Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Bydd cyllideb tymor hir yr UE, neu’r Fframwaith Ariannol Amlflynyddol (MFF), ar gyfer 2014-2020 yn pennu’r uchafswm y bydd modd ei wario ar feysydd polisi penodol (gan gynnwys y Cronfeydd Strwythurol a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin) ym mhob cyllideb flynyddol dros y cyfnod o saith mlynedd. Rhaid wrth unfrydedd rhwng Llywodraethau’r Aelod-wladwriaethau ar yr MFF ac am y tro cyntaf, rhaid hefyd cael sêl bendith Senedd Ewrop iddo. Caiff ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Ewrop ar 7-8 Chwefror.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dadlau’n gryf dros achos Cymru ers cyn i’r Comisiwn Ewropeaidd gyhoeddi’r cynigion cyntaf ar gyfer yr MFF yn 2011. Mae Gweinidogion Cymru wedi datgan yn glir o’r dechrau, wrth Lywodraeth y DU ac yn uniongyrchol wrth Sefydliadau’r UE, gydol y trafodaethau am yr MFF, y byddai torri’r Gyllideb yn groes i fuddiannau Cymru. Rydym am weld cynnal y lefelau gwariant cyfredol ar y PAC ac ar y Cronfeydd Strwythurol, i’n helpu trwy’r anawsterau economaidd presennol.
Amcan pennaf Llywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau am yr MFF yw dod â gwaith a thwf i Gymru. Ym mhob un o gyfarfodydd Cydbwyllgor Gweinidogion Ewrop y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill wedi cymryd rhan ynddynt ers Mehefin 2011, rwyf wedi ategu’r pwyslais hwnnw a’n hawydd mawr i weld y gwariant ar y PAC a’r Cronfeydd Strwythurol yn para ar lefelau heddiw. Rwyf wedi manteisio ar bob cyfle yng nghyfarfodydd y Cydbwyllgor i ddatgan mor bwysig i Gymru yw nawdd yr MFF ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi trwy’r fenter Horizon 2020 ac ar gyfer buddsoddi yn y rhwydweithiau trafnidiaeth, telathrebu ac ynni trwy Gyfleuster Cysylltu Ewrop. Maent oll yn sbardunau pwysig ar gyfer swyddi a thwf.
Rwyf siarad â Gweinidog Ewrop lawer gwaith i ddadlau dros Gymru a thros gynnal maint yr MFF ac yn uniongyrchol â Gweinidogion Defra ynghylch y PAC ac wedi mynd i bob un o gyfarfodydd Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ers Medi 2011. Rwyf wedi cynnal trafodaethau tebyg â Gweinidogion BIS am bwysigrwydd y Cronfeydd Strwythurol i Gymru, yn enwedig yn y Gorllewin a’r Cymoedd, a bum hefyd yng nghyfarfodydd y Cyngor Materion Cyffredinol ym Mehefin a Thachwedd 2012, pan drafodwyd y Polisi Cydlyniant a’r Cronfeydd Strwythurol.
Mae’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ hefyd wedi trafod yr MFF, hynny â phen Weinidogion y Trysorlys trwy gyfres o gyfarfodydd a galwadau deuochrol ers 2011.
Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi dadlau dros Gymru mewn cysylltiad â’r MFF a phwysigrwydd arian a rhaglenni’r UE, yn uniongyrchol â’r Comisiwn Ewropeaidd ac â Senedd Ewrop. Cyfarfu’r Prif Weinidog â Chomisiynydd y Gyllideb, Mr Lewandowski, a’r Comisiynydd Polisi Rhanbarthol, Mr Hahn ym Mrwsel llynedd ac mae’r Comisiynydd Hahn a’r Comisiynydd Amaeth, Mr Cioloş wedi ymweld â Chymru yn y 12 mis diwethaf i drafod yr MFF, ymhlith pethau eraill.
Rwyf wedi cwrdd ag ASEau sy’n arwain ym maes y Cronfeydd Strwythurol a’r PAC nifer o weithiau i fynegi safbwynt Llywodraeth Cymru ar bwysigrwydd y rhaglenni hyn a’r gyllideb.
