Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf, cyflwynais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynghylch i ba raddau y mae Awdurdodau Tân ac Achub wedi gweithredu yn unol â’n Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub.  Addewais gyflwyno adroddiad arall, pan fyddai data ar gyfer 2018-19 ar gael.  Rwy’n falch o wneud hyn nawr, ac rwy’n cyhoeddi fy adroddiad llawn heddiw

Y fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub: adroddiad cynnydd 2019

Mae’n bleser mawr gennyf ddweud bod yr adroddiad yn cadarnhau’r negeseuon cyffredinol a gyflwynais yn ystod yr haf diwethaf.  Ar ôl dadansoddi data ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban, mae’n ymddangos bod ein Gwasanaethau Tân ac Achub yn parhau i lwyddo i leihau nifer a difrifoldeb achosion o dân cyn belled ag y gallant.

Cafwyd llwyddiant arbennig o ran tanau mewn cartrefi.  Mae’r rhain yn cyfrif am gyfran fechan o’r holl danau yn unig, ond mae’n golygu’r mwyafrif helaeth o anafusion.  Maent yn cael effaith anghymesur ar bobl sy’n hen, yn fregus, yn anabl, neu’n agored i niwed fel arall. Hyd yn oed os nad oes unrhyw anafusion, gall y difrod i eiddo a’r effaith ar fywydau bob dydd pobl fod yn drychinebus. 

Felly, mae’n braf adrodd bod nifer y tanau mewn cartrefi yng Nghymru ar ei lefel isaf erioed erbyn hyn. Mae’r niferoedd hyn wedi disgyn yn is ac yn gyflymach nag yn Lloegr a’r Alban.  Hefyd, mae tanau sy’n cael eu hachosi gan gyflenwadau trydanol anniogel yn y cartref - a oedd yn ymddangos yn broblem ddifrifol tan yn ddiweddar - wedi gostwng yn sylweddol ers i ni dynnu sylw Awdurdodau Tân ac Achub at y mater.

Does gen i ddim amheuaeth fod y llwyddiant hwn yn rhannol oherwydd y pwyslais mawr y mae’r Gwasanaeth yn ei roi ar atal tanau a gwella ymwybyddiaeth o risgiau tân.  Fel y gwelir yn fy adroddiad, ni sydd â’r rhaglen fwyaf helaeth o ddigon o ymweliadau i wirio diogelwch tân yn y cartref ym Mhrydain. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n effeithiol ar y bobl sydd fwyaf mewn perygl oherwydd tanau.  Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr ymweliadau hyn, a’r dyfeisiau diogelwch sy’n cael eu darparu, yn rhad ac am ddim i ddeiliaid tai. 

Y llynedd, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y tanau ar laswelltir a ddechreuwyd yn fwriadol yn ystod haf eithriadol o boeth.  Roedd hyn yn amlwg y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub; wnawn ni ddim cael gwared â’r perygl hwn yn gyfan gwbl, ac mae’n bosibl y bydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o risgiau yn y tymor hwy hefyd.  Serch hynny, rwy’n fodlon bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithio’n dda gydag asiantaethau partner i atal pobl rhag dechrau tanau, ac yn ymateb yn effeithiol pan fydd achosion yn codi. 

Mae’r adroddiad yn amlygu rhai pryderon hefyd.  Mae nifer cymharol uchel o danau mewn cartrefi yn ymledu y tu hwnt i'r ystafell lle maent yn dechrau, ac nid yw’r gymhareb o anafusion i danau mewn cartrefi wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf - sy’n golygu bod pobl yr un mor debygol o gael eu hanafu ag yr oeddent o'r blaen pe byddai tân yn dechrau.   Mae’r rhain yn faterion cymhleth.  Nid ydynt yn golygu bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yn perfformio’n wael o anghenraid; ond mae’r ffigurau’n destun pryder, ac mae’n werth craffu mwy arnynt.

Rwy’n bryderus am rai o’r materion corfforaethol sydd wedi’u datgelu yn yr adroddiad.  Mae ein gwasanaethau tân ac achub yn costio tua 29% yn fwy y pen bob blwyddyn na’r gwasanaethau cyfatebol yn Lloegr, er eu bod yn gwneud gwaith tebyg yn unol â safonau cymharol debyg.  Mae’n eithaf tebygol fod hyn yn adlewyrchu toriadau gan Lywodraeth y DU, ac mae nifer o unigolion yn y Gwasanaeth yn credu eu bod wedi mynd yn rhy bell. 

Mae’r Gwasanaeth hefyd yn parhau i ddelio â nifer uchel o alwadau tân diangen.  Mae’r rhain yn fwy niferus na’r tanau go iawn, ac maent yn cyfrif am oddeutu 40% o’r holl achosion y mae’r Gwasanaeth yn rhoi sylw iddynt, ac yn arwain at ddefnyddio llawer o adnoddau am ddim budd o gwbl.  Dylai perchnogion a meddianwyr adeiladau wneud mwy i atal hyn. Ond mae yna gamau syml, diogel a phrofedig y gall Awdurdodau Tân ac Achub eu cymryd o hyd ac y dylent eu cymryd hefyd.  Ar y cyfan, mae’r cynnydd o ran lleihau nifer yr achosion o alwadau diangen wedi bod yn llawer arafach nag yn Lloegr. 

