Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i’r Aelodau am fy mhenderfyniad ynghylch Cynllun Ffordd Osgoi Caernarfon a’r Bontnewydd yr A487.
Ar ôl ystyried adroddiad yr Arolygydd yn llawn, mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mhenderfyniad i fwrw ymlaen â’r Cynllun hwn, sy’n rhan o’n Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015.
Rwy’n cytuno’n llwyr â chanlyniad yr Arolygydd bod achos cryf o blaid rhoi’r Cynllun ar waith er mwyn denu traffig trwodd o Lanwnda, Dinas, y Bontnewydd a Chaernarfon, gwneud y dre’n fwy diogel a gwella’n sylweddol yr amodau ar gyfer traffig o bell ar rwydwaith ffyrdd strategol y Gogledd.
Bydd y ffordd osgoi newydd yn arwain at ostyngiad o 72% yn nifer y cerbydau sy’n teithio drwy’r Bontnewydd a gostyngiad o 33% drwy Gaernarfon. Canlyniad hyn fydd llai o hollti cymunedau a chyfleusterau, a gwell diogelwch, ansawdd aer ac ansawdd bywyd yn yr aneddiadau ar hyd y ffordd hon. Bydd cael gwared ar draffig trwodd yn gyfle hefyd i annog teithio llesol o fewn ac o gwmpas Caernarfon a’r Bontnewydd drwy eu cysylltu â’r cymunedau cyfagos.
Hyd y ffordd osgoi fydd 9.7km a bydd yn gerbytffordd sengl 2+1 sy’n rhoi cyfleoedd da i oddiweddyd yn ddiogel. Bydd tair rhan i’r ffordd, gyda chylchfannau newydd ym Meifod a Chibyn. Bydd y ffordd osgoi yn gwella’r cysylltiadau rhwng y Gorllewin â’r A55, Iwerddon a gweddill Prydain Fawr ac Ewrop, gan wella’r cyfleoedd am swyddi a gwasanaethau. Bydd gwella mynediad i Ystad Ddiwydiannol Cibyn yn ogystal â chyrchfannau twristiaeth, gan gynnwys Caernarfon, Penrhyn Llŷn ac Eryri, yn golygu y bydd mwy o gyfleoedd i ddatblygu’r ardal a helpu’r economi leol i ehangu.
Bydd y gweithlu lleol yn elwa’n sylweddol yn ystod cyfnod adeiladu’r ffordd osgoi oherwydd y cyfleoedd am waith a hyfforddiant a fydd yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd yn y tymor byr a’r tymor hir. Bydd defnyddio cyflenwyr lleol hefyd yn rhoi hwb i’r economi leol.
Rwy’n fodlon bod yr holl faterion a godwyd wedi’u hystyried yn fanwl yn ystod y broses statudol ac y bydd y Cynllun yn dod â manteision sylweddol i’r cyhoedd heb achosi niweidiau anghymesur.
Y cam nesaf fydd dyfarnu contract i ddylunio ac adeiladau’r ffordd osgoi, gyda’r gwaith manwl i ddylunio’r cynllun yn dechrau ym mis Mehefin. Gallai’r gwaith adeiladu ddechrau wedyn ym mis Tachwedd a dod i ben yng ngwanwyn 2021.