Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Mae Llywodraeth Cymru erioed wedi ymrwymo i ehangu addysg feddygol yng Ngogledd Cymru ac wedi creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol i israddedigion yn y Gogledd. Dechreuodd cyfanswm o 19 o fyfyrwyr ar eu hastudiaethau ar Raglen C21 yn 2019/20; Dechreuodd cyfanswm o 18 o fyfyrwyr ar y Rhaglen ar gyfer 2020/21
Yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed mewn addysg a hyfforddiant i GIG Cymru. Mae gennym fwy o leoedd hyfforddiant nag erioed o'r blaen ac oherwydd y cynnydd yn nifer y myfyrwyr israddedig sy'n astudio meddygaeth, mae'r costau cysylltiedig wedi cynyddu hefyd.
Rydym, felly'n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y trosglwyddiad Adnoddau Cyllidol o £0.836m i MEG Addysg o MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn ogystal. gwnaed trosglwyddiad i mewn o Gronfeydd Adnoddau Anghyllidol Wrth Gefn Llywodraeth Cymru o £0.362m yn 2020-21. Diben y ddau drosglwyddiad yw ymdopi â'r gofynion ychwanegol a osodir ar gyllidebau addysg o ganlyniad i'r ehangiad.