Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol c
Fel rhan o’r paratoadau sy’n parhau ar gyfer etholiad y Senedd, a chyn yr amrywiol etholiadau sydd wedi’u trefnu i’w cynnal ar draws y Deyrnas Unedig ar 6 Mai, heddiw, rwyf wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd gyda’m cyd-Weinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban.
Mae’r tair llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar baratoadau helaeth er mwyn caniatáu i’r etholiadau gael eu cynnal mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws ond sy’n caniatáu hefyd i bobl gael gymryd rhan mewn democratiaeth.
At hynny, mae’n hanfodol bod pleidleiswyr yn dal i allu dweud eu dweud, er gwaetha’r pandemig, ac felly rydym wedi darparu gwybodaeth i etholwyr am y gwahanol ffyrdd y gallant fwrw eu pleidlais os nad ydynt yn gallu mynd i orsaf pleidleisio yn bersonol, neu os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.