Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gwrando'n astud ar Undebau Llafur y Gwasanaeth Iechyd wrth iddynt sôn wrthym am eu rhwystredigaethau. Felly, rydym yn falch iawn ein bod ni wedi gallu cynnig codiad cyflog o 3% a fydd yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2022 (bydd 1.5% ohono yn cael ei gyfuno a'i gario drosodd i flynyddoedd sydd i ddod). Daw hyn yn ychwanegol at y £1,400 sydd eisoes wedi'i dalu i staff y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn argymhellion y corff adolygu cyflogau annibynnol. Mae'n hynod bwysig imi fod yn gwbl glir mai dyma'r cynnig terfynol y gallaf ei wneud ar gyfer 2022/23 o fewn y cyllid sydd ar gael inni.
Ond rwyf hefyd wedi gwrando yr wythnos hon ar yr hyn y mae Undebau Llafur wedi bod yn ei ddweud wrthyf am rwystredigaethau eu haelodau sy'n eistedd am oriau y tu allan i ysbytai wrth iddynt aros i ryddhau eu cleifion. Rwy'n deall bod pobl yn eithriadol o rwystredig nad ydynt yn defnyddio’r sgiliau y maen nhw wedi hyfforddi'n galed i'w meithrin a dyna pam rwy'n cydnabod yr oedd angen inni fynd ymhellach na'r cynnig cyflog. Rwy’n gwybod bod y pwysau yn y Gwasanaeth Iechyd yn cael effaith benodol iawn ar amodau gweithio Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, felly rwy'n deall bod yr elfennau nad ydynt yn ymwneud â chyflog yr un mor bwysig. Rwy'n gwybod bod staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eisiau gwasanaethu eu cymunedau hyd eithaf eu gallu.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, rwyf wedi trafod yr elfennau penodol i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda'r Prif Weithredwr, ac mae ef a'i uwch-dîm arwain wedi ymrwymo i wneud popeth yn eu gallu – popeth sydd o fewn rheolaeth benodol yr Ymddiriedolaeth – i wella’r profiad yn y gweithle i bob aelod o staff.
Mae'r problemau sy'n cael eu hachosi gan yr heriau o gael pobl yn ôl i’w cartrefi o'r ysbyty ar ôl iddynt gael eu trin yn effeithio, yn eu tro, ar yr adrannau brys hefyd. Yn aml iawn, golyga hyn fod staff yn gorffen eu shifftiau yn hwyr/ neu fod shifftiau yn gor-redeg ac rwy’n deall y gall hyn amharu'n sylweddol ar fywyd cartref y staff.
Rwyf wedi dweud yn glir wrth y Byrddau Iechyd fod yn rhaid iddynt, wrth fynd ati i lunio’u cynlluniau at y dyfodol, roi’r prif flaenoriaeth i wella'r llif drwy ysbytai. Bydd angen iddynt weithio gyda llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac i weithio’n gyflymach pan fyddant yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau gofal cymunedol integredig cyn y gaeaf nesaf. Credwn y bydd hynny’n lleddfu cryn dipyn ar y pwysau sydd ar yr adrannau brys ac yn gwella amodau gwaith i staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Oherwydd bod undeb Unite wedi dewis parhau i streicio yr wythnos hon, maen nhw wedi’u heithrio eu hunain o'r trafodaethau ffurfiol ar lefel Cymru gyfan. Rydym yn falch ein bod wedi parhau i drafod gyda’r undebau iechyd eraill. Yn ystod y trafodaethau hynny, rwyf wedi gwrando ar yr Undebau Llafur sy'n cynrychioli staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac o ganlyniad, hoffwn gynnwys y cynnig isod yn atodiad penodol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i’r cynnig cyflog terfynol i’r GIG, a gyhoeddwyd ddoe.
Elfennau penodol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Byddwn yn gweithio gyda chynrychiolwyr yr undebau i sicrhau eu bod nhw a'u haelodau yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gallu dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu gwasanaeth gofal cymunedol integredig, a chyfrannu at y gwaith hwnnw.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr yr undebau ambiwlans weithio gyda Llywodraeth Cymru ar weithgorau a fydd yn ceisio cynnig atebion i'r broblem o wella'r llif drwy ysbytai.
- Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gweithwyr ambiwlans sy'n aros am gyfnodau hir y tu allan i adrannau brys yn poeni am fygdarth o'u cerbydau ac felly, bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyflwyno pwyntiau gwefru, gan ddechrau drwy gyllido o leiaf dri phwynt gwefru yn yr holl adrannau brys ledled Cymru.
- Bydd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gohirio cyflwyno newidiadau arfaethedig i’r amser a ganiateir ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus y bwriedid eu rhoi ar waith ym mis Ebrill, a bydd trafodaethau'n parhau mewn partneriaeth gymdeithasol ar lefel sefydliadol.
- Bydd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn oedi cyn parhau â’r ddeialog am y newidiadau i’r polisi ar seibiannau gorffwys, er efallai y bydd angen rhywfaint o drafod mewn partneriaeth gymdeithasol ar lefel sefydliadol er mwyn sicrhau eglurder o ran un fersiwn o'r trefniadau cyfredol.