Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2016-2021 yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu fframwaith cenedlaethol cynaliadwy i ymgysylltu â goroeswyr er mwyn sicrhau ein bod yn deall anghenion a phrofiadau goroeswyr.

Dim ond trwy wrando a chydweithio â'r bobl hynny sydd wedi dioddef trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol y gallwn ddeall y broblem yn iawn, ac ymateb iddi’n effeithiol. Nid ydym yn clywed yn aml gan oroeswyr, er mai nhw yw'r arbenigwyr gwirioneddol ar effeithiau trais a cham-drin. Rydym yn benderfynol, felly, o gydweithio a nhw i roi llwyfan a llais cryfach iddynt, er mwyn inni allu dysgu o'u profiadau.

Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ionawr 2018, buom yn trafod â mwy na thrigain o oroeswyr yn ogystal â sefydliadau rhanddeiliad. Yn y trafodaethau, cafwyd cefnogaeth gref i'r syniad o ddatblygu mecanwaith ffurfiol a chynaliadwy sy'n caniatáu trafodaeth. Roedd pawb o’r farn y dylai lleisiau a phrofiadau goroeswyr fod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu polisi. Dylid cynllunio'n ofalus a bod yn ystyrlon, gan sicrhau bod eu lleisiau a'u safbwyntiau yn cael eu clywed o'r dechrau. Ar yr un pryd, cynhaliwyd adolygiad o lenyddiaeth er mwyn dod o hyd i'r hyn sy'n rhwystro neu'n galluogi trafodaethau llwyddiannus â goroeswyr. 

Roedd y dystiolaeth gefndirol hon yn help wrth lunio nifer o opsiynau ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr. Rydym wedi cynnal ymgynghoriad ar yr opsiynau hyn yn ystod y gwanwyn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion: 

https://livefearfree.gov.wales/policies-and-guidance/national-survivor-engagement-framework?skip=1&lang=cy <?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ddefnyddiol ond yn gyfyngedig o ran nifer a chynrychiolaeth.  Er bod amrywiaeth eang o oroeswyr ledled Cymru wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn, mae grwpiau o oroeswyr na allwn eu cyrraedd o hyd, goroeswyr nad ydynt yn cael mynediad at wasanaethau nac yn rhan o unrhyw drafodaeth ffurfiol, strwythuredig. Nid yw llais y bobl hyn yn cael ei glywed.  Ymhlith y grwpiau hyn mae dynion, Sipsiwn Roma a Theithwyr a chymunedau LGBT+.

Mae'n bwysig bod gan bawb lais, felly mae fy swyddogion yn cychwyn prosiect yn ystod mis Medi, gyda'r bwriad o gyflawni dau brif amcan:

• gwella cynrychiolaeth mewn gwaith ymgysylltu â goroeswyr yn y dyfodol drwy gynnal ymchwil sylfaenol gyda'r grwpiau o oroeswyr sydd wedi eu tangynrychioli yng nghanfyddiadau gwaith ymgysylltu blaenorol; a

• cynnal cynllun peilot bychan ar gyfer panel cenedlaethol i ymgysylltu â goroeswyr.

Bydd y cynllun peilot yn rhedeg tan fis Mawrth 2019 a bydd yn gwneud argymhellion o ran arferion dros dymor hirach wedi i ni asesu'r canfyddiadau. Edrychaf ymlaen at gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor maes o law.