Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r coronaferiws wedi cael – ac yn parhau i gael – effaith ddifrifol a pharhaus ar bob agwedd ar ein bywydau.

I blant, a rhai o’n plant mwyaf agored i niwed, pobl ifanc a theuluoedd, mae effaith y feirws a’r heriau y maent yn eu hwynebu yn llawer gwaeth.

I helpu i fynd i’r afael â’r heriau hynny a diwallu eu hanghenion, rwyf heddiw yn cyhoeddi y bydd £3.5 miliwn yn cael ei roi i estyn y Gronfa Datblygiad Plant am 6 mis arall hyd fis Hydref 2021. Bydd hyn yn darparu cyllid i bob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn iddynt allu ymdrin â phryderon ynghylch oedi mewn datblygiad yn sgil cyfyngiadau’r pandemig Covid-19. Mae hyn yn cynnwys oedi o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu; oedi o ran sgiliau echddygol manwl a bras; ac oedi o ran datblygiad personol a chymdeithasol.

Bydd hyn yn canolbwyntio ar gynyddu’r ddarpariaeth ymyrraeth gynnar i blant dan 5 oed er mwyn mynd i'r afael ag anghenion cyn gynted â phosibl, yn hytrach na chaniatáu i broblemau waethygu nes ei bod yn anodd neu’n amhosibl gwneud unrhyw beth. Bydd y dull hwn yn helpu ein plant ieuengaf i feithrin gwydnwch yn ogystal â datblygu’r sgiliau bywyd hollbwysig y byddant eu hangen i gael y dechrau gorau mewn bywyd ac i gyflawni eu potensial