Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r Fframwaith Codi Llais Heb Ofn ar gyfer GIG Cymru. Mae’r fframwaith hwn yn ddogfen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn yr undebau llafur. Mae’r Fframwaith yn pennu cyfrifoldebau holl sefydliadau GIG Cymru, eu timau gweithredol, a’u byrddau, yn ogystal â chyfrifoldebau rheolwyr ac aelodau unigol o staff i feithrin ymhellach ddiwylliant sy’n cefnogi unigolion i ‘Godi Llais’ mewn amgylchedd diogel.    

Cafodd y Fframwaith hwn ei rannu â Phrif Weithredwyr y GIG ddiwedd mis Awst. Gwnaed hyn i’w cefnogi wrth iddynt ystyried eu systemau ansawdd a diogelwch yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar. Bu’r digwyddiadau hyn yn brawf digamsyniol o ba mor hanfodol ydyw bod pob un sy’n gweithio yn y GIG yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus i godi llais am unrhyw beth sy’n amharu ar ddarparu gofal diogel, o ansawdd uchel. 

Rhaid i arweinwyr a rheolwyr fod yn barod i wrando, ac ymateb i bryderon yn briodol a rhaid iddynt fod yn agored i gael eu herio mewn modd adeiladol. Mae codi llais a thynnu sylw at y materion hyn yn weithred ddewr a gall unigolion a fydd yn gwneud hynny deimlo’n agored i niwed. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r GIG yng Nghymru i feithrin ethos lle y caiff hyn ei groesawu a’i ystyried fel cyfle i wrando, dysgu a gwella.

Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi'r newid mewn diwylliant sy’n angenrheidiol yn y GIG yng Nghymru a hyderaf fod cyflwyno’r Fframwaith hwn yn mynd o fod o gymorth i ysgogi’r newid hwnnw.