Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Ysgrifennaf atoch i'ch hysbysu y byddaf yn cyhoeddi heddiw gylch gwaith Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Grŵp Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.

Fel y gwyddoch, gwnes lansio ar 17 Chwefror Bapur Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddyfodol Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru – Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer gweithredu.  Mae'n canolbwyntio ar nifer bach o newidiadau mawr, gan gynnwys y ffaith y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn rhagor o gyfrifoldeb am lywio cyfeiriad gwasanaethau a chydweithio â rhanddeiliaid er mwyn datblygu cyfres glir o ganlyniadau cenedlaethol. 

Mae'r Papur yn nodi y caiff Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ei sefydlu o dan arweiniad Gweinidog. Bydd y Fforwm yn cynnwys arweinwyr gwleidyddol rhanddeiliaid cenedlaethol allweddol a chynrychiolwyr gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Bydd yn derbyn cymorth gan Grŵp Arweinyddiaeth Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mae'r cylch gwaith yr wyf yn ei gyhoeddi yn golygu y bydd modd cynnal deialog a thrafodaethau a bydd yn sicrhau'r arweiniad ar gyfer hyrwyddo newidiadau.  Y cam nesaf fydd ystyried manylion y cylch gwaith, yr aelodaeth a sut y caiff penodiadau eu gwneud.