Rwy’n awyddus i weithio gyda’r Awdurdodau Tân ac Achub i wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu mewn modd mor effeithiol ac effeithlon ag y gallant.

Yn gyffredinol, serch hynny, mae’r adroddiad yn dangos bod y Gwasanaeth yn perfformio’n dda yn ei rôl graidd.  Yn wir, mae perygl y bydd yn dioddef yn sgil ei lwyddiant ei hun.  Mae nifer yr achosion o dân mor isel erbyn hyn, mae’r Gwasanaeth yn llai a llai prysur mewn sawl rhan o Gymru.  Fel y dywedais ym mis Gorffennaf, dim ond i lond llaw o danau y mae nifer o orsafoedd tân gwledig yn ymateb iddynt bob mis bellach, os hynny.  Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar alwad, y mae’r rhan fwyaf o Gymru yn dibynnu arnynt. Mae risg y bydd cynaliadwyedd y Gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig mewn perygl.  Mae’n ymddangos bod y gostyngiad yn y llwyth gwaith yn gysylltiedig â chynnydd mewn absenoldeb salwch ymhlith diffoddwyr tân, sy’n destun pryder.  Mewn cyfnod o gyni parhaus a difrifol, mae gofyn i ni fod yn gwbl sicr ein bod ni’n defnyddio’n holl adnoddau gwasanaeth cyhoeddus yn y ffordd orau. 

Mae’r posibilrwydd o ehangu rôl y Gwasanaeth yn sgil y tueddiadau hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod ers tro.  Mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi’n dda i ddelio ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, heblaw am dân yn unig. Mae ganddynt yr arbenigedd a’r parch i godi ymwybyddiaeth ynghylch bygythiadau nad ydynt yn danau a’u hatal hefyd. Mae potensial amlwg i'r Gwasanaeth wirioneddol gyfrannu at gefnogi’r GIG yn benodol, boed hynny o ran ymateb i argyfyngau meddygol neu helpu i atal damweiniau fel codymau yn y cartref; ac mae tystiolaeth argyhoeddiadol fod hyn yn sicrhau gwell canlyniadau ac arbedion sylweddol. Mae nifer o enghreifftiau da o hyn yn digwydd, ond maent yn aml ar raddfa fechan ac i’w gweld bob yn dipyn. 

Rwy’n credu bod gofyn i ni fynd ymhellach, a gwneud hynny mewn ffordd fwy cyson a strategol.  Rwy’n dymuno gweld Gwasanaeth Tân ac Achub sy’n delio ag amrywiaeth o fygythiadau i iechyd a diogelwch pobl, a hynny o ran atal ac ymateb i argyfyngau, gan ategu yn hytrach na dyblygu gwaith gweithwyr proffesiynol eraill. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni fanteisio i’r eithaf ar werth cyhoeddus y Gwasanaeth a sicrhau dyfodol cynaliadwy ar ei gyfer. 

Bydd cyflawni hynny’n dasg gymhleth a llafurus.  Yn gyntaf oll, ac yn fwyaf amlwg, mae arnom angen cael cytundeb ynghylch tâl ac amodau diffoddwyr tân, sy’n adlewyrchu rôl ehangach yn deg.  Mae trafodaethau dwyochrog ar lefel y DU wedi bod yn araf iawn yn hyn o beth.   Er nad wyf yn dymuno camu y tu hwnt i’r dull negodi presennol, rwy’n credu y gallai pennu cyfres o ofynion cliriach, wedi’u diffinio’n well i Gymru roi’r hwb ymlaen angenrheidiol i’r trafodaethau.   Rwy’n hapus ailadrodd ein hymrwymiad i ystyried darparu cymorth ariannol ar gyfer cytundeb tâl sy’n bodloni anghenion Cymru a diffoddwyr tân Cymru.

Yn ail, mae arnom angen cytundeb cadarn a strategol rhwng y Gwasanaeth Tân, y GIG a phartneriaid eraill, er mwyn gallu defnyddio adnoddau’r cyntaf lle mae eu hangen fwyaf.  Mae uwch reolwyr eisoes yn cynnal trafodaethau adeiladol ynghylch hyn.

Yn olaf, mae angen inni sicrhau bod gan yr Awdurdodau Tân ac Achub y mecanweithiau cyllido a llywodraethiant sydd eu hangen i gefnogi’r rôl hon i’r dyfodol, a byddaf yn trafod hynny ymhellach gyda’r Awdurdodau ac eraill.

Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol, werthfawr ac angenrheidiol.   Mae’n mynd yn bell y tu hwnt i’m portffolio, ac yn cynnwys nifer o feysydd eraill o wasanaeth gyhoeddus, a byddaf yn trafod y manylion ymhellach gyda’m cydweithwyr yn y Cabinet yn fuan. Ond mae cyfle gwirioneddol yma i fanteisio ar lwyddiant y Gwasanaeth yn barod ac i gynyddu ei werth i bobl Cymru.   Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach maes o law.