Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyn y Nadolig, ysgrifennais ar yr holl Aelodau ynghylch y sefyllfa yng Nghymru o ran y ffliw tymhorol. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r diweddaraf am y sefyllfa ac ar y galwadau ar y GIG yn sgil y ffactorau eraill sy'n peri pwysau y gaeaf hwn, fel norofeirws a'r Rhagfyr oeraf yng Nghymru ers dros ganrif.

Mae'r ffliw yn dal i fod ar gynnydd ledled y DU. Ffliw A H1N1 (2009) a B yw'r feirysau pennaf sy'n cylchredeg, gydag ambell enghraifft o feirysau A (H3N2) wedi dod i'r amlwg hwnt ac yma. Mae'r feirws math H1N1 (2009) yn debyg iawn o ran firoleg ac epidemioleg i'r hyn a welwyd yn ystod y pandemig. Mae'r ffliw tymhorol wedi effeithio ar y DU rhyw fis ynghynt na'r arfer ac ymddengys bod mwy o achosion nag yn y blynyddoedd diweddar, er bod y cyfraddau presennol yn is nag yn ystod pandemig H1N1 2009 ac yn llawer is nag yn ystod yr achos o ffliw tymhorol yn 1999-2000.

Cafwyd cynnydd cyson drwy gydol mis Rhagfyr yng nghyfraddau'r rheini aeth i ymgynghori â'u meddyg teulu. Y gyfradd ymgynghori dros dro ar gyfer y ffliw yng Nghymru yn ystod wythnos 52 (yr wythnos oedd yn dod i ben 2/1/2011), fel yr adroddwyd hi drwy'r Cynllun Sentinel i Feddygon Teulu ar gyfer Gwylio Heintiadau, yw 89.2 ymgynghoriad fesul pob 100,000 o'r boblogaeth. Mae hyn o fewn y diffiniad o weithgarwch tymhorol arferol. Mae hyn yn ostyngiad bach ar y nifer yr ymgynghoriadau yn ystod yr wythnos flaenorol, sef 92.1 fesul pob 100,000 o'r boblogaeth. Mae'r data gan feddygon gwasanaethau y tu allan i oriau arferol, yn ogystal â Galw Iechyd Cymru, yn ystod wythnos 52 yn awgrymu bod y ffliw yn dal i fod ar gynnydd yn y gymuned. Roedd y gyfradd ymgynghori uchaf ymysg y grŵp oedran 25-34 oed (129.2 fesul pob 100,000).

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, efallai bod y cyfraddau ymgynghori yn sefydlogi ac y byddant yn dechrau gostwng dros yr wythnosau nesaf, er bod lefelau uwch o'r ffliw yn debygol am sawl wythnos i ddod. Dylai'r sefyllfa ddod yn fwy clir wythnos nesaf oherwydd gallai'r patrymau ymgynghori gwahanol dros gyfnod y Nadolig, a'r ffaith bod yr ysgolion ar gau bryd hynny, fod wedi effeithio ar weithgarwch y ffliw hyd at yr wythnos hon.

I'r mwyafrif, salwch ysgafn fydd y ffliw. Serch hynny, i nifer fach sydd â chyflyrau meddygol arnynt eisoes, gall y symptomau fod yn fwy difrifol a gall y salwch arwain at gymhlethdodau.

Dros gyfnod y Nadolig, ailadroddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ei gyngor blaenorol ar frechu rhag y ffliw tymhorol. Hynny yw, dylai pob unigolyn yn y grwpiau risg gael eu brechu cyn gynted â phosibl, yn enwedig y rheini o dan 65 mlwydd oed.  Hefyd, bu'n ystyried mater cynnig brechiad i blant iach, naill ai yn y grŵp oedran 0-4 oed neu yn y grŵp oedran 5-15 oed.  Er bod niferoedd uchel o salwch tebyg i'r ffliw yn y grwpiau oedran hyn ar hyn o bryd, roedd o'r farn bod cyfran sylweddol ohonynt yn sgil feirysau eraill fel y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Ar sail epidemioleg achosion blaenorol o'r ffliw tymhorol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd o'r farn y dylid defnyddio'r brechlyn tymhorol neu bandemig ar gyfer y grwpiau hyn o bobl iach, na grwpiau eraill o bobl iach.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o adroddiadau yn y cyfryngau o brinder brechlynau mewn unedau gofal sylfaenol ac unedau iechyd galwedigaethol. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru i gydgysylltu gwaith i ailddosbarthu'r stociau er mwyn sicrhau cyflenwad yn yr ardaloedd lle mae'r stociau'n isel. Gan ein bod wedi bod yn cynnal ymgyrch ers mis Hydref i annog grwpiau sy'n agored i niwed, fel menywod beichiog a'r henoed, i gael eu brechu, mae'n naturiol y bydd y stociau'n prinhau dros amser. Heddiw (6 Ionawr) mae'r Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at y Gwasanaeth i gefnogi clinigwyr sy'n defnyddio'r brechlyn pandemig Pandemrix fel dewis arall, os ydy'r cleifion yn cael gwybod eu bod yn derbyn brechlyn sy'n amddiffyn rhag y prif fath o feirws sy'n cylchredeg, yn unig.

