Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chymorth Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru, yn cynnal proses dendro gystadleuol i ddarparwyr gwasanaethau haemodialysis cronig (dialysis).  Cafodd y pwnc hwn ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar, ac felly rwyf am eglur wrth holl Aelodau'r Cynulliad beth yw safbwynt polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru ar hyn. Ni wnaed unrhyw benderfyniad hyd yn hyn, gan fod y trafodaethau yn parhau i fynd rhagddynt.
 
O'r cychwyn cyntaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio gyda Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru i ymgysylltu â chynrychiolwyr cleifion, undebau llafur a chynrychiolwyr staff wrth adolygu'r gwasanaethau dialysis. Roedd hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda'r unedau arennol ategol sydd ar waith mewn gwahanol fannau. Cododd anawsterau'n gynnar yn y broses hon wrth geisio sicrhau bod cynrychiolwyr staff yn gallu mynychu cyfarfodydd. Cryfhawyd y broses ymgysylltu yn nes ymlaen, gan gynnwys drwy gael cynrychiolwyr o UNSAIN a'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar Fwrdd y Rhaglen a Phanel Gwerthuso'r broses dendro sydd o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd hynny'n creu'r cyfle i gynrychiolwyr staff a defnyddwyr y gwasanaethau, gyfrannu at y gwaith o edrych ar wahanol opsiynau.
 
Cydnabyddir yn helaeth bod Cymru yn arwain y DU o ran sicrhau mynediad at gyfleusterau dialysis cynaliadwy o ansawdd da. Roedd cynnwys safon benodol a mesuradwy yn Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol 2007 ar gyfer Gwasanaethau Arennol (bellach y Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau Arennol) yn golygu ei bod yn bosibl modelu'r ddarpariaeth yn seiliedig ar anghenion poblogaeth, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a chynllunio safleoedd addas ac unedau dialysis o feintiau priodol ar draws Cymru. Drwy ddefnyddio dull gweithredu cyson ar gyfer comisiynu'r gwasanaethau hyn ers 2004, bu'n bosibl cynyddu canran y boblogaeth yng Nghymru sy'n byw o fewn amser gyrru 30 munud i gyrraedd uned ddialysis, o 75% i dros 90%.    

Daw’r llwyddiant hwn yn sgil y trefniadau cydweithredu ar gyfer darparu gofal y GIG, sydd wedi bod ar waith rhwng y GIG a darparwyr gwasanaethau annibynnol. Mae gan Gymru hanes hir o sefydlu contractau â darparwyr gwasanaethau annibynnol ar gyfer gwasanaethau arennol,  gan i’r contractau cyntaf gael eu dyfarnu dros 20 mlynedd yn ôl. Nid yw’r trefniadau hyn erioed wedi golygu bod gofyn i staff y GIG drosglwyddo at ddarparwr annibynnol o wasanaethau dialysis arennol.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chymorth Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru, sy'n gyfrifol am y broses dendro bresennol a gynhelir yn y Gogledd. Mae hon yn debyg i brosesau sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd yn y Canolbarth a'r De. Ers cwblhau contract ehangu 2016 y De-ddwyrain, mae'r cleifion yno bellach yn cael manteisio ar gyfleusterau sy'n defnyddio'r offer gorau sydd ar gael; gwell gymarebau staff nyrsio i gleifion; ac amgylcheddau cyfforddus newydd ar gyfer cael eu triniaeth.

Mae'r gwaith o ehangu a gwella gwasanaethau arennol y GIG yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant i staff a chleifion fel ei gilydd ac wedi rhoi gwerth ardderchog am arian. Safbwynt polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru yw na fyddwn yn cefnogi trosglwyddo staff, gan gynnwys o’r GIG, at ddarparwr annibynnol o wasanaethau arennol.