Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwenda Thomas y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau uchel eu safon, integredig, cynaliadwy, diogel ac effeithiol. Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar bobl yw’r rhain, gan adeiladu ar eu cryfderau a hybu eu llesiant.

Mae gan bawb hawl i fwynhau llesiant, ac mae’n gyfrifoldeb ar bawb. Rhaid inni helpu pobl i sicrhau llesiant drwy gydnabod a gwerthfawrogi cryfderau pobl, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymunedau.

Rydym wedi bod yn cydweithio ag amrywiaeth eang o bartneriaid i benderfynu beth yw ystyr llesiant. Nodwyd hyn yn ein fframweithiau canlyniadau iechyd a llesiant.

Disgwyliwn i’r fframweithiau hyn sbarduno’r gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol i gydweithio, ochr yn ochr â’r trydydd sector a’r sector annibynnol.

Rydym wedi bod yn glir fod rhaid integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol o amgylch pobl, er mwyn sicrhau canlyniadau o ran llesiant. Mae gwasanaethau yn cyfrannu at hyn mewn ffordd arbennig iawn, ac mae’r fframwaith yn cydnabod hynny. 

Rydym yn cyhoeddi Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol heddiw. Bydd Fframwaith Canlyniadau’r GIG yn dilyn yn yr haf.

Bydd y fframweithiau yn ein helpu i fesur faint o wahaniaeth y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei wneud i fywydau pobl, mewn gwirionedd, a'r ffordd y maent yn galluogi pobl i gyflawni’r pethau rydym yn disgwyl eu cael ein hunain, ac yn disgwyl i’n teulu a’n ffrindiau eu cael.

Bydd hyn yn cryfhau’r angen i gael gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar bobl, gan gynnwys sicrhau bod pobl yn chwarae rhan uniongyrchol yn y broses o gyfrannu at eu llesiant eu hunain. Rhaid i’r fframweithiau hyn fod yn rhan anhepgor o’n polisïau a’n harferion. Byddwn yn parhau i drafod ein dull gweithredu er mwyn sicrhau bod y canlyniadau a amlinellir yn y fframweithiau hyn yn adlewyrchu iechyd a llesiant pobl Cymru.