Bydd clinigwyr yn cael eu hatgoffa ei bod yn bwysig rhoi triniaeth brydlon â chyffuriau gwrthfirysol i bobl mewn grwpiau sy'n agored i niwed, a hynny'n ddelfrydol o fewn 48 awr i ymddangosiad y symptomau, waeth beth yw statws y brechlyn. Y rheswm am hyn yw nad yw unrhyw frechlyn yn amddiffyn rhag y ffliw yn gyfan gwbl.

Cyn y cynnydd diweddar yn yr achosion o'r ffliw, gwnaethom gymryd camau i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o fanteision cael brechiad er mwyn amddiffyn rhag y feirws.   Cynhaliwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd sylweddol ar y ffliw tymhorol yn ystod yr hydref a'r gaeaf, drwy sianeli fel y teledu a'r radio a thrwy bosteri mewn lleoliadau clinigol fel meddygfeydd a chartrefi gofal.  Roedd y deunyddiau yn targedu menywod beichiog. Hefyd, darparwyd gwybodaeth i elusennau a sefydliadau sy'n ymdrin â grwpiau agored i niwed, fel Sefydliad Prydeinig y Galon ac Asthma UK Cymru, ar gyfer eu cylchlythyrau, bwletinau a gwefannau.  Yn ogystal â hyn, darparwyd gwybodaeth drwy sianeli rhwydweithiau cymdeithasol a blogio fel YouTube a Twitter.

Drwy gyfrwng ymgyrchoedd diweddar yn y cyfryngau, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi parhau i hyrwyddo'r angen i grwpiau risg (fel menywod beichiog) gael eu brechu. Mae Swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi canllawiau i feddygon teulu yn eu hannog i frechu'r grwpiau hyn. Nid yw'n rhy hwyr i'r grwpiau hyn i gael eu brechu, er bod diwedd y cyfnod pryd y gall y brechiad fod yn effeithiol ar gyfer y tymor ffliw hwn yn prysur agosáu. Gall triniaethau gwrthfeirysol yn ystod camau cynnar y ffliw leihau cymhlethdodau a hyd y salwch. Mae digon o gyffuriau gwrthfeirysol ar gael er bod y dosau hylif ar gyfer plant o dan 1 oed angen cael eu paratoi'n arbennig ac maent ar gael drwy fferyllfeydd ysbytai.

Yn ystod tymor y ffliw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad ffliw wythnosol i Gymru. Mae hwn ar gael ar wefan yr Is-adran Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r ddolen: Data gwylio'r ffliw tymhorol i Gymru

Yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn, mae Norofeirws (neu salwch chwydu'r gaeaf) hefyd yn her i ysbytai ac ysgolion.  Yn gynharach yr wythnos hon, ailadroddodd y Prif Swyddog Meddygol ei gyngor ynghylch rheoli norofeirws ac osgoi ei drosglwyddo o un i'r llall. Roedd y cyngor yn atgoffa pobl y dylent osgoi fynd i'r ysbyty neu at eu meddyg teulu os ydynt yn sâl, oherwydd bydd y byg yn ymledu'n gyflym i gleifion eraill ac i staff.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud mai prin yw'r dystiolaeth bod norofeirws yn cylchredeg yn y gymuned drwyddi draw.

Yn ogystal â'r achosion o'r ffliw tymhorol a D&V, mae'r tywydd oer ynghyd â'r rhew a'r eira wedi achosi cynnydd yn nifer yr achosion trawma a byddwn yn disgwyl cynnydd yn nifer yr achosion o drawiad ar y galon, strôc a niwmonia. Mae'r achosion hyn yn cyfrannu at y patrwm o farwolaethau ychwanegol y gaeaf. Gwyddom fod cydberthyniad rhwng hyn a chyfnodau estynedig o dymheredd isel.

Mae fy swyddogion yn cynnal galwadau cynadledda bob dydd â'r Byrddau Iechyd Lleol i rannu gwybodaeth, monitro'r galw a monitro nifer y gwelyau sydd ar gael, gan gynnwys mewn gofal critigol. Yn gyffredinol, mae'r GIG yng Nghymru yn brysur tu hwnt, ond mae'n ymdopi'n dda â'r galw trymach yn sgil y pwysau ychwanegol sydd yn y gaeaf.

Byddaf yn rhoi'r diweddaraf unwaith eto i'r Aelodau yn nes ymlaen yn y mis.