Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhaglenni buddsoddi rhanbarthol wedi cael effaith sylweddol ar fywydau pobl Cymru ers dros 20 mlynedd, gan eu helpu i gael gwaith a darparu’r amodau ar gyfer swyddi newydd a gwell.

Ers y Refferendwm yn 2016, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru ar bolisi buddsoddi rhanbarthol newydd sy’n ein rhoi mewn sefyllfa gref i fwrw iddi’n syth pan fydd cyllid Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi’r UE yn dechrau dirwyn i ben tua diwedd eleni.

Yn ystod y cyfnod hwn, rydym hefyd wedi ceisio symud trafodaethau â Llywodraeth y DU yn eu blaenau ynglŷn â chyllid yn lle’r cyllid hanfodol hwn ar sail angen yng Nghymru. Rydym yn pwyso am ddim ceiniog yn llai nag y byddem wedi’i ddisgwyl o fewn yr UE ac yn galw am ymreolaeth ddatganoledig i Lywodraeth Cymru o ran datblygu’r trefniadau newydd a’u rhoi ar waith.

Dros dair blynedd ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer y DU, rydym yn parhau i deimlo’n rhwystredig gan y diffyg cynnydd, eglurder, a dadl ystyrlon ganddynt. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod y Gronfa hon. Ymrwymodd ef i ymgysylltu’n fwy ar ôl yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, ond nid wyf wedi cael ateb i fy ngheisiadau i gyfarfod â Gweinidogion y DU sy’n arwain y gwaith ar y Gronfa.

Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan mewn sgwrs fywiog a chynhyrchiol â rhanddeiliaid allweddol a chymdeithas sifil i ddatblygu trefniadau olynol. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â channoedd o sefydliadau o ystod eang o sectorau yng Nghymru. Ffrwyth ein cydweithrediad yw ein Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw. Mae’r Fframwaith hwn yn nodi ein strategaeth lefel uchel ar gyfer sicrhau ffyniant ac economi gynhwysol y bydd ymyriadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (h.y. Cymru gyfan) yn cyfrannu ati.

Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio gyda ni am eu hymroddiad, eu brwdfrydedd a'u harbenigedd i'n helpu i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Mae Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies AS, ynghyd â’r gweithgorau technegol, yn cynnwys trawstoriad o gynrychiolwyr o lywodraeth leol, y sector preifat, prifysgolion a cholegau a'r trydydd sector. Mae pob un wedi chwarae rhan werthfawr wrth ein cynghori ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn y gellir ei wneud yn well yn y tymor hwy. Rydym wedi cael cyfraniadau manwl a meddylgar gan bwyllgorau’r Senedd, yn enwedig y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth ychwanegol a’r Pwyllgor Cyllid. Mae llawer o’r un farn â hwy yn Senedd y DU hefyd, fel yr adroddwyd gan y Pwyllgor Materion Cymreig a’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gyllid Ôl-Brexit ar gyfer Cenhedloedd, Rhanbarthau ac Ardaloedd. Cawsom adborth a safbwyntiau helaeth hefyd drwy ein hymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach eleni, yn ogystal â thrwy ddysgu am yr arferion gorau mewn gwledydd eraill drwy ein partneriaeth â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae’n galonogol fod bron pawb yng Nghymru, sy’n rhoi’r prif bwys ar y budd cyffredinol i economi Cymru a'i chymunedau, yn gallu cytuno ar yr un pwyntiau sylfaenol: bod yn rhaid cynnal y lefelau cyllid, a bod angen dull gweithredu Cymreig i ddarparu'r cyllid olynol hwn mewn cyd-destun Cymreig.

Wrth wraidd ein Fframwaith mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fel y gallwn gefnogi twf cynaliadwy a chynhwysol ym mhob rhan o Gymru yn well, a hynny wedi’i werthuso drwy ddull seiliedig ar ganlyniadau sy'n canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth eang ar gyfer buddsoddi:

  • Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol, gan gynnwys rôl hanfodol arloesi ac ymchwil
  • Lleihau'r ffactorau sy'n arwain at anghydraddoldeb economaidd i bobl, gan gynnwys sgiliau a mynediad at waith
  • Cefnogi'r broses o bontio i economi ddi-garbon, gan fanteisio ar y cyfleoedd y mae hyn yn ei greu yn ogystal â lleihau effeithiau negyddol twf
  • Cymunedau iachach, tecach a mwy cynaliadwy, gan gryfhau'r hyn sy'n gwneud i gymunedau Cymru a'u heconomïau lwyddo a rôl ardaloedd lleol o ran nodi blaenoriaethau yn eu cymunedau.  

