Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 21 Tachwedd 2021, rhoddais ddiweddariad i’r Aelodau ynghylch sut y byddem yn symud ymlaen â’r cynigion deddfwriaethol yn y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth, gan gynnwys yr ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno Fframwaith Cenedlaethol strategol ar gyfer Gofal a Chymorth ac i ddeddfu i gryfhau trefniadau partneriaethau rhanbarthol. Cyfeiriais hefyd at fy mwriad i sefydlu swyddfa genedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru i oruchwylio’r gwaith o weithredu’r Fframwaith hwnnw.
Yn sgil hynny, sefydlwyd y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth i gyflawni’r ymrwymiadau a sicrhau eu bod yn gydnaws ag ymrwymiadau eraill y Llywodraeth, gan gynnwys y Fforwm Gwaith Teg, newid i fodelau gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a Bil Caffael Llywodraeth y DU.
Cafodd grŵp technegol ei greu fis Rhagfyr diwethaf i ystyried a darparu argymhellion ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol. Roedd yr aelodau’n cynnwys sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol, megis comisiynwyr, cynllunwyr, a darparwyr gwasanaethau gofal a chymorth. Bellach rwyf wedi cael adroddiad y grŵp technegol sy’n gwneud 26 o argymhellion ar gyfer cynnwys arfaethedig y Fframwaith. Hoffwn ddiolch i’r aelodau am roi o’u hamser, a hefyd eu hymroddiad, eu profiad a’u harbenigedd, wrth ddatblygu’r polisi hanfodol a chymhleth hwn.
Bydd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yn cael ei osod mewn Cod Ymarfer statudol. Bydd hwn yn cael ei gyd-gyhoeddi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mewn canllawiau o dan Ddeddf GIG (Cymru) 2006. Bydd fy swyddogion yn dechrau’r broses iteru i gynhyrchu fersiwn ddrafft o’r cod ymarfer, a byddwn yn ymgynghori ar y fersiwn honno y flwyddyn nesaf.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r sector a dinasyddion wrth inni ddatblygu’r Fframwaith Cenedlaethol. Bydd grŵp bach, sy’n cynnwys aelodau o’r grŵp technegol, yn cael ei sefydlu i gyd-gynhyrchu’r polisi hwn. Mae’n bosibl y bydd y grŵp technegol hefyd yn trafod datblygiadau polisi pwysig wrth i’r cam nesaf yn y gwaith fynd rhagddo.
Mae gwaith y grŵp technegol wedi cyd-redeg â gwaith y grŵp arbenigol, a gafodd ei greu i ymchwilio i sut y gallem symud ymlaen ag ymrwymiad y Cytundeb Cydweithio i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Mae Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell, a finnau yn ystyried adroddiad cynhwysfawr ac argymhellion y grŵp arbenigol.
Mae’r gwaith helaeth a’r argymhellion a wnaed gan y ddau grŵp yn seiliedig ar weledigaeth, gwerthoedd ac egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ddwy set o argymhellion yn cyd-fynd yn uniongyrchol ac mae synergedd rhyngddynt ar eu traws, ac rwyf o’r farn bod hyn yn darparu sicrwydd bod datblygu a gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol yn creu’r camau pwysig cyntaf tuag at wireddu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn y flwyddyn newydd ynghylch sut yr ydym yn bwriadu bwrw ymlaen ag argymhellion y grŵp arbenigol, a chamau nesaf y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth, gan gynnwys amserlen fanylach ar gyfer cynnal ymgynghoriad ar y cod ymarfer drafft.