Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

I annog twf yn y sector preifat a chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd, gan gefnogi datblygiad sgiliau gweithlu Cymru ar yr un pryd, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau a minnau wedi penderfynu estyn y cynllun Sgiliau Twf Cymru ar unwaith.

Caewyd y cynllun presennol i ymgeiswyr newydd ddiwedd mis Mawrth 2011, unwaith yr oedd yr holl gyllid a oedd ar gael wedi’i neilltuo. Ers i’r cynllun gau rwyf wedi bod yn derbyn galwadau parhaus gan fusnesau a’r cyrff sy’n eu cynrychioli, yn gofyn inni atgyfodi Sgiliau Twf Cymru er mwyn rhoi hwb i gynlluniau twf y sector preifat.

O gofio her diweithdra yn ein cymdeithas, roedd datblygu’r economi a chreu swyddi drwy fuddsoddi mewn sgiliau yn ystyriaeth allweddol wrth inni fynd ati i fireinio’r cynllun cyfredol. Datblygwyd dull dethol wedi’i dargedu’n ofalus, er mwyn cael hyd i’r busnesau allweddol yn y sectorau blaenoriaethol sydd â chynllun credadwy ar gyfer twf a fydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth. Yn yr un modd, mae cyflogwyr blaengar yn sylweddoli mai dim ond trwy ddatblygu’r gweithlu y gellir datrys y broblem o sicrhau sgiliau allweddol yn y gweithle a datgloi potensial llawn yn gweithlu.

Bydd y rhaglen estynedig yn anelu i ddarparu cymorth hyfforddiant dros gyfnod tair blynedd, tan 31 Mawrth 2015, er mwyn helpu 200 cwmni i gyflawni eu cynlluniau twf a chreu hyd at 3,000 o swyddi.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau £17 miliwn ychwanegol o Gyllid Ewropeaidd  Cymdeithasol ar gyfer parhau â chynllun Sgiliau Twf Cymru ac mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i ddarparu £13 miliwn arall dros gyfnod y rhaglen estynedig. Gyda’r gyllideb hon, rydym yn disgwyl gallu darparu cymorth hyfforddiant i bron i 12,000 o weithwyr mewn sectorau busnes allweddol.

Bydd disgwyl i gwmnïau gynnal rhaglenni hyfforddi achrededig sy’n arwain at gymwysterau lefel 2 neu uwch ym meysydd Arwain a Rheoli, Technegau Gwella Busnes a chymwysterau galwedigaethaol eraill. Rhoddir ystyriaeth hefyd i hyfforddiant sy’n cyflawni safonau a gydnabyddir yn eang o fewn y diwydiant.

Bydd y penderfyniad hwn i estyn Sgiliau Twf Cymru yn cydategu lansiad cynllun Twf Swyddi Cymru ym mis Ebrill 2012, lle rhoddir pwyslais cryf ar gael cwmnïau’r sector preifat i roi cyflogaeth i bobl ifanc 16-24 oed am gyfnod o 6 mis. Hefyd, bydd Sgiliau Twf Cymru yn cydategu’r cyllid cyfalaf sydd ar gael o dan y Gronfa Twf Economaidd a lansiwyd gan Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, ym mis Tachwedd y llynedd.