Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Bydd ein cynlluniau Metro yn newid y ffordd rydym yn teithio drwy greu rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a beicio a cherdded modern, cynaliadwy, gan greu amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a hamdden tra'n lleihau effaith amgylcheddol ein rhwydwaith trafnidiaeth. Byddant yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gyflawni blaenoriaethau ac amcanion ein strategaeth drafnidiaeth newydd uchelgeisiol, Y Llwybr Newydd.
Gall gwsmeriaid ar ein cynlluniau Metro yn y Gogledd, y De, a Bae Abertawe a Gorllewin Cymru ddisgwyl rhwydwaith o lwybrau a chyfnewidfeydd sy'n cynnig gwasanaethau cyflymach, amlach a dibynadwy ar gerbydau mwy cyfforddus, hygyrch a gwyrddach.
Mae pob un o rwydweithiau'r Metro ar wahanol gamau datblygu ac rydym yn cydweithio â chymunedau i ddiwallu anghenion lleol a blaenoriaethau rhanbarthol, tra'n cyflawni ein rhwymedigaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r datganiad hwn yn rhoi trosolwg o'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Yng Ngogledd Cymru, rydym wedi rhoi'r sylfeini ar waith ar gyfer gwasanaethau rheilffordd a bysiau trawsnewidiol a theithio llesol, gan gynnwys cyflwyno gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru. Ochr yn ochr â lleihau unigedd gwledig a chyfleoedd i agor swyddi, busnesau a hamdden ledled Gogledd Cymru, bydd y cynlluniau hyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu economi ehangach y rhanbarth yn ogystal â dyfodol mwy cynaliadwy i dwristiaeth yng Ngogledd Cymru.
Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyflwyno trenau Metro wedi'u hailadeiladu'n llawn ar Reilffordd Borderlands o Wrecsam, gan ddarparu gwasanaeth cyflymach a mwy o gapasiti, yn ogystal â gwell cyfleusterau ar y trenau. Rydym wedi datblygu'r cynllun yn dda gyda chynlluniau i wella ein gorsafoedd, gan ei gwneud yn haws newid rhwng y rheilffyrdd a'r bws yng ngorsaf Gyffredinol Wrecsam, a rhwng gwasanaethau Arfordir Gogledd Cymru a Borderlands Line yn Shotton, gan gefnogi ein cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, oddi yno ac oddi mewn iddo ac o fewn Ardal Fenter ehangach Glannau Dyfrdwy.
Ym Mae Abertawe a Gorllewin Cymru, byddwn yn cyflwyno trenau newydd ar wasanaethau drwy ardal Bae Abertawe o 2022, gan gynyddu capasiti ar wasanaethau i Orllewin Cymru a rhwng De-orllewin Cymru a Manceinion. Rydym hefyd yn datblygu opsiynau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol a chyflymach ar y prif reilffyrdd rhwng dinasoedd, gan wasanaethu gorsaf benodol newydd yn San Clêr a gwasanaethau lleol o Abertawe i Aberdaugleddau a Doc Penfro. Ategir y rhain gan rwydwaith bysiau cynhwysfawr, amledd uchel sy'n gwasanaethu ardaloedd trefol yn Abertawe, Castell-nedd, Llanelli, a Phort Talbot. Mae'r prosiect Trawsnewid Trefi yn Hwlffordd yn cefnogi amrywiol opsiynau teithio llesol lleol. Rydym hefyd am ddatblygu gwasanaethau rheilffordd ardaloedd trefol a gorsafoedd newydd, gan gynnwys Pontarddulais i Gastell-nedd ac Abertawe, a Phorth Tywyn i Abertawe.
Yr wythnos hon cyhoeddwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ar Fetro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Dyma gyfle i bawb lywio ein cynlluniau ar gyfer gwella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth.
Yn olaf, mae cryn dipyn o waith eisoes yn cael ei wneud ar Fetro De Cymru i uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus, a llwybrau teithio llesol. Rydym yn uwchraddio ac yn trydaneiddio'r rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert, gan adeiladu cyfnewidfa fysiau newydd yng Nghaerdydd, a gwella cysylltiadau teithio llesol ar draws y rhanbarth, gan ei gwneud yn haws i bobl deithio yn ôl ac ymlaen i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar Fetro De Cymru, gyda'r gwaith o adeiladu depo newydd gwerth £100 miliwn a Chanolfan Reoli'r Metro yn Ffynnon Taf, yn gartref i'n Metro newydd i ddarparu mwy o wasanaethau yn ystod yr wythnos a dydd Sul. Er enghraifft, o 2022, trenau tram newydd a fydd yn darparu gwasanaeth troi i fyny a mynd ar reilffyrdd Treherbert, Merthyr ac Aberdâr. Bydd cyfnewidfa drafnidiaeth aml-foddol newydd Caerdydd sy’n ganolog i’r Metro yn cynnwys gwelliannau sylweddol i Orsaf Ganolog Caerdydd a chyfnewidfa fysiau newydd sbon Caerdydd yn ogystal ag arosfannau bysiau ar y stryd, tacsi, darpariaeth teithio llesol a chyswllt Bae Caerdydd.
Ledled Cymru gyfan, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd ledled Cymru a'r gororau gan gynnwys ein tri Metro yng Ngogledd, De, a Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein rhwydweithiau bysiau gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr ac integredig. Mae ein cyfnewidfeydd trafnidiaeth yn cael eu gwella i roi profiad mwy pleserus ac amgylchedd mwy diogel i gwsmeriaid tra bydd system tocynnau clyfar ledled Cymru yn symleiddio prisiau tocynnau ac yn sicrhau'r pris gorau bosib ar draws pob math o drafnidiaeth.
Bydd ein cynlluniau Metro yn creu cyfleoedd sy'n galluogi pobl yng Nghymru i gysylltu â'i gilydd, eu cymuned, eu swyddi a'u gwasanaethau gan roi hwb i'r economi, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a chefnogi ein rhwymedigaethau datgarboneiddio.