Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiwyd y cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth ym mis Hydref 2020. Ei nod oedd rhoi cefnogaeth i denantiaid a oedd yn wynebu newid dros dro yn eu hincwm oherwydd y pandemig. Mae hyn yn cynnwys pobl ar ffyrlo sydd wedi cael 80% o’u cyflog dros gyfnod o amser, y rheini a gymerodd wyliau di-dâl o’u cyflogaeth i ofalu am rhywun, neu’r rheini oedd ond yn gymwys am dâl salwch statudol yn ystod cyfnod o hunanynysu, a oedd yn golygu na allent fforddio’r rhent. Rwy’n ddiolchgar i Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r saith Undeb Credyd sy’n cefnogi’r cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth, sydd hefyd wedi rhoi cymorth i denantiaid ddod o hyd i help drwy gynlluniau a rhaglenni budd-daliadau eraill, gan gynnwys y Cynllun Rhybudd Cynnar.

Ein bwriad  gwreiddiol, pan lansiwyd cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth oedd y byddai’n weithredol tan 31 Mawrth 2021, gyda’r opsiwn o’i estyn petai angen. Wrth i’r pandemig barhau, a gyda chyfyngiadau’n dal i fod yn eu lle, mae llawer o denantiaid yn parhau i fyw ar incwm sy’n is na’u hincwm arferol. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o’r cynnydd sydyn tebygol mewn achosion o droi allan wrth i’r ataliad ar hynny a’r cyfnodau estynedig ar gyfer hysbysiadau cymryd meddiant ddod i ben. Gyda hyn mewn golwg, ac o gofio’r anawsterau y mae llawer yn ei wynebu o hyd wrth dalu rhent, rwyf wedi cytuno i estyn y cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth am o leiaf chwe mis, tan 30 Medi.

Nid bwriad y cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth oedd targedu pob tenant sydd mewn ôl-ddyledion rhent, a rhaid i’r benthyciadau fod yn rhai fforddiadwy. Roedd y cynllun yn fodd o roi benthyciadau i’r rheini oedd mewn ôl-ddyledion rhent oherwydd iddynt fethu â thalu rhent dros dro, sydd bellach yn gallu fforddio’r rhent eto, ond yn cael trafferth yn clirio’r ôl-ddyled. 

Rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn wella’r cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth, er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd rhagor o bobl a bod nifer y ceisiadau a’r nifer sy’n cael y benthyciadau’n cynyddu. Yn y lle cyntaf, bydd hyn yn cynnwys systemau cyfathrebu llawer gwell, fel bod landlordiaid a thenantiaid yn fwy ymwybodol o’r cynllun. Rydym hefyd yn cydweithio ag undebau credyd i ystyried newidiadau posibl eraill y gellid eu gwneud i gynyddu nifer y rheini sy’n gallu cael mynediad ato. 

Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar gael i’r rheini sy’n cael budd-daliadau ac maent yn cael ei rhoi drwy’r awdurdod lleol. Er mwyn rhoi cymorth i awdurdodau lleol ymdopi â’r galw ychwanegol sy’n debygol o ddigwydd dros y flwyddyn nesaf, rwyf wedi dyrannu £4.1m ychwanegol at y cyllid Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn er mwyn helpu awdurdodau lleol i roi cymorth i denantiaid mewn ôl-ddyledion rhent eleni ac yn 2021-2022.

Mae’r llywodraeth hon wedi cyflawni cymaint yn cryfhau hawliau’r rheini sy’n rhentu cartrefi yng Nghymru ac mae’n rhaid i ni nawr wneud ymdrech sydd hyd yn oed yn fwy wrth i ni roi cefnogaeth i denantiaid drwy gydol y pandemig a thu hwnt.