Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r byd gwybodaeth modern yn gyflym, yn hyblyg ac yn symudol. Mae’r ffordd rydyn ni’n rhyngweithio â’n gilydd a chyda gwasanaethau yn newid o hyd. Y dyddiau hyn, mae pobl yn defnyddio fforymau a’r cyfryngau cymdeithasol i drafod, rhannu a datrys problemau cyffredin, a chynnig eu hadolygiadau a’u barn eu hunain. Mae’n briodol bod pobl yn disgwyl i ddarparwyr iechyd a gofal gynnig gwasanaethau mwy rhyngweithiol a phersonol, gyda chyfathrebu effeithiol rhwng gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau.

Rwy’n awyddus i ni ganolbwyntio ar ofal iechyd darbodus gan ddefnyddio technoleg debyg i gefnogi triniaeth effeithiol a helpu gweithwyr proffesiynol a chleifion i weithio fel partneriaid.

Mae gwybodaeth yn hanfodol i hyn.

Mae’n bwysig bod gwybodaeth briodol yn hygyrch ac yn cael ei chyfrif yn ased i bawb sy’n ymwneud ag iechyd, gofal a chymorth i bobl, gan gadw’n bendant at yr egwyddor “unwaith ar gyfer Cymru”. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gallwn gael mynediad at ein gwybodaeth ein hunain ynghylch ein hanghenion iechyd a gofal ein hunain er mwyn gallu rheoli’n hiechyd a’n lles, a chwarae rôl weithredol yn y penderfyniadau am y gwasanaethau, y gofal a’r cymorth y mae eu hangen arnom.

Heddiw rwy’n cyhoeddi ein bod ni’n adnewyddu’n polisi ar eIechyd a Gofal yng Nghymru ac yn dechrau diweddaru’n strategaeth technoleg gwybodaeth i sicrhau bod pobl Cymru, y GIG, iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu elwa ar y manteision a ddaw yn sgil gwella technoleg a gwybodaeth.

Mae gennym y fantais o allu adeiladu ar ein strategaeth bresennol i sicrhau ein bod ni’n barod at y dyfodol ac yn gallu defnyddio technoleg i wneud pethau’n well. Cyfraniad clinigol ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddwyr y gwasanaethau hyn fydd yn llywio’n strategaeth.

Y cefndir

Mae’n rhaglen arloesol ‘Hysbysu Gofal Iechyd’ wedi bod yn rhedeg ers 2003 ac mae wedi sicrhau rhai o’r sylfeini allweddol er mwyn adeiladu a gweithredu’n gwasanaethau arnynt, gan gynnwys:

  • Dau draean o bractisau meddygon teulu yn caniatáu llogi ar-lein drwy’r gwasanaeth ‘Fy Iechyd Ar-lein’, sy’n ei gwneud yn haws i drefnu apwyntiadau ac archebu presgripsiynau amlroddadwy;
  • Mae bron hanner yr holl atgyfeiriadau cleifion gan feddygon teulu ar gyfer gofal ysbyty arbenigol yn cael eu hanfon yn electronig, ac mae’r niferoedd yn cynyddu bob mis. Mae bron pob atgyfeiriad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu hanfon yn electronig;
  • Drwy’r Cofnod Iechyd Unigol, mae 84 y cant o gofnodion meddygon teulu ar gael i’w defnyddio mewn gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau;
  • Mae gennym sefydliad cenedlaethol NWIS (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru), sy’n gallu cyflawni prosiectau cenedlaethol a chefnogi’r seilwaith cenedlaethol.

Gall yr egwyddor “unwaith ar gyfer Cymru” ein galluogi i gynnig effeithlonrwydd a gwerth drwy beidio â dyblygu gwaith mewn gwahanol rannau o’r wlad, fel y cadarnhawyd mewn adolygiad diweddar o wybodeg yn GIG Cymru.

