntaf Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant sef ‘Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair’. Amlinellodd y cynllun hwn raglen uchelgeisiol ac ymestynnol ar gyfer newid ynghyd â’n hymrwymiad i wella cyfleoedd bywyd a deilliannau pob plentyn yng Nghymru. Nodwyd yn y cynllun y byddem yn datblygu Fframwaith Deilliannau ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac yn ymgynghori arno. Caiff fframweithiau presennol sy’n cefnogi plant a theuluoedd ar draws y blynyddoedd cynnar eu hystyried fel rhan o’r gwaith hwn.  

Cafodd rhanddeiliaid allweddol eu cynnwys yn y gwaith o lunio’r fframwaith deilliannau drafft hwn. Yn ogystal, bu Bwrdd Partneriaeth y Blynyddoedd Cynnar yn arsylwi ar y gwaith hwn. Y nod yw sicrhau y bydd y fframwaith yn ein galluogi i gasglu tystiolaeth a dilyn cynnydd disgyblion ar lefel genedlaethol. Bydd gweld beth sy’n gweithio’n dda a’r hyn nad ydyw’n gweithio cystal yn ein helpu i ganolbwyntio ar weithgareddau y gwyddys eu bod yn cael effaith bositif ar ddeilliannau plant. Gobeithir hefyd y bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cefnogi gwaith cynllunio a gwerthuso gan randdeiliaid ar draws gweithlu’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae. Dylai hyn oll arwain at waith mwy effeithiol, rhagor o gydweithredu a gwelliannau mewn dulliau cyflenwi.  

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd 15 Ionawr 2015. Caiff yr ymatebion i’r ymgynghoriad eu hystyried ar ôl hyn a chaiff crynodeb ei gyhoeddi erbyn mis Ebrill 2015. Bwriedir eu defnyddio i gefnogi’r broses flynyddol o werthuso ein cynnydd o safbwynt uchelgeisiau’r cynllun blynyddoedd cynnar a gofal plant. Caiff y data a nodir yn y fframwaith eu casglu a’u cyflwyno yn erbyn y deilliannau ym mis Gorffennaf 2015. Bydd hyn yn rhoi darlun cenedlaethol i ni o effaith ein gwaith ar y blynyddoedd cynnar. Bydd y data, lle y bo’n bosibl, yn sylfaen ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Rydym yn disgwyl gweld cynnydd. Bydd Fframwaith Deilliannau arfaethedig y Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys y ddarpariaeth sydd eisoes yn ei lle. Efallai y bydd datblygiadau, fel yr Adolygiad o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu, yn cyflwyno dangosyddion sy’n well na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Caiff y fframwaith ei adolygu a’i adnewyddu’n barhaus er mwyn cynnwys datblygiadau o’r fath.