Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gadarnhau cyhoeddi Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2022-25. Cyhoeddir y fframwaith statudol hwn ar adeg o bwysau aruthrol yn y system iechyd a gofal. Rydym yn gwybod bod gaeaf hynod heriol o’n blaenau ond mae hefyd yn bwysig inni gynllunio ymhellach na hyn. Mae'r fframwaith yn arwydd o'm huchelgais a'm hymrwymiad i gynllunio ar gyfer ailosod gwasanaethau ac ysgogi adferiad wrth inni symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion parhaus y staff iechyd a gofal sy'n parhau i weithio'n ddiflino i ofalu am gleifion. Rwy’n cydnabod bod hyn yn cael effaith negyddol ar lawer o bobl. Mae Covid wedi herio pawb, yn enwedig staff y rheng flaen. Maen nhw wedi bod yno i ni a'n hanwyliaid drwy gydol y pandemig a hoffwn ddiolch o galon iddynt unwaith yn rhagor heddiw.

Rydw i wedi dweud cyn hyn fod y pandemig ymhell o fod drosodd a byddwn yn byw gydag effeithiau a chanlyniadau Covid am gryn amser eto. Mae'r fframwaith cynllunio hwn yn gosod y cyd-destun ar gyfer sut yr wyf yn disgwyl i'r GIG symud ymlaen. Ynddo, nodir fy mlaenoriaethau cyffredinol ar gyfer Cynlluniau Tymor Canolig Integredig y GIG a gyflwynir ym mis Chwefror 2022. Mae’r blaenoriaethau hynny fel a ganlyn:

    • Cymru Iachach – sef y cyd-destun polisi cyffredinol
    • Iechyd y boblogaeth, o ran profiad y pandemig ac anghydraddoldeb iechyd
    • Ymateb i COVID-19
    • Adfer y GIG
    • Iechyd Meddwl a llesiant emosiynol
    • Cefnogi'r gweithlu iechyd a gofal
    • Cyllid y GIG a rheoli o fewn adnoddau
    • Gweithio ochr yn ochr â Gofal Cymdeithasol

Mae'r Fframwaith hwn yn ailgychwyn y broses gynllunio statudol a gafodd ei hatal dros dro ym mis Mawrth 2020 a bydd y cynlluniau 3 blynedd integredig a gyflwynir ym mis Chwefror yn cael eu hasesu'n drylwyr. Byddaf yn cyhoeddi targedau mwy penodol mewn nifer cyfyngedig o feysydd erbyn dechrau’r flwyddyn newydd. Dyma fydd y set gyntaf o Gynlluniau Tymor Canolig Integredig y byddaf yn eu hystyried yn ffurfiol i'w cymeradwyo ac edrychaf ymlaen at weld yr uchelgais a'r ymrwymiadau a ddangosir ynddynt.

Diolch yn fawr iawn.