Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae entrepreneuriaid benywaidd heddiw yn creu gwell yfory i bawb. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rwy'n falch o ddathlu a chydnabod eu cyfraniad ac ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi a grymuso entrepreneuriaid benywaidd a pherchnogion busnes yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyfraniad menywod mewn busnes ac mae wedi ymrwymo'n llwyr i annog mwy o entrepreneuriaid benywaidd i ddechrau, cynnal a datblygu eu busnesau eu hunain yng Nghymru. Mae llwyddiant entrepreneuriaid benywaidd nid yn unig yn fuddugoliaeth iddynt yn bersonol, ond i'w cymuned gyfan. Mae'n gylch pwerus lle mae llwyddiant un person yn helpu i greu effaith ehangach, gan godi eraill ar hyd y ffordd. Trwy feithrin amgylchedd lle gall entrepreneuriaid benywaidd ffynnu, rydym yn buddsoddi nid yn unig yn eu dyfodol ond yn nyfodol cenedlaethau.
Yr wythnos hon, cefais y pleser o ymweld â Deploy Tech ym Mhontyclun lle cwrddais â'r cyd-sylfaenydd busnes ysbrydoledig a'r Prif Swyddog Technoleg Beren Kayali. Mae Deploy Tech yn cynhyrchu ac yn gwerthu tanciau storio dŵr y gellir eu cludo yn yr awyr yn fflat ac yna eu hadeiladu yn y fan a'r lle. Gwnaeth llwyddiannau'r entrepreneur ac effaith economaidd a chymdeithasol y busnes argraff arnaf. Mae'n bosibl defnyddio'r unedau mewn amrywiol ffyrdd o gasglu dŵr glaw i ddarparu cyflenwad dŵr glân a sefydlog i ardaloedd sydd wedi dioddef trychinebau, yn ogystal â bwydo da byw mewn ardaloedd sy'n anodd eu rheoli. Mae Beren wedi bod yn ganolog i sefydlu a llwyddiant y cwmni hyd yma ac mae wedi ymddangos ar Restr Ewropeaidd Forbes 30 Dan 30, rhestr Arloesi 30 UNICEF ac enillodd Wobr Arloesi Menyw Fusnes y Flwyddyn Vodafone 2024.
Cefais y fraint hefyd o gynnal bwrdd crwn yr wythnos hon gyda pherchnogion busnesau benywaidd, lle roeddent yn rhannu eu teithiau personol gydag entrepreneuriaeth. O'r trafodaethau hyn, gwnaethom ymchwilio i'r cyfleoedd a'r heriau sy'n eu hwynebu. Amlygodd y sgwrs y rôl hanfodol y mae entrepreneuriaid benywaidd yn ei chwarae wrth sbarduno twf economaidd, meithrin arloesedd, a hyrwyddo cydraddoldeb, i gyd wrth sicrhau gweithlu amrywiol a chynhwysol. Roedd hefyd yn amlwg, pan fydd menywod yn llwyddo yn y gweithlu, bod economïau'n tyfu, bod teuluoedd yn ffynnu, a chymunedau'n dod yn fwy cyfartal.
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod busnesau sy'n cael eu harwain gan fenywod yn ganran fechan o fentrau twf uchel yn y DU, sy'n golygu nad ydym yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'n rhaid i ni barhau i wella prif ysgogwyr twf busnes, megis mynediad at gyllid, yn enwedig ecwiti, grantiau arloesi a marchnadoedd newydd trwy gyfleoedd allforio. Mae grymuso menywod yn economaidd yn cynnig cyfleoedd a dewisiadau i fenywod, ac mae'r gallu i fenywod ddechrau, datblygu a chynnal busnesau llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog yn y broses hon. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi entrepreneuriaid benywaidd ar eu taith, i ryddhau'r cyfleoedd hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau twf busnes mewn ffordd gynhwysol. Mae Busnes Cymru yn darparu mynediad at gyngor busnes, cyfleoedd i gyrraedd cadwyni cyflenwi, a rheolwyr perthynas profiadol a all helpu i lywio'r ecosystem a chefnogi eu taith ynghyd â mentoriaid a modelau rôl positif i weithio ochr yn ochr â hwy fel perchnogion busnes.
Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ar bolisïau ac arferion cyflogaeth, gwaith teg, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan allweddol o drafodaethau gyda chleientiaid ac mae'n cynnwys gwybodaeth fel yr Addewid Cydraddoldeb, hawliau gweithio hyblyg a dyletswyddau. Rydym yn annog pob busnes i fabwysiadu'r Addewid Cydraddoldeb sy'n darparu ffordd ymarferol i fusnesau wella eu perfformiad cydraddoldeb yn y ffordd y maent yn arwain eu busnes a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith a chanllaw arfer da ar gyfer cefnogi menywod entrepreneuraidd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth Busnes Cymru sy'n targedu entrepreneuriaid benywaidd yn rhagweithiol ac ymgysylltu â grwpiau cynrychioliadol yn rheolaidd a chefnogi digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar fenywod yn ogystal â chefnogi gweithgarwch allgymorth yn y gymuned. Mae hyn wedi arwain at 44% o'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn fusnesau presennol sy'n cael eu harwain gan fenywod a 56% o'r rhai sydd wedi dechrau busnes gyda chymorth gan y gwasanaeth yn fusnesau sy'n cael eu harwain gan fenywod ers dechrau tymor y Senedd hon.
Rwyf hefyd yn falch o dynnu sylw, fel rhan o Gynllun Gweithredu Allforio Cymru, bod rhaglen o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar allforio 'yng Nghymru' ar gyfer busnesau yn cael eu darparu gan gynnwys digwyddiad 'Menywod mewn Allforio' ar 7 Mawrth yng Nghaerdydd. Ffocws y digwyddiad yw hyrwyddo grymuso menywod yn economaidd, i alluogi menywod mewn busnesau a busnesau sy'n cael eu harwain gan fenywod i ddatblygu trwy allforio a rhoi cyfle i fusnesau wrando ar banel o allforwyr benywaidd llwyddiannus a gofyn cwestiynau iddynt.
Mae mynediad at gyllid yn parhau i fod yn her i lawer o entrepreneuriaid benywaidd. Mae entrepreneuriaid benywaidd yn aml yn wynebu rhwystrau wrth geisio buddsoddi yn eu busnesau newydd ac mae tua traean o fenywod yn dweud mai mynediad at gyllid yw'r rhwystr mwyaf sy'n eu hwynebu i ddod yn entrepreneur. Mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio'n agos â busnesau a rhanddeiliaid yng Nghymru i sicrhau bod eu cyllid yn cefnogi cynhwysiant ariannol ar draws sectorau a demograffeg. Mae Adroddiad Blynyddol y banc yn adrodd ar fesurau cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae gan tua thraean o'r busnesau y mae'r banc yn eu cefnogi gyfarwyddwyr benywaidd.
Mae'r Banc Datblygu yn canolbwyntio ar nifer o brosiectau i gefnogi entrepreneuriaid benywaidd. Mae'r rhain yn cynnwys lansio rhwydwaith Angel Menywod Cymru yn 2023 gan gynyddu gweithgarwch buddsoddwyr benywaidd yng Nghymru. Ers 2021 mae'r banc wedi bod yn llofnodwr y Cod Buddsoddi mewn Menywod - ymrwymiad gan gwmnïau gwasanaethau ariannol i wella mynediad at offer, adnoddau a chyllid i entrepreneuriaid benywaidd.
Fel llywodraeth, ein rôl ni yw nid yn unig annog entrepreneuriaeth benywaidd, ond ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid benywaidd. Trwy Syniadau Mawr Cymru rydym yn gweithio gydag ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch i annog menywod ifanc i ystyried entrepreneuriaeth fel llwybr gyrfaoedd hyfyw a chyffrous. Mae Syniadau Mawr Cymru yn recriwtio ac yn hwyluso rhwydwaith o dros 400 o entrepreneuriaid o Gymru, gyda 46% ohonynt yn fenywod, i ymweld ag ysgolion, colegau, prifysgolion a phartneriaid cymunedol i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sydd ei angen i fod yn entrepreneur llwyddiannus, cyflwyno gweithdai ysbrydoledig, a hyfforddi entrepreneuriaid y dyfodol.
Mae entrepreneuriaid benywaidd yn gatalyddion pwerus ar gyfer newid yn y byd busnes, gan chwalu rhwystrau a herio stereoteipiau. Mae eu cryfderau unigryw, eu syniadau arloesol, a'u hymroddiad i wneud gwahaniaeth yn ail-lunio diwydiannau a thanio twf economaidd. Wrth i ni gydnabod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu, mae'n hanfodol creu amgylchedd cynhwysol sy'n grymuso entrepreneuriaid benywaidd i ffynnu a gadael eu marc ar y llwyfan cenedlaethol a byd-eang. Mae cefnogi menywod mewn entrepreneuriaeth nid yn unig yn hyrwyddo twf economaidd ond hefyd yn ysgogi arloesedd, amrywiaeth ac effaith gymdeithasol.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i ddathlu'r entrepreneuriaid benywaidd ysbrydoledig ledled Cymru sy'n llunio ein dyfodol, gan barhau i chwalu rhwystrau, ysgogi twf economaidd ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.