Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r defnydd o Bàs COVID y GIG yn cael ei ehangu i bobl ifanc 12-15 oed sydd wedi'u brechu'n llawn ar gyfer teithio rhyngwladol yn unig. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael yng Nghymru o 22 Rhagfyr 2021 ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod hynny'n hanfodol. Fodd bynnag, mae nifer o wledydd ledled y byd bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sydd rhwng 12 a 15 oed allu darparu prawf eu bod wedi cael dau ddos o’r brechlyn cyn y byddant yn caniatáu mynediad.  I sicrhau nad yw pobl ifanc o Gymru o dan anfantais, rydym yn ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG er mwyn iddo fod ar gael i bobl ifanc 12-15 oed sydd wedi'u brechu'n llawn.  I ddechrau, bydd y dystysgrif brechu ar bapur.  Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu system ddigidol a fydd yn adlewyrchu'r system bresennol ar gyfer y rhai dros 16 oed.  Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd hyn ar waith.

Bydd y system hon yn berthnasol ar gyfer teithio rhyngwladol yn unig ac nid oes gofyniad o hyd i’r rheini dan 18 oed ddangos Pàs COVID y GIG ar gyfer lleoliadau domestig yng Nghymru.

Gall unrhyw un rhwng 12 a 15 oed sydd angen tystysgrif brechu ar ffurf papur ar gyfer teithio rhyngwladol yn unig ffonio 0300 303 5667. Gall rhieni hefyd ffonio ar ran eu plant. Mae rhagor o wybodaeth yma hefyd: www.llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig

Gellir ond rhoi tystysgrifau papur os:

  • yw'r person wedi cael cwrs llawn o'r brechlyn COVID-19 (dylent aros 5 diwrnod ar ôl iddynt gael y dos olaf cyn gwneud cais amdano)
  • ydynt rhwng 12 a 15 oed.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.