Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 13 Chwefror, cyhoeddais fy mod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau na fydd pobl ifanc sy’n gadael gofal yn gorfod talu’r dreth gyngor o 1 Ebrill ymlaen. Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi gosod y ddeddfwriaeth angenrheidiol gerbron y Cynulliad.

Daw hyn yn sgil cyfnod o ymgysylltu ac ymgynghori gyda llywodraeth leol, y trydydd sector a threthdalwyr unigol. Yn ein dogfen ymgynghori ddiweddar ynglŷn ag eithrio pobl ifanc sy’n gadael gofal rhag talu’r dreth gyngor, roedd dros 90% o’r rhai a ymatebodd yn cefnogi ein cynigion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth a allwn i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal, er mwyn ei galluogi i groesi’r bont yn llwyddiannus i fod yn oedolion ac i fyw’n annibynnol.

Dyma garreg filltir bwysig o ran gwireddu ein hymrwymiad i wneud y dreth gyngor yn decach. Mae gennym raglen helaeth o waith ar y gweill i edrych sut y gellir gwella system y dreth gyngor yn y tymor byr, canolig a hir fel y gallwn barhau i gyflawni’r ymrwymiad hwn.