Ond er dadlau’n hachos mor gryf a chyson dros Gymru trwy bob cyfrwng posibl, nid oes sicrwydd y cawn gytundeb ar yr MFF yn uwchgynhadledd arweinwyr yr UE yr wythnos hon fydd yn bodloni’n holl amcanion.
Un peth sy’n ein poeni’n fawr yw’r posibilrwydd y gellid cwtogi arian y Cronfeydd Strwythurol i’r Gorllewin a’r Cymoedd. Cododd y posibilrwydd hwn yn uwchgynhadledd yr MFF fis Tachwedd diwethaf pan gynigiodd Llywydd Cyngor Ewrop (Herman van Rompuy) newid y fformwla ar gyfer dyrannu’r Cronfeydd Strwythurol i ranbarthau tlotaf neu “lai datblygedig’ yr UE. O’i dderbyn, byddai’n golygu toriadau i’r rhanbarthau hynny, gyda’r rhanbarthau llai datblygedig yn yr Aelod-wladwriaethau cyfoethocaf yn teimlo mwy na’u siâr o effaith y toriadau - rhanbarthau fel y Gorllewin a’r Cymoedd a Chernyw ac Ynysoedd Scilly yn Lloegr a allai orfod dioddef toriadau difrifol. I’r Gorllewin a’r Cymoedd, byddai’r cynnig yn golygu rhyw £400m yn llai o arian ar gyfer 2014-2020 o’i gymharu â 2007-2013. Pe bai’r MFF yn cael ei rewi ar y llaw arall, gan ganiatáu ar gyfer chwyddiant, byddai’r rhanbarth yn derbyn rhyw £400m yn fwy o gyllid. Byddai’r toriadau hyn, rhyw £800m i gyd (a hyn sy’n anodd ei lyncu) yn digwydd yn wyneb y cynnydd yn y cyllid ar gyfer rhanbarthau brasach.
Yn ogystal â’r sefyllfa ynghylch y Cronfeydd Strwythurol, nid yw’r rhagolygon ar gyfer y PAC yn dda chwaith. Cafwyd tair fersiwn o gyllideb y PAC hyd yma. Cynigir gostyngiad cyffredinol yn y ddau, yn amrywio o 3% i 9% o’i gymharu â’r hyn a neilltuwyd ar gyfer 2007-2013.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU am y MFF ac rwyf wedi llythyru â Gweinidog BIS sy’n gyfrifol am Gronfeydd Strwythurol. Mae’r Gweinidog Cyllid wedi siarad ag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys sy’n arwain y trafodaethau am yr MFF. Rydym wedi’i gwneud yn glir y byddai cynigion van Rompuy’n cael effaith ddifrifol iawn ar gymunedau bregus mewn rhanbarthau fel y Gorllewin a’r Cymoedd tra bod yr arian i ranbarthau cyfoethocach yr UE yn cynyddu.
Rydym wedi dweud y byddai’r canlyniad hwnnw yn gwbl groes i safbwynt y DU yn y trafodaethau, sef y dylai’r Cronfeydd Strwythurol gael eu neilltuo i ranbarthau tlotaf yr UE ac y dylai’r DU roi cefnogaeth gref i newid cynnig van Rompuy a lleihau’r toriadau i ranbarthau llai datblygedig. Rydym wedi dadlau hefyd y dylai Llywodraeth y DU ofyn am arian ychwanegol ar gyfer rhanbarthau tlotaf y DU (y Gorllewin a’r Cymoedd a hefyd Cernyw ac Ynysoedd Scilly) er mwyn lleihau effeithiau’r toriadau. Dylai ystyried hefyd cynnig “rhwyd ddiogelwch” – sef na ddylid torri mwy na swm penodol yn y dyraniad i’r rhanbarthau o’r Cronfeydd Strwythurol.
Bydd Gweinidogion Cymru’n dal ati i fanteisio ar bob cyfle i ddadlau dros Gymru yn y trafodaethau am yr MFF ac wedi hynny ac yn ôl y gofyn, yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU.