Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Ar 5 Gorffennaf, bydd tîm Menywod Cymru yn creu hanes pan fydd yn chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn yr Iseldiroedd ym mhencampwriaeth EURO UEFA 2025 yn y Swistir. Bydd hon yn foment hanesyddol wrth i'n menywod gymryd rhan yn eu twrnamaint mawr cyntaf, un o 16 o dimau gorau Ewrop. Bydd ein gemau grŵp eraill yn erbyn Ffrainc a Lloegr.
Ar ddechrau'r datganiad hwn, rhaid i ni longyfarch yr hyfforddwr, Rhian Wilkinson, a'i chwaraewyr, staff hyfforddi, a phawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, am y cyflawniad gwych hwn. Beth bynnag sy'n digwydd ym mis Gorffennaf, mae'r tîm hwn, ein Dreigiau, eisoes wedi ein gwneud ni'n falch iawn.
At hynny, rwy'n falch iawn o weld sut y mae llwyddiant ein timau chwaraeon, unwaith eto, yn arddangos Cymru ar lwyfan y byd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r platfform hwn i hyrwyddo ein gwlad, ein diwylliant a'n gwerthoedd yn fyd-eang - gan dynnu sylw nid yn unig at ein treftadaeth gyfoethog ond hefyd arloesedd a rhagoriaeth busnesau Cymru.
Ar ôl Cwpan y Byd, hon yw'r gystadleuaeth fwyaf ar gyfer pêl-droed menywod. Mae gêm y menywod yn tyfu gyda chynulleidfa fyd-eang o dros 360 miliwn yn gwylio'r Euros yn 2022, tra bod 50 miliwn wedi gwylio buddugoliaeth Lloegr dros yr Almaen yn y rownd derfynol yn Wembley. Dyma'r tro cyntaf i dîm Menywod Cymru gyrraedd cystadleuaeth bêl-droed fawr a bydd digon o ddiddordeb a chefnogaeth i Gymru. Mae Euro 2025 eleni, felly, yn gyfle cadarnhaol iawn i dynnu sylw at y momentwm hwn o amgylch y gêm i ferched a menywod yng Nghymru, ac yn gatalydd i annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a phartneriaid allweddol eraill i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle unigryw hwn. Hoffwn achub ar y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ein bwriadau.
Yr wythnos diwethaf, croesewais bartneriaid i Grŵp Llywio cyntaf Rhanddeiliaid Tîm Cymru UEFA 2025. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Amgueddfa Cymru, S4C, BBC Cymru, ITV Cymru, y British Council, Prif Swyddogion Hamdden Cymru a'r Urdd. Roeddwn yn falch o weld yr angerdd a'r brwdfrydedd, gyda digon o syniadau da, yn y cyfarfod cyntaf hwn gyda'r bartneriaeth eisoes yn cofleidio dull “Gorau chwarae, cyd chwarae” oddi ar y cae. Bydd y grŵp rhanddeiliaid yn cyfarfod bob mis i archwilio cyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar ein cyfranogiad yn y bencampwriaeth ac i hyrwyddo ymdrech tîm rhwng rhanddeiliaid.
Fel Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Chwaraeon, byddaf yn arwain y gwaith o gydlynu rhaglen o weithgareddau a fydd yn cyflawni ein hamcanion craidd sydd wedi'u datblygu a'u cytuno gan ein partneriaid, sef hyrwyddo Cymru i gynulleidfa fyd-eang a chyfleu ein gwerthoedd, yn enwedig o ran cydraddoldeb a chynhwysiant. Byddwn yn hyrwyddo chwaraeon merched a menywod, gan annog rhagor i gymryd rhan, a sicrhau gwaddol o'r gystadleuaeth.
Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y byddwn yn sefydlu Cronfa Cymorth i Bartneriaid gwerth £1m, gyda'r nod o gefnogi prosiectau eithriadol a all gefnogi ein hamcanion craidd. Bydd y gronfa hon yn defnyddio arbenigedd amrywiaeth o sefydliadau i gefnogi a gwella ein rhaglen o weithgareddau a datblygu cynnwys. Bydd y cynllun hwn yn anelu at gefnogi gweithgareddau yma yng Nghymru ac yn y Swistir ac fel pecyn, byddant yn cyfleu ein cryfder cyfunol fel cenedl, fel Tîm Cymru sy'n gryfach gyda'n gilydd.
Byddwn hefyd yn rhoi ymgyrch farchnata ar waith a fydd yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol craidd ar draws brandiau, busnesau a thwristiaeth yn ogystal â phresenoldeb cryf i'r ymgyrch yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch farchnata hefyd yn cyflwyno gweithgareddau drwy waith gyda'n heiriolwyr mwyaf – y cefnogwyr a'r lleisiau o Gymru – yn ogystal â phartneriaid a Llysgenhadon Euro 2025, ‘Lleisiau Cymru’, a fydd yn gweithredu fel lleisiau cryf a dylanwadol dros Gymru ar draws ein gweithgarwch.
Er mwyn cefnogi ein hamcan o hyrwyddo Cymru ac ymgymryd â diplomyddiaeth, bydd Gweinidogion yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau yn y cyfnod cyn y bencampwriaeth yn ogystal â phob un o gemau grŵp Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr. Prif nod yr ymweliadau hyn fydd cefnogi mentrau busnes, diwylliannol a chwaraeon. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r Llysgenhadaeth yn y Swistir a Llywodraeth y DU i ymgysylltu â rhanddeiliaid rhyngwladol allweddol.
Er mwyn sicrhau diogelwch cefnogwyr Cymru yn y Swistir, rydym wedi dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a byddwn yn parhau i gwrdd ag ystod o asiantaethau'r llywodraeth yn y cyfnod cyn ac yn ystod y bencampwriaeth.
Fel llywodraeth, a chyda'n partneriaid ehangach, mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu gwaddol o'r Euros sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o'n bechgyn a'n merched ac yn ysgogi cynnydd o ran y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i gefnogi iechyd a llesiant ein cenedl. Er mwyn helpu i sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol, mae ein Rhaglen Lywodraethu eisoes yn ymrwymo i fuddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon, gyda chyllideb gyfalaf o £10m wedi'i chyhoeddi eisoes ar gyfer 2025-26. Mae hynny'n adeiladu ar y £24m yr ydym eisoes wedi'i fuddsoddi dros y tair flynedd ddiwethaf.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ystod uchelgeisiol a chyffrous hon o weithgareddau i wneud y gorau o'r cyfle unigryw hwn yn sgil ein tîm menywod yn cymryd rhan yn y bencampwriaeth.