Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Ym mis Mawrth eleni, rhoddais i a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd wybod i’r Senedd am ein cynlluniau i ddatblygu rôl ehangach ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub, a hynny’n benodol er mwyn cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd. Roedd trafodaethau rhwng uwch-reolwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r GIG wedi nodi posbilrwydd clir y gallai diffoddwyr tân ymateb i rai argyfyngau meddygol, ymateb pan fo pobl wedi cwympo ond ddim wedi'u hanafu, a chynorthwyo i atal cwympiadau yn y cartref. Dylai hyn arwain at well canlyniadau iechyd a chreu arbedion sylweddol.
Ers hynny, mae trafodaethau manwl ynglŷn â sgôp hanfodol a manyleb y rôl hon wedi parhau. Mae angen i ni, y Gwasanaeth Tân ac Achub, a’r GIG fod yn gwbl glir ynghylch y tasgau y gall diffoddwyr tân gael eu galw i’w gwneud, eu bod yn gallu cwblhau’r tasgau hynny yn effeithiol, a bod y ffaith eu bod yn gwneud hynny yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Rwy’n parhau i fod yn hyderus y byddwn ni a’n partneriaid yn creu manyleb rôl gynhwysfawr a fydd yn sicrhau gwahaniaeth gwirioneddol a buddiol.
Yn ogystal, mae angen inni fod yn sicr bod gan y Gwasanaeth Tân ac Achub y gallu i ysgwyddo rôl ehangach heb amharu ar ei swyddogaethau craidd. Heb y sicrwydd hwn, byddai posibilrwydd o risg i ddiogelwch y diffoddwyr tân ac i’r rheini y maent yn eu cynorthwyo. I fynd i’r afael â hyn, mae Dan Stephens, ein Prif Gynghorydd Tân ac Achub wedi cwblhau arolwg manwl yn ddiweddar ynghylch capasiti a gallu’r Gwasanaethau Tân ac Achub i ymgymryd â rôl ehangach. Rydym yn cyhoeddi’r adroddiad heddiw, ac mae’r adroddiad hwn ar gael yn Capasiti’r gwasanaeth tân ac achub: adolygiad thematig | LLYW.CYMRU.
Mae adroddiad Dan Stephens yn dod i’r casgliad bod sgôp clir i ehangu’r rôl. Hyd yn oed yn ein gorsafoedd tân prysuraf, caiff cyfarpar eu defnyddio i ymateb i alwadau brys oddeutu 7-8% o’r amser. Wrth gwrs, mae hynny yn rhywbeth i fod yn falch ohono; mae hyn yn adlewyrchu’r llwyddiant mawr y mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ei gael wrth atal tanau yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae’n dangos hefyd, mewn egwyddor, bod sgôp i wneud mwy.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod digwyddiadau tân ar eu huchaf gyda’r nos, er enghraifft o ganlyniad i danau coginio domestig. Mewn cyferbyniad, mae digwyddiadau o ataliad ar y galon yn dueddol o ddigwydd fwy yn y boreau. Byddai gwaith atal cwympiadau – a fyddai’n ehangiad naturiol o raglen gyfredol ymweliadau diogelwch tân yn y cartref y Gwasanaethau Tân ac Achub – yn cael eu cynnal hefyd gan amlaf yn ystod y dydd. Gallai ymgymryd â rôl o’r fath fod yn gymharol ddidrafferth.
