Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth hon yw creu cyfle i bob teulu. 

Mae cartref diogel yn sicrhau’r sefydlogrwydd a’r diogelwch a fydd yn galluogi teuluoedd i lwyddo. Dyma pam rwy’n falch iawn ein bod wedi estyn ein cynllun Cymoth i Aros Cymru sy’n anelu at gynorthwyo’r bobl a allai wynebu adfeddu neu ddigartrefedd i aros yn eu cartrefi. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r hinsawdd economaidd wedi cyflwyno nifer o heriau i deuluoedd ledled Cymru. 

Mae nifer yr ôl-ddyledion morgais yn parhau i fod yn frawychus o uchel, ac mae'r risg o adfeddiannu yn bryder difrifol.

Ni ellir cyflawni ein huchelgais hirdymor i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru oni bai ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein systemau ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi. Mae’r cynllun Cymorth i Aros Cymru sydd eisoes wedi cynnig cymorth gwerthfawr i deuluoedd ac unigolion sy’n wynebu adfeddu a hyd yn oed ddigartrefedd bellach wedi’i estyn am 12 mis eto, hyd at fis Mawrth 2026.                                                          

Mae’r cynllun ar gael i aelwydydd cymwys sydd wedi archwilio’r holl fesurau eraill sy’n cael eu cynnig gan ddarparwr eu morgais, ac sydd wedi ceisio cymorth gan wasanaethau cyngor dyledion.

Bydd perchnogion tai cymwys yn derbyn cyngor morgais am ddim gan gynghorwyr dyledion arbenigol, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod ymgeiswyr yn derbyn cyngor annibynnol ar yr opsiynau sydd ar gael, yn cadarnhau bod pob llwybr arall wedi'u harchwilio cyn cynnig ad-daliad rhannol o falans morgais presennol drwy fenthyciad ecwiti cost isel, i ostwng eu had-daliadau morgais a adolygwyd i lefel fforddiadwy i’r ymgeisydd.

Mae canllawiau llawn am y cynllun, gan gynnwys y meini prawf ar gael ar Cymorth i Aros Cymru | LLYW.CYMRU