Y ffordd ymlaen

Rydyn ni eisiau adeiladu ar egwyddorion allweddol y rhaglen Hysbysu Gofal Iechyd i ymateb i anghenion newydd gan wasanaethau a chymdeithas. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni fanteisio ar gyfleoedd technolegol newydd a ffyrdd newydd o weithredu, gan sicrhau ar yr un pryd bod gwybodaeth gyfrinachol a sensitif am gleifion yn cael ei diogelu.

Rwyf felly’n bwriadu datblygu strategaeth eIechyd a Gofal newydd a rhaglenni ategol ar y cyd â’r byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni’n nod o sicrhau bod mwy o wasanaethau, gofal a chymorth ar gael i gleifion yn eu cartrefi neu yn eu cymunedau lleol.

Mae gan dechnoleg rôl allweddol i’w chwarae. Gallai hyn gynnwys defnyddio fideogynadledda i ganiatáu i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol siarad â’i gilydd, helpu i wneud diagnosis a phenderfyniadau, a monitro o bell ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd penodol. Gall technoleg hefyd helpu i wella mynediad at wasanaethau drwy ddod â nhw’n agosach at gartrefi pobl, er enghraifft drwy gynnig gwasanaethau symudol mewn ardaloedd gwledig.

Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio fwyfwy, mae’n hanfodol ein bod ni’n galluogi pobl i fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl. Os na fydd hyn yn digwydd, bydd yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles unigolion.

Byddwn yn disgwyl bod gwybodaeth ar gael i weithwyr proffesiynol yn y fan a’r lle y mae ei hangen, p’un ai mewn iechyd neu mewn gofal cymdeithasol. Eisoes mae gennym y Cofnod Iechyd Unigol, gyda threfniadau diogelwch a llywodraethu priodol. Byddai unrhyw fynediad pellach at ddata pobl yn digwydd gyda’u caniatâd yn unig.

Ein nod fydd:

  • ei gwneud yn haws i gyfathrebu gyda’r GIG, ein helpu i reoli’n hiechyd a’n lles ein hunain, a chydgynhyrchu a chyfrannu’n fwy at iechyd a gofal;
  • cefnogi’r penderfyniad i ganolbwyntio’n fwy ar ofal o ansawdd, atal problemau a chanlyniadau y mae cleifion yn cytuno arnynt;
  • sicrhau gwerth gorau o’n buddsoddiadau;
  • cyfrannu at integreiddio gofal o fewn ac ar draws sefydliadau a chefnogi pobl â chyflyrau hirdymor;
  • gwella mynediad at wasanaethau, yn enwedig i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a chymunedau diarffordd.

Er mwyn gwneud hyn, bydd angen bod data, gwybodaeth a thechnoleg yn hygyrch ac yn addas at y diben.

Rwyf am i’r strategaeth eIechyd a Gofal hon ein helpu i ail-lunio a gwella gwasanaethau, a sicrhau bod pobl Cymru yn elwa ar y gwelliannau hynny. 

Mae’n rhaid i’r strategaeth, a fydd yn cael ei datblygu eleni, gael ei chreu drwy bartneriaethau ar draws sefydliadau gyda gweithwyr proffesiynol a dinasyddion.

Er mwyn cadw momentwm a ffocws, byddaf yn cadeirio Bwrdd Gwybodeg, ac mae swyddogion yn adolygu trefniadau llywodraethu i sicrhau eu bod yn llyfn, yn dryloyw ac yn effeithiol.

Er y bydd ffocws y strategaeth eIechyd a Gofal newydd yn bendant ar ganlyniadau, mae’r ffordd y caiff technoleg ei threfnu a’i darparu yn bwysig o hyd. Bydd gennym Raglen Genedlaethol o hyd sy’n cael ei chynllunio a’i halinio â’r ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen ac sy’n efelychu prosesau cynllunio gwelliant y byrddau iechyd, ynghyd â datblygu’r gweithlu.

Y casgliad

Mae cyfle i ni nawr ganolbwyntio ar sut gall eIechyd a Gofal ein helpu i ymdrin â galw, rhoi grym i ni gymryd rhan fwy gweithredol mewn penderfyniadau am ein hiechyd a’n gofal, a sicrhau gwasanaethau o ansawdd gwell yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.