Fodd bynnag, yr her y mae’r Prif Gynghorydd wedi’i dadansoddi yn fanwl, yw bod swyddi diffoddwyr tân yn cwmpasu llawer mwy nag ymateb i danau. Mae angen hyfforddiant rheolaidd arnynt i sicrhau lefelau uchel o gymhwysedd i ddefnyddio’r ystod eang o gyfarpar a thechnegau, ac i sicrhau bod y cyfarpar hwnnw mewn cyflwr ardderchog. Yn ogystal, mae angen i ddiffoddwyr tân wneud gwaith lleihau risg, gan gynnwys ymweliadau diogelwch tân mewn cartrefi, ysgolion a lleoedd eraill. Rhaid casglu gwybodaeth ynghylch safleoedd sydd mewn perygl penodol o dân hefyd. Mae hyn oll yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn darparu ymateb cyflym, diogel ac effeithiol i danau ac argyfyngau eraill. Ar hyn o bryd, gellir cwblhau’r gweithgareddau hyn rhwng ymateb i argyfyngau. Mae’n bosibl y gallai ymgymryd â rôl ehangach leihau’r amser sydd ar gael ar gyfer y tasgau hanfodol hyn yn sylweddol.
Un ffordd o ddatrys hyn fyddai ymgymryd ag hyfforddiant a gweithgareddau eraill yn yr orsaf yn ystod cyfnodau distaw y sifft nos. Ar hyn o bryd, mae diffoddwyr tân amser llawn yn gweithio sifft nos 15 awr, ac yn ystod yr amser hwn, mae cyfnod o 7 awr rhwng hanner nos a 7am pan gall diffoddwyr tân orffwys os nad ydynt yn ymateb i alwadau argyfwng. Gallai’r amser hwn gael ei ddefnyddio’n hawdd ar gyfer hyfforddiant gan ryddhau amser yn ystod y sifft dydd i gyflawni rôl ehangach. Fodd bynnag, byddai’n angenrheidiol cwtogi hyd y sifft nos, oherwydd heb y cyfnod gorffwys presennol, byddai’r cyfnod o 9 awr rhwng sifftiau nos sy’n dilyn ei gilydd yn creu risg o flinder annerbyniol.
O ganlyniad, felly, mae’n bosibl y bydd newidiadau i’r arferion gwaith presennol yn angenrheidiol os yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub am ymgymryd a rôl ehangach yn ddiogel. Yn wir, mae adroddiad y Prif Gynghorydd wedi dod i’r casgliad y gallai newidiadau o’r fath fod yn angenrheidiol beth bynnag, gan fod yr adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth sy’n dangos nad oes digon o amser yn cael ei glustnodi ar hyn o bryd ar gyfer hyfforddiant a gwaith lleihau risg. Yn ogystal, mae yna bryderon nad yw’r patrwm sifftiau presennol o bosibl yn cydymffurfio â chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynglŷn a rheoli’r risg o flinder. Mae angen ystyriaeth i hyn ar frys.
Mae’r rhain yn faterion i’n Hawdurdodau Tân ac Achub, ac nid i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, buaswn yn disgwyl iddynt ystyried canfyddiadau’r adolygiad yn ofalus, a chwblhau’r holl gamau gweithredu priodol sy’n deillio ohono. Yn amlwg, mae sicrhau diogelwch ein diffoddwyr tân ymhlith eu prif flaenoriaethau, ac mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion pwysig i’r perwyl hwnnw.
Byddai’r newidiadau sy’n cael eu hystyried a’u hamlinellu yn yr adroddiad yn arwyddocaol i’r gweithlu yn ogystal. Felly, rwyf i a’m swyddogion eisoes wedi trafod y materion hyn gydag Undeb y Brigadau Tân a chyrff cynrychiolwyr eraill a byddwn yn parhau i weithio gyda hwy a’r Awdurdodau Tân ac Achub yn ein nod ehangach o ehangu rôl y Gwasanaeth. Buaswn yn disgwyl i’r Awdurdodau Tân ac Achub i gytuno ar unrhyw newidiadau i arferion gweithio gyda’r diffoddwyr tân a’u cyrff cynrychiolwyr yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol.
Mae hon yn agenda heriol ac uchelgeisiol, ond yn un sydd yn cynnig gwir botensial i wneud y mwyaf o werth cyhoeddus ein Gwasanaeth Tân. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau maes o law.