Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi 2015, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Gofynnwyd i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Addysg Heblaw yn yr Ysgol o dan gadeiryddiaeth cyn Brif Arolygydd Estyn, Anne Keane, ddatblygu 'Fframwaith ar gyfer Gweithredu' - atebion ymarferol i'r problemau sy'n wynebu Unedau Cyfeirio Disgyblion a darparwyr ehangach addysg heblaw yn yr ysgol er mwyn llywio gwell deilliannau ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol.

Rydw i bellach wedi derbyn y Fframwaith terfynol ar gyfer Gweithredu gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Addysg Heblaw yn yr Ysgol er mwyn ei ystyried. Mae'r sector addysg heblaw yn yr ysgol a'r Unedau Cyfeirio Disgyblion yn hynod o amrywiol ac nid tasg hawdd fu datblygu atebion yn rhan o gontinwwm darparu addysg yn hytrach na fel rhywbeth ar wahân. Hoffwn achub ar y cyfle felly i ddiolch i aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am eu gwaith caled.

Wrth annerch cynadleddau Addysg Heblaw yn yr Ysgol y llynedd, fe bwysleisiais bwysigrwydd ymwneud â'r sector wrth ddatblygu'r Fframwaith ar gyfer Gweithredu. Bu'r mewnbwn gan y tair cynhadledd diwethaf yn allweddol wrth benderfynu ar y camau oedd yn angenrheidiol i wella Unedau Cyfeirio Disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol. Mae'n hanfodol bod y cyswllt yma yn parhau a dyna'r rheswm dros lansio Fframwaith ar gyfer Gweithredu ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol at ddibenion ymgynghori. Mae'r Fframwaith yn cynnwys 34 o gynigion i'w cyflwyno'n raddol a bydd y manylion yn cael eu mireinio drwy ymgynghori â'r sector.

Er mwyn hwyluso'r broses ymgynghori a rhoi ar waith y camau gweithredu terfynol y cytunir arnynt, rydw i wedi sefydlu Grŵp Cyflenwi Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac wedi gwahodd Dr Brett Pugh, cyn Gyfarwyddwr Gweithlu a Safonau Ysgolion Llywodraeth Cymru i fod yn Gadeirydd ar y Grŵp. Bydd y Grŵp Cyflenwi yn gweithio gyda fy swyddogion i drefnu digwyddiadau ymgysylltu yn ystod yr ymgynghoriad. Caiff y digwyddiadau eu cynnal ledled Cymru a chaiff y manylion eu cyhoeddi cyn hir. Byddwn yn annog pawb yn y sector i fynd i'r digwyddiadau hyn.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/fframwaith-gweithredu-ar-gyfer-darpariaeth-addysg-heblaw-yn-yr-ysgol