Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y maes tai yn flaenoriaeth i Weinidogion Cymru. Mae 15% o'r stoc o anheddau yng Nghymru yn rhan o'r sector rhentu preifat. Mae polisïau Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod y ddeiliadaeth honno’n opsiwn ar gyfer tenantiaid presennol a darpar denantiaid.

Ar 19 Gorffennaf 2017, yn dilyn cyhoeddiad gan y Prif Weinidog yn natganiad deddfwriaethol y mis blaenorol, roedd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd dros Gymunedau a Phlant, wedi nodi ei bryderon bod ffioedd a godir ar denantiaid yn achosi problemau i bobl sydd am rentu llety yn y sector rhentu preifat. Fe lansiodd ymgynghoriad i geisio deall lefel y ffioedd a godir, beth mae'r ffioedd hynny yn ei gynnwys, a pha broblemau, os o gwbl, y byddai cael gwared ar yr hawl i godi'r ffioedd hynny yn eu creu i asiantau gosod, landlordiaid, tenantiaid ac unrhyw drydydd partïon sy'n ymwneud â'r sector rhentu preifat.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 27 Medi 2017, a derbyniwyd bron 700 o ymatebion gan amrywiaeth o denantiaid, landlordiaid ac asiantau gosod. Mae hynny'n dangos bod cryn ddiddordeb yn y maes hwn. Er nad ydw i mewn sefyllfa i gyhoeddi ymateb manwl i'r ymgynghoriad (bydd hynny'n dilyn yn y Flwyddyn Newydd), mae'r gwaith dadansoddi cynnar yn dangos bod cefnogaeth gref o blaid gweithredu yn y maes hwn, ac roeddwn am roi gwybod i'r aelodau y newyddion diweddaraf am fy nghynlluniau cyn gynted ag y bod modd.

Mae'r gwaith dadansoddi'n dangos bod y mwyafrif o'r ymatebwyr, gan gynnwys nifer sylweddol o landlordiaid, o blaid gwahardd codi ffioedd ar denantiaid. Felly, heddiw, rwy'n ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymryd camau i wahardd codi ffioedd ar denantiaid yn y sector rhentu preifat.

Rwy wedi gofyn i'm swyddogion barhau â'r cynlluniau i ddatblygu deddfwriaeth. Bydd swyddogion y Llywodraeth hefyd yn dechrau rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth a'n helpu i lunio cynlluniau manwl am sut y byddai deddfwriaeth arfaethedig at y dyfodol yn gweithio'n ymarferol.

Mae maint cynyddol y sector rhentu preifat sydd bron â bod wedi dyblu yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, yn ei wneud yn rhan hynod bwysig o'r farchnad dai. Felly, rwy am gydweithio â landlordiaid ac asiantwyr i sicrhau bod y sector yn gryf, yn dryloyw ac yn hygyrch.

Mae gormod o denantiaid yn adrodd bod lefel y ffioedd a godir yn creu rhwystr rhag cael cartref diogel o ansawdd da. Mae'r dystiolaeth yn cefnogi'r farn bod ffioedd asiantwyr ac eraill wedi gwneud y sector rhentu preifat yn anfforddiadwy ac yn anhygyrch i rai unigolion a theuluoedd, yn enwedig y rheini sydd ag incwm isel ac sy’n hawlio budd-daliadau. Gall y costau ychwanegol, fel canlyniad i ffioedd a godir ar denantiaid, ei gwneud yn anodd i symud o fewn y sector, hyd yn oed i'r rheini sydd eisoes yn rhentu.

Yn ystod cyfnod pan fo angen inni weithio ar draws pob sector i ddiwallu anghenion ein dinasyddion o ran tai, rhaid inni chwalu'r rhwystrau hyn. Bydd cael gwared ar ffioedd a sicrhau bod tenantiaid yn gallu cael hyd i lety yn y sector rhentu preifat – o wybod nad oes perygl y byddent yn talu mwy na'u rhent a'u blaendal ar y cyfan – yn gam allweddol.

Byddaf yn nodi manylion pellach ein cynlluniau mewn perthynas â ffioedd a godir ar denantiaid yn y Flwyddyn Newydd.