Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dechreuwyd datblygu'r asesiad newydd a fydd yn cael ei gynnal wrth i blant ddechrau yn y Cyfnod Sylfaen haf diwethaf. Bydd yn cael ei roi ar waith fel rhan o Brosiect ehangach Fframwaith Datblygu ac Asesu'r Blynyddoedd Cynnar a fydd yn cael ei weithredu ar draws y Llywodraeth. Mae'r prosiect yn datblygu fframwaith asesu trosfwaol ar gyfer plant 0-7 oed a chyfres o ddulliau asesu cysylltiedig i'w defnyddio ar gyfer cofnodi datblygiad plant ar draws y blynyddoedd cynnar. Y bwriad oedd cyflwyno'r asesiad newydd hwn ar gyfer y Cyfnod Sylfaen o fis Medi 2014 ymlaen. Tra bo gwaith wedi mynd rhagddo'n brydlon, mae'n hanfodol bod yr asesiad newydd yn cael ei ddatblygu'n unol â chwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a'r trefniadau asesu, fel y nodir yn y Meysydd Dysgu, â'i fod yn gyson â hwy, er mwyn cofnodi a thracio datblygiad dysgwyr ar draws y Cyfnod Sylfaen i gyd.

Ym mis Hydref 2013, cyhoeddais fod adolygiad o’r trefniadau asesu a'r Cwricwlwm Cenedlaethol i'w gynnal fesul dau gam. Mae'r cam cyntaf o’r adolygiad wedi canolbwyntio ar integreiddio llythrennedd a rhifedd i'r cwricwlwm, ac mae'n cynnwys cynigion i adolygu Meysydd Dysgu’r Cyfnod Sylfaen sydd eisoes yn bodoli ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol. Bydd yr asesiad sy'n cael ei ddatblygu fel rhan o’r Fframwaith yn dibynnu ar gynnwys y ddau Faes Dysgu hyn. Felly, mae'n hanfodol eu bod yn gydnaws â’i gilydd er mwyn sicrhau bod yr asesiad ar ddechrau'r Cyfnod Sylfaen, y tracio blynyddol a'r adrodd ar ddiwedd y Cyfnod yn creu proffil cywir am ddatblygiad dysgwyr.

Er mwyn sicrhau bod yr elfennau allweddol hyn yn gydnaws â'i gilydd, rwyf wedi penderfynu cyflwyno'r asesiad a fydd yn cael ei gynnal wrth i blant ddechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn unol â'r amserlen arfaethedig ar gyfer cyflwyno'r Meysydd Dysgu newydd yn strategol o ran Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol. Roedd y diwygiadau i'r Meysydd Dysgu a'r amserlen cyflwyno wedi'u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd ddoe. Yn unol â'r cynigion hyn, rwyf o'r farn y dylid cyflwyno'r asesiad a fydd yn cael ei gynnal ar ddechrau'r Cyfnod Sylfaen yn statudol o fis Medi 2015 ymlaen.

Rhwng mis Medi 2014 a Medi 2015, dylai ysgolion barhau i ddefnyddio'r trefniadau sydd ganddynt eisoes i asesu plant wrth iddynt ddechrau yn y Cyfnod Sylfaen er mwyn nodi unrhyw oedi posibl o ran datblygiad. Bydd hefyd yn gosod sylfaen a fydd yn cael ei ddefnyddio i dracio cynnydd trwy gydol y Cyfnod Sylfaen.