Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 10 Rhagfyr 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu ar gyfer 2019-20. Mae'r cynllun wedi darparu cymorth wedi'i dargedu i helpu busnesau’r stryd fawr a busnesau manwerthu â’u hardrethi annomestig. 

Heddiw rwy'n estyn y cynllun am flwyddyn arall, gan roi cymorth i bob manwerthwr yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. 

Byddwn yn sicrhau bod £24.2 miliwn o gymorth ar gael yn 2020-21 drwy gynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr a manwerthu i gefnogi busnesau yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol i'r cyfanswm o dros £230 miliwn y byddwn yn ei ddarparu drwy gynlluniau rhyddhad eraill i helpu busnesau i dalu eu biliau ardrethi. 

Bydd cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr a manwerthu yn rhoi cymorth i dros 15,000 o fusnesau bach a chanolig yn ystod 2020-21. Bydd yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn rhoi cymorth o hyd at £2,500 tuag at filiau ardrethi eiddo manwerthu sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. 

Bydd yn lleihau’r biliau ardrethi i ddim ar gyfer eiddo manwerthu sydd â gwerth ardrethol o hyd at £9,100 ac yn sicrhau gostyngiad o £2,500 yn y biliau ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol uwch.

Yn ogystal â chefnogi manwerthwyr ar y stryd fawr, bydd y cynllun yn parhau i gefnogi manwerthwyr mewn lleoliadau eraill. Mae'r talwyr ardrethi sy’n elwa ar y rhydddhad yn cynnwys y rhai hynny sydd ag eiddo manwerthu sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer busnesau megis siopau, bwytai, caffis, tafarndai a bariau gwin. 

Bydd £2.4 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo i awdurdodau lleol i ddarparu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i fusnesau lleol a thalwyr ardrethi eraill i ymateb i broblemau lleol penodol.  Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu drwy’r setliad llywodraeth leol, sy’n golygu y bydd cyfanswm o £4.8m yn cael ei ddarparu i’r awdurdodau lleol ar gyfer rhyddhad dewisol yn 2020-21.

Mae'r estyniad hwn i gynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr a'r cyllid ychwanegol ar gyfer rhyddhad ardrethi dewisol, yn ogystal â'n cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach, sydd wedi'i sefydlu ers mis Ebrill 2018, a rhyddhad pwrpasol eraill, yn cyfuno i gynnig cymorth amserol wedi'i dargedu i dalwyr ardrethi ledled Cymru. 

Bydd y cynllun hwn yn parhau i gael ei weinyddu gan yr awdurdodau lleol drwy gyflwyno ceisiadau ac mae’n ychwanegol at yr ystod eang o gymorth arall sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Nodyn technegol

Mae'r meini prawf cymhwysedd i fusnesau cymwys ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi i'r stryd fawr a manwerthu fel a ganlyn:

  1. Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld. 
  2. Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu gwasanaethau manwerthu i aelodau'r cyhoedd sy'n ymweld.
  3. Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i werthu bwyd a/neu diod i aelodau'r cyhoedd sy'n ymweld.

Ni fydd y rhyddhad yn cynnwys:

  1. Hereditamentau sydd â phris o dros £50,000.
  2. Hereditamentau sydd ddim yn rhesymol hygyrch i aelodau'r cyhoedd sy'n ymweld. 
  3. Hereditamentau sydd heb eu meddiannu.
  4. Hereditamentau sy'n derbyn rhyddhad ardrethi elusennol gorfodol.