Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae’n dda gen i gyhoeddi ein bod yn dyblu ein hymdrechion a’n momentwm parhaus wrth gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynnig yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 oed am 48 wythnos o’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth yn ystod y tymor a’r gwyliau. Bydd y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r cynnig hwn yn seiliedig ar ddarpariaeth o ansawdd a mynediad cyfartal – o safbwynt cyrhaeddiad daearyddol ac iaith.

Ym mis Medi 2017 aethom ati i gyflwyno rhaglen gofal plant wedi’i hariannu gan y llywodraeth gyda saith Awdurdod Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar er mwyn ein helpu i ddechrau deall a sicrhau ein bod yn diwallu anghenion plant, rhieni a darparwyr pan gyflwynir y cynnig yn llawn ledled Cymru ym mis Medi 2020. Ym mis Ebrill, cyhoeddais fod y rhaglen yn ehangu mewn pedwar o’r saith Awdurdod Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar, ac o ganlyniad mae’r cynnig wedi’i gyflwyno ledled Ynys Môn, Gwynedd a Chaerffili, ac mewn wardiau ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n dda gen i gadarnhau bod y cynnig wedi’i gyflwyno ledled Sir y Fflint bellach, a bod Abertawe yn parhau i gyflwyno’r cynnig fesul tipyn tan fis Ionawr 2019, pan fydd y cynnig ar gael ledled yr awdurdod. Bydd gwybodaeth am ardaloedd penodol ar gael ar eu tudalennau gwe Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.

Ochr yn ochr â hyn, buom yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol eraill ar raglen dreigl i weithredu’r cynnig yn ehangach. O ganlyniad i’r dull cydweithio hwn, ac er mwyn ein galluogi i ehangu a phrofi agweddau ar weithredu’r cynnig mewn awdurdodau lleol newydd, rwy’n cyhoeddi cynlluniau i gynnwys saith Gweithredwr Cynnar ychwanegol ym mis Medi 2018. Yr awdurdodau lleol hyn yw Ceredigion, Wrecsam, Conwy, Casnewydd, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen. Hefyd, bydd hyn yn dyblu nifer y plant sy’n gymwys ar gyfer y cynnig. Rydym yn rhagweld y bydd y cynnig ar gael mewn rhai rhannau o leiaf o’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru erbyn mis Medi 2019.

Hefyd, rwyf wedi cytuno ar fodel gweithredu newydd ar gyfer y cam nesaf o weithredu’r cynnig yn gynnar. Mae’r model newydd yn canolbwyntio ar helpu awdurdodau i weithio mewn partneriaeth mewn rhanbarth consortia addysg, a bydd Gweithredwyr Cynnar newydd yn gweithio gyda’r Gweithredwyr Cynnar presennol i fanteisio ar ddysgu a sicrhau arbedion maint. Mae awdurdodau partner wrthi’n cadarnhau’r trefniadau, a byddaf yn cyflwyno rhagor o wybodaeth yn yr hydref am ddatblygiad y partneriaethau hyn. Dyma ragor o wybodaeth am y dull gweithredu sy’n cael ei fabwysiadu gan bob un o’r Gweithredwyr Cynnar newydd:  

Bydd Ceredigion yn gweithredu’r cynnig ledled yr awdurdod lleol cyfan ym mis Medi 2018. Bydd hyn yn profi effaith y cynnig mewn awdurdod gwledig llai poblog, ac mae’r trefniadau’n mynd yn dda i gyflwyno’r cynnig ym mis Medi.    

Yn Wrecsam, bydd y cynnig ar gael yn wardiau Llai, Dwyrain a De Gwersyllt, Gogledd Gwersyllt, Gorllewin Gwersyllt, Brychdyn Newydd, Coedpoeth, Ponciau, Dwyrain a Gorllewin Gresffordd, Yr Orsedd, Merffordd a Hoseley, Holt, Bronington, Owrtyn a Brymbo. Bydd y wardiau hyn yn helpu i brofi prosesau gweithio trawsffiniol a gweithredu’r cynnig gydag awdurdod partner fel Sir y Fflint ac awdurdodau cyfagos yn Lloegr.

Yng Nghonwy, bydd y cynnig ar gael yn wardiau Betws-y-Coed, Betws yn Rhos, Caerhun, Eglwysbach, Gele, Gogarth, Gower, Crwst, Bae Cinmel, Llanddulas, Llangernyw, Llansannan, Llanfair TH, Pentrefoelas, Mostyn, Tywyn, Trefriw, Uwch Conwy, Uwch Aled, Pen-sarn, Pentre Mawr a Thudno.  Bydd hyn yn sicrhau bod plant cymwys o aelwydydd incwm is yn gallu manteisio ar y cynnig. Hefyd, bydd yn cynnwys ardal ddaearyddol eang o’r sir er mwyn profi’r galw am ofal plant a’r ddarpariaeth sydd ar gael mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Yng Nghasnewydd, bydd y cynnig ar gael yn yr ardaloedd canlynol o fis Medi ymlaen: Tŷ Du, Llisweri, Malpas, St Julians, Stow Hill, Shaftesbury, Maesglas a’r Gaer. Mae’r ardaloedd hyn yn amrywiol iawn o safbwynt cyflogaeth a sgiliau, ac mae’r boblogaeth gyflogedig yn tueddu i fod yn gynrychioladol o holl drigolion Casnewydd. Mae’r tirweddau’n cynnwys proffiliau gwledig, maestrefol a chanol dinas, a bydd yr ardaloedd sydd wedi’u dewis yn helpu i brofi capasiti’r farchnad gofal plant, yn enwedig darpariaeth Gymraeg, a chysylltiadau trawsffiniol.  

