Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi cydweithio'n agos ac yn effeithiol i fynd i'r afael â her ddigynsail y pandemig COVID-19. Mae'r ysbryd hwn o gydweithio ac o weithio mewn partneriaeth wedi bod yn rhywbeth yr ydym wedi bod eisiau ei gefnogi a'i wella ers peth amser mewn ffordd gynaliadwy.
Mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng sgiliau, capasiti a gallu'r Gwasanaeth Tân ac Achub ac anghenion y Gwasanaeth Iechyd, sy'n golygu bod potensial i'r Gwasanaeth Tân ac Achub helpu’r GIG i sicrhau canlyniadau iechyd cadarnhaol.
Mae rhywfaint o'r potensial hwnnw yn cael ei wireddu eisoes - mae llawer o ddiffoddwyr tân yn y Canolbarth a'r Gorllewin eisoes yn ymateb i argyfyngau meddygol i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, tra bod eraill yn rhoi cyngor ar ffyrdd iach o fyw a chadw’n ddiogel gartref. Ond mae'r rhain yn aml yn gynlluniau achlysurol a lleol.
Yr hydref diwethaf, comisiynwyd gweithgor o uwch-reolwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r GIG i archwilio'r materion hyn a'n cynghori ar y rôl ehangach y gallai diffoddwyr tân ymgymryd â hi. Rydym yn falch o ddweud bod y grŵp hwnnw bellach wedi cwblhau ei waith.
Y nod cyffredinol yw defnyddio'r sgiliau a'r galluoedd penodol presennol sydd gan ddiffoddwyr tân i sicrhau gwell canlyniadau iechyd a defnydd mwy effeithlon ac effeithiol o adnoddau.
Yn seiliedig ar gyngor ein gweithgor, mae tri maes gwaith wedi dod i'r amlwg y gallai diffoddwyr tân ymgymryd â nhw. Yn gyntaf, gallent ymateb i rai argyfyngau meddygol i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn enwedig os yw cyflymder yr ymateb yn hanfodol o ran y canlyniad i’r claf. Mae gwerth cryf a chlir i hyn mewn achosion o ataliad ar y galon, lle mae diffibrilio cyflym yn aml yn golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Gwyddom hefyd ar sail treialon ledled y DU rhwng 2015 a 2017, a phrofiad rhyngwladol hirsefydlog, y gall ymateb cyflymach arwain at well canlyniadau, ac arbedion sylweddol o ran llai o angen i fynd i'r ysbyty am gyfnod hir neu ddibyniaeth ar ofal hirdymor. Efallai y bydd lle hefyd i ddiffoddwyr tân ymateb i fathau eraill o achosion, yn amodol ar ystyriaeth bellach o'r dystiolaeth glinigol, ymgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol, a bodloni gofynion hyfforddiant a lles perthnasol ar gyfer diffoddwyr tân.
Yn ail, mae lle i ddiffoddwyr tân ymateb i bobl sydd wedi syrthio gartref neu mewn man cyhoeddus, sydd heb eu hanafu ond sydd angen cymorth. Mae digwyddiadau o'r fath yn gyffredin iawn, ac er nad oes bygythiad uniongyrchol i fywyd, gall y rhai sy'n cael cwymp o'r fath fynd yn ofidus a dioddef cymhlethdodau fel hypothermia a briwiau pwyso os nad ydynt yn cael cymorth yn sydyn. Rydym yn cydnabod pryderon undebau diffoddwyr tân ynghylch gwaith o'r fath ac yn cytuno na ddylai diffoddwyr tân ymwneud â darparu gofal personol, ac na ddylent ychwaith fod yn ymateb i gwympiadau mewn lleoliadau iechyd a gofal y gall y staff yno ymdrin â hwy. Mae achub pobl sydd mewn trallod neu berygl eisoes yn rhan o ddyletswyddau craidd diffoddwr tân, a byddai hyn yn estyniad o hynny i gynnwys pobl sydd wedi syrthio.
Yn olaf, mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cael llwyddiant mawr o ran lleihau nifer y tanau mewn anheddau drwy addysgu pobl am beryglon ac achosion tân yn y cartref. Yn briodol, mae gan y cyhoedd ymddiriedaeth uchel mewn diffoddwyr tân a pharch mawr atynt, felly maent mewn sefyllfa dda i gyfleu negeseuon diogelwch. Gellid ehangu’r dull hwn yn ddigon hwylus. Mae cwympiadau gartref, er enghraifft, yn cyfrif am tua 1,000 o dderbyniadau brys i'r ysbyty bob mis; ac nid yw llawer o'r rhai sy’n mynd i’r ysbyty byth yn gwella digon i ddychwelyd adref. Ac eto mae'n hawdd tynnu sylw at lawer o beryglon baglu a llithro yn y cartref a gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â hwy. Yn yr un modd, mae diffoddwyr tân mewn sefyllfa dda i roi cyngor am beryglon a risgiau eraill i iechyd, yn enwedig os yw’r rhain yn gysylltiedig â'r risg o dân, fel smygu, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, a defnyddio gwresogyddion cludadwy yn ystod y gaeaf. Mae gan hyn botensial i atal damweiniau a chyflyrau andwyol eraill, ac osgoi'r angen am driniaeth feddygol yn gyfan gwbl, sef y canlyniad gorau posibl bob amser.
Bydd y cynigion manwl y mae'r gweithgor wedi'u llunio yn destun trafodaethau gydag Undebau Llafur sy'n cynrychioli diffoddwyr tân a staff y GIG. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â'r FBU, a'n bwriad fyddai bwrw ymlaen â'r cynigion hyn mewn partneriaeth. Wrth gwrs, rhaid cynnal y trafodaethau cysylltiedig am delerau ac amodau gan ddefnyddio'r dulliau sefydledig, ac mae hynny'n debygol o ddigwydd ar ôl etholiad y Senedd. Mae cyfle gwirioneddol yma i'n gwasanaethau cyhoeddus gydweithio'n agos er budd y rhai sy'n darparu ein gwasanaethau ac er budd y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu ganddynt.