Leighton Andrews, Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Mae rheoliadau drafft a fydd yn creu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer ffioedd dysgu addysg uwch yng Nghymru o flwyddyn academaidd 2012/13 ymlaen wedi’u gosod gerbron y Cynulliad heddiw. Caiff y Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 drafft a’r Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011 drafft eu gwneud drwy benderfyniad cadarnhaol. Fe gyflwynir y ddwy set o reoliadau drafft ar gyfer dadl yn y cyfarfod llawn ym mis Mawrth.
Yn rhaglen lywodraethu Cymru’n Un ymrwymodd Gweinidogion Cymru i wneud popeth posibl i liniaru’r effeithiau ar fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru pe bai llywodraeth San Steffan yn codi’r terfyn uchaf ar gyfer ffioedd. Ar 30 Tachwedd 2010 fe gyhoeddais sut y byddai Cymru yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu ffioedd dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. Bydd y trefniadau diwygiedig ar gyfer ariannu addysg uwch a chymorth statudol i fyfyrwyr yng Nghymru ar waith ar gyfer myfyrwyr fydd yn dechrau dilyn cyrsiau newydd ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, lle bynnag y maent yn dewis astudio. O’r flwyddyn academaidd 2012/13 ymlaen bydd myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer benthyciadau â chymhorthdal i gwrdd â chost ffioedd hyd at y lefel bresennol. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu grant heb brawf modd ar gyfer y swm uwchlaw’r lefelau ffioedd cyfredol.
Er mwyn sicrhau bod gan sefydliadau addysg uwch ddigon o amser i gynllunio ar gyfer y trefniadau ffioedd dysgu ac ariannu newydd rwyf wedi ymrwymo i sefydlu’r fframwaith rheoleiddio angenrheidiol erbyn i’r Cynulliad presennol gael ei ddirwyn i ben cyn etholiadau mis Mai. Mae fy swyddogion wedi ymgynghori ar y trefniadau gweithredu gyda phartneriaid allweddol ac rwyf wedi ystyried yr adborth a dderbyniwyd wrth benderfynu ar hyd a lled y rheoliadau drafft.
Mae’r Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) drafft yn pennu’r symiau sylfaenol a’r symiau uwch y caiff y sefydliadau perthnasol eu codi drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser. Y “sefydliadau perthnasol” yw’r rheini sy’n derbyn grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Fe ddywedais yn wreiddiol y byddai’r ffi sylfaenol yn £6,000 a’r ffi uwch yn £9,000, yn unol â threfniadau arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer sefydliadau yn Lloegr. Gofynnwyd i’r rhanddeiliaid fynegi eu barn ar swm y ffi sylfaenol yn yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a thrwy weithdy i randdeiliaid ar weithredu’r pecyn cymorth myfyrwyr ac ariannu addysg uwch newydd. Ar sail yr adborth o’r ymarfer ymgynghori rwyf wedi penderfynu pennu £4,000 fel swm y ffi sylfaenol.
Yr hyn sy’n ganolog i bolisi Llywodraeth y Cynulliad yw’r egwyddor y dylai’r gallu i dderbyn addysg uwch fod yn seiliedig ar botensial unigolyn i elwa ar hynny, ac nid ar ei allu i dalu’r gost. Mae’r penderfyniad i bennu £4,000 fel swm y ffi sylfaenol yn adlewyrchu pa mor bwysig i Lywodraeth y Cynulliad yw cyfraniad addysg uwch i gyfiawnder cymdeithasol. Bydd y gofyniad i sefydliadau fod â chynllun wedi’i gymeradwyo, er mwyn codi ffioedd dysgu sy’n uwch na’r gyfradd sylfaenol, yn adeiladu ar y trefniadau gwirfoddol cyfredol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod sefydliadau Cymru’n parhau i sicrhau mynediad cyfartal i addysg uwch, ac yn ei hyrwyddo.
Mae’r Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) drafft yn pennu cynnwys a chyfnod gweithredol y cynlluniau ffioedd y bydd gofyn i sefydliadau perthnasol eu cynhyrchu er mwyn codi ffioedd dysgu sy’n fwy na’r swm sylfaenol. Maent hefyd yn nodi beth y mae gofyn i CCAUC ei wneud (fel yr awdurdod perthnasol yng Nghymru) wrth gymeradwyo a gweithredu cynlluniau ffioedd. Mae’r rheoliadau drafft yn pennu bod yn rhaid i gynlluniau ffioedd nodi amcanion y sefydliad o ran hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch. Yn benodol, mae’r rheoliadau’n darparu ar gyfer y canlynol:
- y darpariaethau y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cynlluniau ffioedd;
- y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynlluniau ffioedd, gan gynnwys amrywio cynlluniau;
- cyfnod gweithredol y cynlluniau ffioedd, sef dwy flynedd fan hwyaf;
- y weithdrefn ar gyfer gorfodi cynlluniau ffioedd;
- y darpariaethau ar gyfer adolygu penderfyniadau CCAUC ynghylch cynlluniau ffioedd.
Yn ymarferol, mae’r trefniadau newydd yn golygu, o’r flwyddyn academaidd 2012/13 ymlaen, y bydd sefydliadau addysg uwch yn gallu codi ffioedd dysgu o £4,000 i £9,000 y flwyddyn, ar yr amod y gallant ddangos ymrwymiad i ehangu mynediad ac amcanion strategol eraill sy’n berthnasol i hyrwyddo addysg uwch. Byddant yn gwneud hynny drwy gyfrwng cynlluniau ffioedd a gymeradwyir gan CCAUC. Bydd fy Adran yn rhoi canllawiau i CCAUC ar y broses cynllunio ffioedd yn y man.