Mae newid cyflym wedi digwydd yn hanes diweddar Cymru ac mae'r newidiadau hynny'n parhau. Mae ein Fframwaith yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn hyblyg fel y gallwn fynd i'r afael â'r gwendidau economaidd strwythurol allweddol y mae Cymru'n parhau i'w hwynebu a'r heriau enfawr a'r ffyrdd newydd o weithio sy'n gysylltiedig ag ymadael â’r UE. Yn ogystal, mae cyfleoedd sylweddol i flaenoriaethu sectorau ac amcanion strategol yn ein pedwar maes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi, gan adlewyrchu’r gwaith manylach ar adferiad economaidd sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael ag effaith y pandemig Covid yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Drwy gydol y broses o ddatblygu ein Fframwaith, ein huchelgais oedd sicrhau cydbwysedd rhwng cynllunio a chyflawni yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, gan sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel briodol o lywodraethu ac mor agos at lefel y dinesydd â phosibl. Mae'r OECD wedi cymeradwyo'r uchelgais hon drwy ei argymhellion tymor byr a thymor canolig ar fuddsoddi cyhoeddus a llywodraethu rhanbarthol, y mae Llywodraeth Cymru wrthi'n eu hystyried gyda rhanddeiliaid. Dyma gonglfaen ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi hefyd, sy'n dangos pwysigrwydd lle a phobl, a'n cynlluniau ar gyfer adferiad economaidd yn sgil y pandemig.

Felly, mae'r Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo cymaint â phosibl o’r gwaith penderfynu a blaenoriaethu i ardaloedd a rhanbarthau lleol. Bydd hyn yn eu galluogi i barhau i ddatblygu eu cryfderau a'u cyfleoedd unigryw eu hunain a chwarae rhan fwy o lawer wrth ddyrannu cyllid a rheoli portffolios prosiectau rhanbarthol penodol. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn gweithio gyda'r rhanbarthau i adeiladu ar eu trefniadau llywodraethu presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg a rhoi'r fframwaith cyfreithiol digonol a digon o gymorth iddynt fel eu bod yn cael eu grymuso i gyflawni'r buddsoddiadau ehangach hyn ar raddfa fawr. Ein mecanwaith arfaethedig yw'r Cyd-bwyllgorau Corffororedig y bwriedir eu sefydlu o dan y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd a’r rheoliadau sy'n destun ymgynghori. Bydd y Cyd-bwyllgorau hyn yn galluogi rhanbarthau a chymunedau i flaenoriaethu dyraniadau cyllid a phortffolios o ymyriadau integredig mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith hwn ac â’r Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol sydd wrthi’n cael eu dylunio ar y cyd â rhanddeiliaid ac mewn partneriaeth a thimau Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.

Y ffordd orau o reoli rhai o ymyriadau ein Fframwaith (e.e. darparu mynediad at gyllid i fusnesau, sgiliau a chyflogadwyedd ac ati) fydd gwneud hynny ar lefel Cymru gyfan; er enghraifft er mwyn elwa ar arbedion maint, cydlynu a gwneud y gorau o arloesedd ar draws rhwydwaith o bartneriaethau, neu fanteisio ar arbenigedd technegol penodol, na fydd o reidrwydd ar gael ym mhob rhanbarth. Bydd angen i brosiectau cenedlaethol, yn eu hachos busnes ar gyfer cyllid, nodi sut y byddant yn cyflawni i’r graddau mwyaf posibl yn erbyn amcanion strategol ein Fframwaith i gyd-fynd â blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, a amlinellir ar lefel genedlaethol. Bydd angen iddynt ddangos hefyd bod ymgysylltu llawn wedi digwydd â’r rhanbarthau fel bod buddsoddiadau o'r fath yn cael eu cynllunio ar gyfer y bobl a'r lleoedd y bwriedir iddynt eu helpu a’u bod yn canolbwyntio ar y bobl a’r lleoedd hynny.

