Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddiwedd y llynedd, sefydlwyd Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. Mae'r Fforwm, a sefydlwyd mewn partneriaeth gymdeithasol, yn edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau cyflogaeth i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Aelodau'r Fforwm yw Llywodraeth Cymru; Unsain; GMB; TUC Cymru; Y Fforwm Darparwyr Cenedlaethol; Fforwm Gofal Cymru; ADSS Cymru; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ganddo Gadeirydd Annibynnol, sef yr Athro Rachel Ashworth o Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae'r Fforwm wedi bod yn gweithio'n ddi-oed ers mis Medi i nodi a dechrau gwneud cynnydd ar set o flaenoriaethau cynnar. Rwyf yn falch o fod wedi cael Datganiad Sefyllfa Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yr wythnos hon sy'n disgrifio'r meysydd gwaith y bydd yn eu blaenoriaethu dros y cyfnod sydd o’n blaenau.

Mae'r Datganiad Sefyllfa'n ymrwymiad sylweddol ar ran aelodau'r Fforwm. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi dangos ymroddiad anhygoel wrth ddarparu gofal a chymorth mewn amgylchiadau heriol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r Datganiad Sefyllfa'n fan cychwyn pwysig o ran ymrwymiad i gydweithio i wella eu bywyd gwaith.

Mae'n galonogol gweld partneriaeth gymdeithasol yn gweithio mor dda yn ymarferol ac rwyf yn croesawu'r cydweithredu sydd wedi digwydd wrth gytuno ar y blaenoriaethau a nodwyd yn y Datganiad Sefyllfa.

Mae Datganiad Sefyllfa'r Fforwm Gofal Cymdeithasol ar gael yma:

https://llyw.cymru/fforwm-gwaith-teg-gofal-cymdeithasol