Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Daeth pedwerydd cylch y negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ar ein partneriaeth yn y dyfodol i ben yr wythnos diwethaf ac mae'n amlwg bod gwahaniaethau sylfaenol yn parhau a hynny i raddau helaeth oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi symud oddi wrth yr ymrwymiadau a wnaed yn y Datganiad Gwleidyddol y cytunwyd arno rhwng y ddwy blaid ym mis Hydref. O gofio cyn lleied o gynnydd sydd wedi’i wneud, mae'n fwyfwy anodd gweld sut y gall Cytundeb Masnach Rydd Cynhwysfawr fod ar waith erbyn diwedd 2020, pan ddaw'r cyfnod pontio i ben.
Mae'r Cytundeb Ymadael yn ei gwneud yn ofynnol i estyniad i'r cyfnod pontio gael ei gytuno gan y Cyd-bwyllgor cyn diwedd mis Mehefin. Gyda llai na thair wythnos i fynd tan hynny, mae'n ymddangos yn amhosibl bellach y bydd Llywodraeth y DU yn gallu rhoi sicrwydd credadwy inni erbyn hynny fod cytundeb o fewn cyrraedd.
Dyna pam y mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu heddiw ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban yn galw ar Brif Weinidog y DU i ofyn am estyniad i'r cyfnod pontio er mwyn darparu’r hoe angenrheidiol i gwblhau'r trafodaethau. Mae hyn yn adlewyrchu’r alwad a wnaed gan y Prif Weinidog ar ddechrau'r argyfwng hwn, dros 11 wythnos yn ôl i'r Prif Weinidog geisio estyniad er mwyn caniatáu i’r holl lywodraethau ganolbwyntio'u sylw llawn ar ymladd y pandemig - cais a anwybyddwyd.
Roedd y posibilrwydd o gwblhau'r negodiadau cymhleth hyn yn ystod y cyfnod pontio bob amser yn mynd i fod yn her, ond mae argyfwng annisgwyl a thrychinebus Covid-19 wedi dwysáu anawsterau'r negodiadau. Fel Llywodraeth, gwyddom ei bod wedi bod yn amhosibl neilltuo'r adnoddau y byddem wedi dymuno eu neilltuo i’r trefniadau Pontio Ewropeaidd ar yr adeg hon, ac mae'n glir bod hynny'n wir hefyd am Lywodraeth y DU ac yn wir yr UE.
Mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol yn real iawn. Mae pob tystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd canlyniadau economaidd anffafriol sylweddol yn sgil newid sydyn ac eithafol o'r fath yn ein perthynas fasnachu â'r UE. Dyna pam y mae Rhagolygon Economaidd OECD ar gyfer Mehefin yn cynnwys argymhelliad cryf dros estyniad gan ddweud “The United Kingdom should make a temporary arrangement to stay in the EU Single Market beyond 31 December 2020 given the pressures firms already face from COVID-19.” Mae Llywodraeth Cymru wedi crynhoi'r dystiolaeth mewn perthynas ag ymadael â’r UE yn flaenorol o dan ystod o sefyllfaoedd o ran y berthynas yn y dyfodol. Mae'r dystiolaeth hon yn glir - po fwyaf y mae'r DU yn symud i ffwrdd oddi wrth y lefel bresennol o integreiddio economaidd, mwyaf yn y byd yw'r difrod economaidd. Mae'r dadansoddiad hwn ar gael yn: https://llyw.cymru/y-berthynas-rhwng-y-du-ar-ue-yn-y-dyfodol?
Ar adeg pan fo cronfeydd busnes wrth gefn wedi dod i ben a'r economi'n chwilio am sicrwydd a thwf, mae perygl y bydd ymagwedd Llywodraeth y DU at ein perthynas yn y dyfodol â'n marchnadoedd allforio mwyaf yn ychwanegu costau ychwanegol a rhwystrau newydd i fasnach a dryswch. Mae ymagwedd Llywodraeth y DU yn cynyddu ymhellach y risg y bydd busnesau’n cau, gan roi mwy o swyddi mewn perygl a gosod rhagor o straen ar ein cymunedau. Bydd yr arian cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi busnesau a chymunedau drwy'r newidiadau hefyd wedi ei ddisbyddu yn ddirfawr gan ymdrechion i ymateb i'r argyfwng presennol.
Mae rhoi ein gwlad drwy hyn ar adeg pan y dylem fod yn canolbwyntio ar sut ydym am adfer o'r sioc economaidd enfawr a achoswyd gan argyfwng Covid 19 yn ddi-hid ac yn ddiangen. Byddwn felly yn parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU ar bob cyfle yn ystod yr wythnosau nesaf iddi ofyn am estyniad er mwyn caniatáu amser i'r negodiadau ddod i ben gyda chanlyniad sydd o fudd i bob un o'n gwledydd. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i'n heconomi fregus ailgychwyn, ac i'n busnesau gael seibiant i ymadfer ar ôl ergydion y misoedd diwethaf ac i baratoi ar gyfer ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.