Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Ffermio Cynaliadwy a’n Tir a gyhoeddwyd y llynedd, yn holi barn am ein cynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, wedi’i gysylltu â chyflawni canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy. Roedd rhain yn cynnwys ansawdd aer a dŵr gwell, ac ecosystemau mwy cydnerth, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd diogel, cynaliadwy o safon uchel.
Cafwy dros 3,000 o ymatebion gan amrywiol ffermwyr, sefydliadau rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd. Rwy’n falch bod cyfran sylweddol o ymatebwyr wedi nodi eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â ffemio. Rwy’n ddiolchgar i bawb a ymatebodd, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar, a Cerddwyr Cymru, a phob un ohonynt wedi cynnal ymgyrch i annog eu haelodau i gyflwyno eu safbwyntiau ac wedi rhannu safbwyntiau pendant ar y cynigion.
Comisiynwyd cwmni ymchwil i gynhyrchu crynodeb annibynnol a manwl o’r ymatebion. Heddiw rwy’n cyhoeddi’r crynodeb.
Cynhaliwyd ystod eang o ymatebion gyda chefnogaeth gyffredinol, eang i’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy. I nifer o ymatebwyr, roedd y gefnogaeth yn dibynnu ar nifer o elfennau, megis pa fath o ganlyniadau rydym yn eu cynnig. Byddaf yn ystyried pob un o’r sylwadau hyn a materion perthnasol eraill, wrth inni fireinio ein cynigion.
Roedd rhai ymatebwyr yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod y sector ffermio yng Nghymru yn parhau i fod yn gystadleuol, gyda rhai yn dadlau y byddai canolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol yn niweidio cystadleurwydd a chynaliadwyedd ariannol ffermio yng Nghymru.
Bwriad ein cynigion yw rhoi llif incwm pwysig i ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun, gan gydnabod y gwaith pwysig y maent yn ei wneud i ddarparu canlyniadau amgylcheddol a’u gwobrwyo am hynny. Hefyd, rydym yn ceisio cryfhau cystadleurwydd hirdymor y sector trwy gyngor a chefnogaeth busnes gwell. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i ddeall effeithiau ariannol y Cynllun arfaethedig ar y sector.
Mae cystadleurwydd ffermio, cynhyrchu bwyd a gwell cydnerthedd amgylcheddol yn agendâu sy’n ategu ei gilydd. Mae ein cynigion yn glir bod cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn rhan amlwg o’r broses o Reoli Tir yn Amgylcheddol, mewn ffordd sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd, yn gwrthdroi y dirwywiad mewn bioamrywiaeth, yn sicrhau safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid, ac yn gwarchod ein hadnoddau naturiol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn galw ar Weinidogion Cymru i wneud datblygiadau cynaliadwy. Yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i warchod ein ffermwyr presennol a ffermwyr y dyfodol. Mae mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a lliniaru effaith y cynnydd mewn llifogydd a sychder sy’n debygol o barhau, yn hanfodol i ddiogelu dyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Mae defnyddio dull newydd o hwsmonaeth pridd a glaswelltir yn golygu cynnal capasiti cynhyrchu ein pridd, tra ar yr un pryd ddiogelu ein hadnoddau naturiol eraill.
Yn dilyn y pandemig Covid-19, mae’n bwysig i bawb ein bod yn glir ynghylch ein camau nesaf. Rwy’n parhau i ddarparu cymorth ariannol i ffermwyr sy’n rheoli eu tir mewn ffordd sy’n galluogi cynhyrchu bwyd o safon yn gynaliadwy o Gymru, yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, yn gwyrdroi y lleihad mewn bioamrywiaeth, yn sicrhau safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid ac yn gwarchod ein hadnoddau naturiol.
Cynigiwyd yn wreiddiol gennyf, ac yna lansiais, ymarfer cynllunio ar y cyd gyda’r nod o gynnwys cynifer o ffermwyr â phosibl i helpu i lunio manylion y cynigion. Mae’r ymarfer dylunio ar y cyd yma wedi ei fabwysiadu yn dilyn mesurau rheoli Covid-19. Yn y tymor byr, rydym bellach yn datblygu hyn drwy arolwg ar-lein a chyfweliadau un i un. Rwy’n gwybod, yn ystod yr cyfnod anodd hwn, na fydd gan nifer o ffermwyr yr amser i gymryd rhan. I’r rhai sy’n gallu, mae hwn yn gyfle pwysig i rannu eu harbenigedd a’u gwybodaeth mewn ffordd bositif a blaengar. Byddwn yn ail-drefnu gweithdai pan fydd yn ddiogel gwneud hynny ac y bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi eu llacio.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i fynd ymlaen gyda’n rhaglen ddadansoddi fanwl a chynhwysfawr, fel a nodir yn Ffermio Cynaliadwy a’n Tir. Bydd rhywfaint o hyn yn ychwanegu at, ac yn cael ei ddatblygu gan, ein Rhaglen Monitro a Modelu yr Amgylchedd a Materion Gwledig a rydym yn comisiynu dadansoddiad economaidd o’n cynigion. Gyda’n gilydd, bydd canlyniadau y dystiolaeth a’r dadansoddiad yn llywio asesiadau effaith y Cynllun arfaethedig.
Wrth i sefyllfa Covid-19 a phontio yr UE ddatblygu, byddaf yn parhau i gefnogi ffermwyr Cymru ac yn sicrhau bod ein cynigion yn cynnig dull cynaliadwy fydd yn golygu cydnerthedd hirdymor i’r diwydiant.
Mae’r crynodeb o’r ymatebion i’w gweld yma.