Bydd y broses o weithredu’r cynnig yn gynnar yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar ardaloedd yn ne’r ddinas, gan gynnwys wardiau: Grangetown, Butetown, Glan yr Afon, Adamsdown, Cathays, Plasnewydd, Caerau, y Sblot, Trelái a Llanrhymni. Mae Caerdydd wedi rhoi blaenoriaeth i ardaloedd sydd â’r ganran uchaf o blant dibynnol a phlant tair a phedair oed sy’n byw ar aelwydydd lle mae pobl yn gweithio ac yn hawlio credydau treth gwaith. Y nod yw targedu teuluoedd sy’n gweithio ac a allai fod yn gymwys, ond sydd ar incwm is.

Bydd Castell-nedd Port Talbot yn profi’r cynnig fesul tipyn, gan ddechrau yn y wardiau etholiadol canlynol ym mis Medi: Tai-bach, Resolfen, Baglan, Aberafan, Pontardawe, Blaengwrach, Onllwyn, De Bryn-coch, Glyncorrwg, Gwauncaegurwen, Cymer a Brynaman Isaf. Bydd Castell-nedd Port Talbot yn pwyso a mesur galw am y cynnig gyda chroestoriad o’r awdurdod er mwyn darparu cymorth a datblygu capasiti ar gyfer y sector gofal plant. Mae’r wardiau sydd wedi’u dewis yn cynnwys ardaloedd â lefelau cyflogaeth uchel ac isel, gan sicrhau bod darpar blant cymwys o aelwydydd incwm is yn gallu manteisio ar y cynnig.

Bydd Torfaen yn gweithredu’r cynnig ledled yr awdurdod lleol cyfan ym mis Medi 2018.  

Bydd y Gweithredwyr Cynnar newydd yn gwahodd ceisiadau cyn bo hir, gan roi cyfle i rieni wneud cais a sicrhau cyllid cyn i’w plant ddechrau derbyn gofal plant o dan y cynnig ym mis Medi. Bydd gan bob awdurdod ei broses ei hun ar gyfer ceisiadau, a bydd gwybodaeth ar gael i rieni ar wefan pob awdurdod.

Fel rhan o weithredu’r cynnig yn gynnar, buom yn glir bob amser am yr angen i ddysgu ac addasu’r cynnig lle bo angen. Un maes sydd wedi peri pryder i rieni a darparwyr yw’r ffaith nad yw gwarchodwyr plant cofrestredig yn gallu derbyn cyllid am ofalu am berthynas o dan y cynnig. Mae gwarchodwyr plant yn gwneud gwaith hanfodol wrth sicrhau bod y sector gofal plant yn gallu gweithredu’r cynnig, ac wrth ddarparu’r gofal cofleidiol sydd ei angen yn aml fel bod rhieni’n gallu manteisio ar hawl eu plentyn i addysg gynnar a gofal plant ychwanegol. Yn dilyn sylwadau gan rieni, darparwyr, sefydliadau ac Aelodau Cynulliad, rydym wedi gwrando a chwblhau adolygiad o’r polisi yn ymwneud ag ariannu gwarchodwyr plant i ddarparu gofal ar gyfer perthynas, gan ystyried tystiolaeth o’r sector ac yn pwyso a mesur manteision ac anfanteision unrhyw newid.    

Wedi pwyso a mesur, rwyf wedi penderfynu newid polisi’r Cynnig Gofal Plant er mwyn caniatáu i warchodwyr plant cofrestredig dderbyn cyllid am ofalu am blentyn sy’n perthyn iddynt. Cyflwynir y newidiadau hyn ym mis Medi 2018 i gyd-fynd â’r broses o ehangu’r cynnig. Bydd y canllawiau’n nodi bod angen i warchodwyr plant gael eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru cyn gallu manteisio ar y Cynnig, ac nad oes modd darparu’r gofal yng nghartref y plentyn. Yn fwy hirdymor, bydd angen i ni ddiwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen ystyried rhannau eraill o’r Gorchymyn, a byddai’n well gen i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn ffordd ystyrlon yn hytrach na diwygio’r Gorchymyn ar sail ad hoc.

Mae’r cyhoeddiad heddiw ynglŷn ag ehangu’r Cynnig Gofal Plant ym mis Medi yn amlygu datblygiad a momentwm gwirioneddol. Mae’r broses o weithredu’r cynnig yn gynnar yn ein helpu i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion rhieni ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau rhieni sy’n gweithio ledled Cymru.