Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Mae Enwaedu Benywod yn ddull echrydus o gam-drin ac mae iddo ganlyniadau corfforol a seicolegol trychinebus i ferched a menywod. Mae’r arfer hwn yn gyffredin mewn rhai cymunedau Affricanaidd ac Asiaidd a chymunedau’r Dwyrain Canol ar draws y DU, gan gynnwys Cymru.
Yn aml, mae’n cael ei guddio o’r golwg, dan len o ddirgelwch. Yn ôl ffigurau diweddar gan yr NSPCC datgelwyd maint y broblem, gyda mwy na 70 o fenywod a merched yn ceisio triniaeth bob mis yn y DU, rai ohonynt mor ifanc â 7 oed.
Mae cynorthwyo’r dioddefwyr a lleihau cyfraddau pob math o drais yn erbyn menywod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Elfen allweddol o hyn yw codi ymwybyddiaeth a lleihau’r risg o enwaedu benywod yng Nghymru
O dan Ddeddf Enwaedu Benywod 2003, fe wnaeth deddfwriaeth y DU gryfhau Deddf Gwahardd Enwaedu Benywod 1985 fel ei bod yn drosedd i enwaedu benywod sy’n ddinasyddion y DU dramor, gyda’r gosb fwyaf yn 14 blynedd o garchar.
Roedd strategaeth integredig chwe blynedd Llywodraeth Cymru yn 2010, sef ‘Yr Hawl i fod yn Ddiogel’, yn mynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Roedd y strategaeth yn adeiladu ar y ddeddfwriaeth ac yn cynnwys camau penodol i ymdrin ag enwaedu benywod yng Nghymru ac i roi cymorth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio ganddo.
Cyhoeddwyd protocol Cymru Gyfan ar enwaedu benywod gan y Grŵp Adolygu Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn 2011. Nod y protocol yw cynyddu ymwybyddiaeth am y mater ymysg asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy’n delio â phlant, er mwyn gallu adnabod y plant sydd mewn perygl a delio ag achosion mewn dull priodol. Rydym yn parhau i sefydlu mecanweithiau sy’n annog rhannu unrhyw wybodaeth â’r heddlu ac asiantaethau eraill i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy’n cyflawni’r weithred echrydus hon.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn falch o ariannu BAWSO, y gwasanaeth Cymru gyfan sy’n darparu cymorth arbenigol a holistaidd i gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys cymorth i’r sawl sydd wedi dioddef o enwaedu benywod. Yn 2011, darparwyd cyllid penodol i BAWSO ac ymarferwyr iechyd i ddatblygu pecyn cymorth i helpu i ddysgu rhieni a gweithwyr proffesiynol ac i godi ymwybyddiaeth o effaith enwaedu benywod ar iechyd.
I adeiladu ar y cynnydd hyd yn hyn, un o fy mlaenoriaethau craidd yn ystod y misoedd nesaf yw datblygu’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno deddfwriaeth fydd yn dod â thrais yn erbyn menywod i ben. Bydd y ddeddfwriaeth arloesol hon yn cwmpasu pob math o drais yn erbyn menywod, gan gynnwys enwaedu, trais rhywiol a cham-drin domestig. Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn helpu i weithredu’r prosiect 10,000 o Fywydau Diogelach.
Roedd ein Papur Gwyn yn cydnabod y bydd arweiniad strategol a chryf yn hollbwysig er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn, gan annog ymatebion ar draws polisïau, partneriaethau rhwng asiantaethau a newid agweddau tuag at bob math o drais yn erbyn menywod, gan gynnwys enwaedu, trais domestig a thrais rhywiol.
I gydnabod pwysigrwydd yr agenda atal, ein blaenoriaethau fydd gwella addysg a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau allweddol. Mae’r Papur Gwyn yn ymrwymo i sicrhau bod holl ysgolion Cymru yn cael cymorth i ddarparu rhaglen i hyrwyddo perthnasau iach, sy’n briodol i’w hoedran, ac a fydd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth am enwaedu benywod.
Ar hyn o bryd ychydig o wybodaeth sydd ar gael am nifer yr achosion o enwaedu benywod yng Nghymru. Er mwyn mynd i’r afael â hyn rydym yn bwriadu cyflwyno cymorth arbenigol. Byddaf yn gofyn am adolygiad o’r arferon presennol. Bydd hyn yn cynnwys casglu data a chodi ymwybyddiaeth, yn arbennig gyda gweithwyr proffesiynol rheng flaen, am union natur enwaedu benywod, a phwysleisio natur anghyfreithlon yr arfer hwn. Bydd hefyd yn adeiladu ar y sail tystiolaeth yng Nghymru gan fod angen hyn er mwyn ymdrin â’r broblem yn effeithiol.
Mae gan bawb yng Nghymru yr hawl i fyw mewn cymuned ddiogel, a chael rhyddid rhag camdriniaeth, ofn a thrais. Bydd mynd i’r afael ag enwaedu benywod drwy gynyddu ymwybyddiaeth o’r arfer a chefnogi’r dioddefwyr yn rhan ganolog o gyflawni ein nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
Rwy’n croesawu menter yr NSPCC sy’n lansio ei Linell Gymorth ar Enwaedu Benywod ar 24 Mehefin, a fydd yn darparu lle diogel y mae mawr angen amdano lle gall pobl fynd iddo am help a chyngor ar enwaedu benywod heb ofni dial. Gall unrhyw un sy’n poeni am blentyn sy’n dioddef, neu sydd wedi dioddef, o enwaedu benywod ffonio 0800 028 3550 am wybodaeth a chymorth.