Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyhoeddi Fframwaith Gweithredu Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) yn ben llanw dwy flynedd o waith caled gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen EOTAS o dan gadeiryddiaeth Ann Keane, a'r sector, ac mae'n nodi dechrau'r diwygiad mwyaf o Unedau Cyfeirio Disgyblion a darpariaeth EOTAS yng Nghymru. Rwy'n credu bod trafod â'r sector yn hollbwysig er mwyn gweithredu'r Fframwaith, a dyna pam y cyhoeddais y Fframwaith ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mehefin 2017.

Er nad yw'n syndod, rwy'n falch iawn o ddweud bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ffurfiol, a'r adborth o ddigwyddiadau ymgynghori, wedi bod yn hynod bositif. Gwrandawodd y Grŵp gorchwyl a Gorffen ar yr hyn yr oedd gan y sector i'w ddweud ynghylch yr heriau a wynebwyd, a'r newidiadau sydd eu hangen, ac maent wedi gweithio'n galed i sicrhau bod eu cynigion yn adlewyrchu'r adborth hwn.

Mae'r Fframwaith yn gynllun hirdymor. Rydym wedi mabwysiadu dull fesul cam o weithredu'r cynigion, nid yn unig i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn dull ystyriol ac amserol, ond hefyd gan bod yn rhaid i'r Fframwaith ategu'r trawsnewid ehangach yn y sector addysg. Mae'n rhaid i'r ddarpariaeth EOTAS lunio rhan gyfannol o barhad cynhwysol ein haddysg - ni ddylai fod yn rhywbeth sy'n cael ei ychwanegu ato.

Hoffwn ddiolch i Ann Keane a Grŵp Gorchwyl a Gorffen EOTAS am eu gwaith caled yn pennu cyfeiriad y Fframwaith, ac i Grŵp Cyflawni EOTAS, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Brett Pugh, sydd wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb ac a fydd yn gweithio gyda'r sector i weithredu'r Fframwaith. Yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i'r sector am eu trafodaethau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf o ddatblygiadau. Mae'r sector wedi bod, ac yn parhau i fod, yr eiriolwr gorau dros ddysgwyr sy'n defnyddio'r ddarpariaeth EOTAS.

http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/pupilsupport/education-otherwise-than-at-school-framework/?lang=cy