Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r mesurau amddiffynnol angenrheidiol a gymerwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ee golchi dwylo, gwisgo masgiau, cadw pellter cymdeithasol, yn golygu y cafodd rhai feirysau anadlol cyffredin sy’n effeithio ar blant eu difodi bron yn llwyr, gan gynnwys feirws syncytiol anadlol (RSV). Golyga hyn fod y garfan bresennol o blant ac oedolion yn y DU nad ydynt wedi dod i gysylltiad â RSV gryn dipyn yn uwch na’r arfer. Amharwyd ar batrwm epidemig tymhorol arferol RSV yng Nghymru y llynedd a nifer bach o achosion yn unig a welwyd yn ystod 2020 ac ar ddechrau 2021.
Wrth i bobl ddechrau cymysgu yn gymdeithasol unwaith yn rhagor, disgwyliwn i’r tymor RSV ddigwydd yn gynharach nag yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio. Mae data cadw gwyliadwriaeth ar iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn dangos bod lefelau actifedd RSV yng Nghymru wedi rhagori ar y trothwy a fyddai’n dangos bod y tymor RSV wedi dechrau. Mae’r wybodaeth gwyliadwriaeth yn dangos bod samplau positif haint RSV yng Nghymru wedi cynyddu dros y pedair wythnos ddiwethaf yn olynol, o 1.9 y cant i 9.9 y cant.
Mae’n hynod debygol hefyd y bydd y tymor RSV o ddwyster uwch na’r blynyddoedd a aeth heibio. O ganlyniad, mae’n bosibl y gallai gwasanaethau pediatrig gael eu rhoi o dan fwy o bwysau. Profwyd cynnydd mewn lefelau actifedd RSV y tu allan i’r tymor arferol mewn gwledydd eraill yn Hemisffer y Gogledd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Ffrainc, yn ystod gwanwyn 2021.
RSV yw’r haint anadlol fwyaf cyffredin yn ystod plentyndod a bydd y rhan fwyaf o blant wedi cael RSV erbyn iddynt gyrraedd dwy oed. Mae risg benodol i blant ifanc iawn a phlant sy’n agored i niwed (y rheini sy’n iau na 3 mis oed fel arfer) o orfod cael eu derbyn i ofal critigol pediatrig oherwydd bod eu llwybrau anadlu yn llai a, phan fyddant wedi mynd yn llidus (bronciolitis), gall hyn olygu eu bod yn ei chael hi’n anodd anadlu. Mae’r cynnydd a welir fel arfer mewn heintiadau RSV yn yr hydref / gaeaf (gyda’r brig yn nifer yr heintiadau tua mis Rhagfyr fel arfer) yn rhoi pwysau sylweddol ar gapasiti gofal sylfaenol, unedau argyfwng, derbyniadau i’r ysbyty, gofal critigol a llawdriniaethau dewisol.
Mae’r babanod hynny y nodir bod mwy o berygl iddynt pe baent yn dal RSV yn gymwys i gael eu brechu gyda palivizumab, sy’n cael ei roi fel pigiad mewngyhyrol, i’w diogelu rhag yr haint a lleihau’r perygl y bydd rhaid iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty. Fel arfer, bydd angen pum dos o palivizumab ar gyfer y tymor RSV nodweddiadol. Os bydd y tymor RSV yn para am gyfnod hwy na thymor nodweddiadol, gall hyd at saith dos gael eu rhoi.
Rydym wedi sefydlu grŵp, sy’n cael ei gadeirio ar y cyd gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol a’r Prif Swyddog Nyrsio Dros Dro, i oruchwylio’r gwaith cynllunio a’r ymateb i ymchwydd yn nifer y plant a fydd yn dal RSV. Mae’r camau a gymerwyd hyd yma yn cynnwys:
- datblygu llwybr gofal bronciolitis i Gymru gyfan
- datblygu – gan bob bwrdd iechyd lleol – gynlluniau i greu rhagor o welyau pediatrig a chynyddu eu capasiti i edrych ar ôl plant sydd angen gofal mwy acíwt
- rhoi cynlluniau ar waith i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol gyda chymorth anadlu mewnwthiol Lefel 3 yn yr uned gofal critigol pediatrig yn Ysbyty Plant Cymru
- darparu rhagor o hyfforddiant i staff y gallai fod angen iddynt gael eu hadleoli neu gynyddu eu sgiliau
- parhau â’r gwaith o sicrhau bod rhagor o offer ar gael os bydd eu hangen
- dechrau ar y gwaith o feithrin imiwnedd goddefol rhag RSV drwy ddefnyddio palivizumab mewn babanod sy’n cael eu geni cyn amser sydd mewn perygl, fel y diffiniwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu
- Mae’r Gell Cyngor Technegol wedi gwneud gwaith modelu ar yr ymchwydd yn nifer yr achosion o RSV y disgwylir ei weld a’r effaith debygol – defnyddir hwn i helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ledled y DU, a chyda NHS England yn benodol i sicrhau bod cymaint o gapasiti gofal critigol pediatrig ar gael ag sy’n bosibl – mae’r gwaith hwn yn arbennig o berthnasol i Ogledd Cymru, sy’n defnyddio gofal critigol pediatrig Lefel 3 yn Lloegr.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw golwg ar y sefyllfa mewn perthynas â RSV mewn plentyndod, ac mae lefelau actifedd RSV yn cael eu hadrodd ym mwletin gwyliadwriaeth ffliw wythnosol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd datganiad i’r wasg ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 23 Gorffennaf 2021 a oedd yn tynnu sylw at y cynnydd mewn heintiadau anadlol mewn plentyndod yng Nghymru. Anogir rhieni i gadw golwg am symptomau o haint difrifol mewn plant sydd mewn perygl. Mae’r symptomau’n cynnwys gwres uchel o 37.8°C neu’n uwch (twymyn), peswch sych a pharhaus, trafferth wrth fwydo, ac anadlu cyflym neu swnllyd (sŵn gwichian).
Gall rhai plant iau na dwy oed, yn enwedig y rheini sydd wedi’u geni yn gynnar neu sydd â chyflwr ar y galon, ddioddef canlyniadau mwy difrifol yn sgil yr heintiadau cyffredin hyn, fel bronciolitis, haint lidiol ar y llwybrau anadlu isaf – gall fod yn anodd iddynt anadlu o ganlyniad.
Golchi dwylo â sebon a dŵr neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo yn rheolaidd, cael gwared ar hancesi papur sydd wedi’u defnyddio yn y ffordd gywir, a chadw arwynebau yn lân a’u diheintio yw’r ffordd orau o ddiogelu rhag RSV. Rydym am i bob rhiant a phawb sy’n gofalu am fabanod a phlant ifanc fod yn ymwybodol o arwyddion RSV. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unigolion yn cael salwch difrifol a byddant yn gwella yn fuan.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.