Mae'r gwahaniaeth y gall cymunedau lleol ei wneud pan fyddant yn dod at ei gilydd, fel y gwelwyd yn ystod y pandemig Covid, yn nodwedd bwysig o'n Fframwaith. Mae'r egwyddorion sy'n sail i ddatblygu, dan arweiniad y gymuned lle mae'r gweithgaredd yn digwydd, yn ddull lleol sy'n seiliedig ar ardaloedd; dulliau cyfranogol partneriaeth a chydgynhyrchu; strategaethau aml-sector integredig; arloesi a rhwydweithio; a chydweithredu. Mae hyn yn elfen bwysig o’n Fframwaith, nid yn unig oherwydd ei fod yn ychwanegu at werth y buddsoddiad yn syth, ond hefyd oherwydd yr effaith a gaiff o ran meithrin gallu mewn ardaloedd lleol drwy gynyddu cyfalaf a rhwydweithiau cymdeithasol, datblygu trefniadau llywodraethu lleol, a gwella’r broses o sicrhau canlyniadau.

Mae’r Fframwaith yn adnodd hollbwysig i sicrhau bod ymyriadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn ategu ei gilydd a’u bod i gyd yn cyfrannu at weledigaeth gyffredin. Ymysg yr egwyddorion pwysig eraill ar gyfer buddsoddi rhanbarthol drwy'r Fframwaith hwn mae:

  • Gwell integreiddio â'n polisïau a mwy o gyfleoedd i gydgysylltu buddsoddiadau a gweithgareddau yng Nghymru, yn ogystal ag yn y DU ac yn rhyngwladol;
  • Cyllid amlflwydd, lle bo modd, i roi sicrwydd cynllunio buddsoddi tymor hwy i sefydliadau a mwy o ffocws ar ganlyniadau;
  • Integreiddio cydraddoldeb, datblygu cynaliadwy a'r Gymraeg;
  • Cydweithio ar draws ffiniau, yng Nghymru a thu hwnt, i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn bartner gweithgar ac uchel ei pharch yn Ewrop ac yn rhyngwladol
  • Gwella’r capasiti a’r gallu mewn rhanbarthau ac ardaloedd lleol;
  • Trefniadau symlach a mwy cymesur sy’n cynnal ein hymrwymiad i sicrhau bod buddsoddiadau yn agored, yn deg ac yn dryloyw.

Yng nghyd-destun y Fframwaith hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei chyfrifoldebau ar gyfer economi Cymru drwy swyddogaeth gydlynu gyffredinol a fydd yn canolbwyntio ar berfformiad a llywodraethu llwyddiannus, ar rannu’r arferion gorau, ac ar gydlyniaeth y Fframwaith yn ei gyfanrwydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r rôl hon mewn ffordd dryloyw ac mewn partneriaeth ag ystod eang o randdeiliaid ledled Cymru.

Mae ein Fframwaith hefyd yn cynnwys cyfnod pontio, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei reoli, gan ganiatáu digon o adnoddau ac amser i bob rhanbarth ddatblygu eu trefniadau rhanbarthol presennol a’r rhai sy’n ymffurfio, gan adeiladu ar y capasiti a'r partneriaethau sydd ganddynt eisoes er mwyn ymgymryd yn llwyddiannus â chyfrifoldebau buddsoddi newydd. Yn ystod y cyfnod pontio hwn, byddwn yn parhau i ddefnyddio'r partneriaethau, y strwythurau a’r fforymau sydd ar waith eisoes yn genedlaethol ac ar draws pob rhanbarth i roi cyngor ar ddosbarthu cyllid rhanbarthol, gan sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith a bod y broses yn cael ei symleiddio a'i mireinio.

Bydd ein Fframwaith yn helpu i sicrhau ffyniant a chynwysoldeb yn yr economi ar draws pob rhan o Gymru, mewn ardaloedd trefol, ardaloedd gwledig, ardaloedd ôl-ddiwydiannol, dinasoedd ac ardaloedd arfordirol. Caiff ei siapio gan ein tirwedd economaidd a chyda diben cymdeithasol go iawn. Bydd yn edrych tuag allan, yn agored i syniadau a chyfleoedd newydd ac yn barod i gystadlu ar lwyfan byd-eang.

Wrth gwrs, mae ein gwaith o gyflawni'r Fframwaith hwn yn dibynnu ar ymgysylltu cadarnhaol â Llywodraeth y DU - rhywbeth sydd heb ei ganiatáu inni hyd yma. Rhaid i Gymru gael cyllid llawn sy’n parchu ein setliad datganoli. Rydym yn ceisio cael cynnydd ar y mater hwn ar fyrder fel nad oes bwlch yn y buddsoddiad yn ein busnesau, ein pobl a’n cymunedau ledled Cymru.