Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De ei gynllun gweithredu Ein Cymoedd Ein Dyfodol ym mis Gorffennaf, sy’n amlinellu tri maes blaenoriaeth a rhaglen waith uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Roedd y cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan aelodau’r tasglu, ac yn hollbwysig, ar adborth gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y De.  

Yn ystod y misoedd ers hynny, buom yn gweithio’n galed ar y cynllun cyflawni, sy’n cyd-fynd ag Ein Cymoedd Ein Dyfodol. Cyhoeddwyd y cynllun cyflawni ar 7 Tachwedd 2017:

Rwyf wedi datgan yn glir ers i’r Prif Weinidog ofyn i mi gadeirio’r tasglu bod angen i’r gwaith hwn fod yn brosiect hirdymor. Mae gan rai o’r problemau sy’n wynebu Cymoedd y De – yn enwedig effaith gymdeithasol ac economaidd canrif o gloddio am lo – wreiddiau dwfn ac maent yn berthnasol i sawl cenhedlaeth.

Hefyd, rwyf wedi dweud yn gwbl glir nad “atgyweirio” Cymoedd y De yw amcan y tasglu – mae’r rhan hon o Gymru yn llawn cyfleoedd, yn gyfoethog o ran diwylliant, adnoddau naturiol a phobl sy’n llawn gobaith ac uchelgais. Tasg gyntaf y tasglu fydd datblygu’r asedau hyn er mwyn creu ffyniant cymdeithasol ac economaidd hirdymor ar gyfer pob un o gymunedau’r Cymoedd.

Mae’r cynllun cyflawni hwn yn nodi sut y byddwn yn rhoi camau gweithredu Ein Cymoedd Ein Dyfodol ar waith. Rydym wedi ystyried pob un o’r tri maes blaenoriaeth – swyddi o ansawdd da a’r sgiliau i’w cyflawni; gwell gwasanaethau cyhoeddus a’r gymuned leol – yn fanwl, gan nodi sut a beth fydd angen ei wneud i wireddu pob ymrwymiad.

Mae’r cynllun cyflawni hwn yn disgrifio dros 60 o gamau gweithredu, ynghyd â’u canlyniadau disgwyliedig a sut y byddant yn cael eu rhoi ar waith.

Er mwyn sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddo, mae’n rhaid i’r tasglu ddwyn ynghyd holl adnoddau Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid niferus – gan gynnwys llywodraeth leol a’r ddwy fargen ddinesig – gwasanaethau cyhoeddus eraill, y sector preifat a’r trydydd sector er mwyn cefnogi’r Cymoedd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y De.

Hefyd, bydd y tasglu yn cyfrannu at y broses o lywio gwaith Llywodraeth Cymru, yn enwedig o safbwynt newid a llunio polisi’r llywodraeth yn ymwneud â’r Cymoedd.

Wrth weithio ar y cynllun cyflawni, rydym wedi parhau i ymgysylltu â’r cyhoedd a busnesau ledled y Cymoedd gan mai nhw sy’n allweddol i lwyddiant y cynllun hwn. Nhw sydd wedi llywio ffurf y cynllun, ac mae angen eu cymorth parhaus arnom i wireddu uchelgeisiau sydd ynddo.

Un maes penodol lle mae angen mewnbwn pobl arnom yw creu Parc Tirweddau’r Cymoedd. Wrth siarad â phobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, clywsom dro ar ôl tro nad oes digon yn cael ei wneud i fanteisio ar dirwedd naturiol a threftadaeth gyfoethog yr ardal.

Mae’r tasglu wedi cael trafodaethau ysbrydoledig gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, grwpiau cymunedol, a sefydliadau’r trydydd sector a’r sector preifat ynglŷn â’r syniad o greu parc tirweddau. Ond mae angen i ni barhau i ddatblygu hyn er mwyn manteisio’n llawn ar y syniad cyffrous hwn.

Rydym wedi cytuno y dylem ganolbwyntio ar wneud y Cymoedd yn lle y mae pobl yn falch o’i ystyried yn gartref; yn lle y mae busnesau yn dewis buddsoddi a gweithredu; lle mae cymunedau’n cael eu grymuso ac yn dangos balchder yn eu hamgylchedd a lle mae’r amgylchedd ei hun yn rhan annatod o ffordd o fyw pobl.

Y cam nesaf yw sicrhau’r cyllid ar gyfer tîm cymorth i arwain datblygiad y parc tirweddau. Bydd y tîm hwn yn gweithio gyda chymunedau i’w helpu i fanteisio’n llawn ar yr amgylchedd naturiol a goresgyn rhwystrau fel mynediad i gyllid a thir cyhoeddus.

Rydym wedi gosod targed uchelgeisiol o helpu 7,000 o bobl ddi-waith neu economaidd anweithgar i gael gwaith trwy greu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd erbyn 2021.

Fel rhan o’r broses o gyrraedd y targed hwn sy’n llawn her, nodwyd chwe lleoliad ar gyfer hybiau strategol ledled Cymoedd y De yn y cynllun gweithredu gwreiddiol. Byddwn yn canolbwyntio buddsoddiad cyhoeddus yn yr ardaloedd hyn gyda’r nod o ddenu buddsoddiad gan y sector preifat a chreu swyddi a chyfleoedd newydd. Ers i ni gyhoeddi’r cynllun gweithredu - ac yn dilyn sgyrsiau parhaus â’r cyhoedd a phartneriaid allweddol - mae seithfed hyb strategol wedi’i nodi yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr.

Dros y misoedd diwethaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod yr hybiau strategol, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd a’r gofynion ym mhob ardal a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae awdurdodau lleol yn arwain y broses o ddatblygu’r cynigion ar gyfer eu hyb strategol – mae’r themâu cychwynnol wedi’u cynnwys yn y cynllun cyflawni.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y tasglu a phob un o’r saith awdurdod lleol yn cynnal seminar hyb strategol er mwyn helpu i ddatblygu glasbrint buddsoddi ar gyfer pob lleoliad dros y 15 mlynedd nesaf. Caiff y prosiectau penodol sydd i’w hariannu yn ystod tymor y Cynulliad hwn eu nodi erbyn mis Ebrill.

Trwy fynd ati i roi camau gweithredu’r cynllun hwn ar waith, rwy’n benderfynol y bydd y tasglu’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau’r Cymoedd yn ystod tymor y Cynulliad hwn.  

Hon yw fersiwn gyntaf y cynllun cyflawni. Bydd y tasglu’n adrodd bob blwyddyn ar gynnydd, a bydd y cynllun cyflawni yn cael ei ddiweddaru wrth roi camau gweithredu ar waith gyda phobl sy’n byw yng nghymunedau’r Cymoedd.

Rwy’n edrych ymlaen at gam nesaf y gwaith yn y Cymoedd – bydd yn gyffrous gweld gwelliannau gwirioneddol yn cael eu cyflawni a bod yn rhan o newidiadau mor gadarnhaol yn yr ardal unigryw a bywiog hon o Gymru.