Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gweithlu’r GIG sydd wedi’i hyfforddi’n dda ac yn meddu ar y sgiliau cywir yn hanfodol er mwyn darparu gofal cynaliadwy o’r radd flaenaf i bobl ledled Cymru, yn ogystal â gwella safonau yn ein gwasanaeth iechyd. Er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu heddiw, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi amlygu’r pwysau sylweddol sydd ar ein GIG yng Nghymru, a’r angen parhaus i gynyddu’r niferoedd sy’n cael hyfforddiant, a chynyddu’r cyllid ar gyfer gweithwyr iechyd hanfodol yn 2022/2023. Dyna pam felly, am yr wythfed flwyddyn yn olynol, y bydd cyllid i gynnal addysg a hyfforddiant iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu. Mae pwysigrwydd ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi bod yn fwy amlwg nag erioed drwy gydol y pandemig COVID-19 parhaus. 

Bydd £262.295m yn cael ei fuddsoddi yn 2022/23; mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 15% ers 2021/22, sy’n £18.08m ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. £5.26m yn ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddiant meddygol, £7.97m yn ychwanegol i gefnogi’r niferoedd craidd ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu, a chynnydd net o £2.72m ar gyfer hyfforddiant fferyllol ledled Cymru. Mae hyn yn parhau i fod yn lefel o gyllid sy’n uwch nag erioed er mwyn cefnogi’r nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru.

Rwy’n falch o fuddsoddiad y Llywodraeth hon mewn addysg a hyfforddiant er mwyn cefnogi a chynnal y gweithlu iechyd yng Nghymru. Mae gan y GIG fwy o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda phob un gweithiwr yn anelu at atal anawsterau iechyd a gofalu am aelodau o’r gymdeithas, ymhob cymuned ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau’r gweithlu mae’r GIG ei angen, ac i sicrhau bod system iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy yn ei lle, fel sydd wedi ei hamlinellu yn y strategaeth Cymru Iachach. Bydd y lleoedd hyfforddiant ychwanegol hyn yn cynyddu gallu’r gweithlu i gefnogi’r GIG i ymateb i’r heriau sydd yn ei wynebu yn y dyfodol.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae lleoedd hyfforddi nyrsys wedi cynyddu 55.2%, a lleoedd hyfforddi bydwragedd wedi cynyddu 96.8%. Mae tablau sy’n dangos y cynnydd mewn lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac ar gyfer hyfforddiant meddygol yn 2022/23 i'w gweld yn Atodiad A.

Atodiad A

Cynllun Hyfforddi a Chomisiynu Addysg GIG Cymru ar gyfer 2022/23

Mae’r tablau canlynol yn dangos y cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac ar gyfer hyfforddiant meddygol yn 2022/23.

Arbenigedd

O

I

% cynnydd

Nyrsio Oedolion

1,540

1,651

7.2%

Nyrsio Iechyd Meddwl

410

483

17.8%

Nyrsio Anawsterau Dysgu

77

87

12.9%

BSc. Parafeddygaeth

75

86

14.6%

Anestheteg

Cynnydd o 3 swydd Anestheteg Uwch.

Meddygaeth Gofal Dwys

Cynnydd o 4 swydd Rhaglen Hyfforddiant Uwch.

Gofal Canser

Oncoleg Glinigol

Cynnydd o 4 swydd Hyfforddiant Uwch ychwanegol gan weithredu ar flwyddyn 2 o’r cynllun er mwyn sicrhau cynnydd o 4 swydd y flwyddyn am 5 mlynedd.

Oncoleg Feddygol

Cynnydd o 3 swydd Hyfforddiant Uwch ychwanegol gan weithredu ar flwyddyn 2 o’r cynllun er mwyn sicrhau cynnydd o 3 swydd y flwyddyn am 5 mlynedd.

Meddygaeth Liniarol

Cynnydd o 2 swydd hyfforddiant Meddygaeth Liniarol erbyn mis Awst 2022 a 2 swydd ychwanegol erbyn mis Awst 2023.

Adolygiad Arbenigaethau Bach

Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol (CSRH)

Newid un o’r swyddi Meddygaeth Genhedlol-Wrinol (GUM) i swydd Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol, gan ddefnyddio cyllid presennol i sicrhau penodiad ychwanegol i’r maes Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol ar gyfer 2021 os yn bosibl, ond os na, ar gyfer 2022.

Argymell cynnydd o 2 swydd yn y maes Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol erbyn mis Awst 2022.

Archwilio opsiynau i gynyddu lleoedd hyfforddiant ym meysydd Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol a Meddygaeth Genhedlol-Wrinol ar y Rhaglen Sylfaen, ac ar gyfer y maes Meddygaeth Genhedlol-Wrinol o fewn Meddygaeth Fewnol.

Llawdriniaeth y geg, yr ên ac wyneb (OMFS)

Cynnydd o 2 swydd i raglen Hyfforddiant Llawdriniaeth y geg, yr ên ac wyneb ym mis Awst 2022.

Geneteg Glinigol

 

Cynnydd o 2 swydd i raglen Hyfforddiant Geneteg Glinigol ym mis Awst 2022. Sylwer – cafwyd cytundeb a chyllid dros dro i alluogi un swydd i ddechrau ym mis Awst 2021.

Niwroffisioleg Glinigol

Disgwylir argymhellion yr adolygiad gweithlu Niwroffisioleg. Ystyrir hwn yn hyfforddiant mewn maes arbenigaeth fregus.

Ffarmacoleg a Therapiwteg Glinigol (CPT)

Cadw’r 2 swydd yn Ffarmacoleg a Therapiwteg Glinigol a’u hadolygu yn 2023. Archwilio’r posibilrwydd o symud un swydd i Ogledd Cymru.

Cynyddu lle i Ffarmacoleg a Therapiwteg Glinigol yn rhan o hyfforddiant Meddygaeth Fewnol er mwyn ehangu’r nifer sy’n cael eu recriwtio yn yr arbenigaeth hon.

Arbenigeddau Diagnostig

Microbioleg Feddygol/Clefydau Heintus

Cynnydd o 3 swydd Microbioleg Feddygol / Clefydau Heintus gan weithredu ar flwyddyn 3 o’r cynllun i gynyddu nifer y swyddi bob blwyddyn am 5 mlynedd.

Radioleg Glinigol

Cefnogi'r ehangu a argymhellir i benodi 22 o hyfforddeion ar gyfer derbyniadau 2022, gydag 20 yn Ne Cymru a 2 yng Ngogledd Cymru.

Creu swydd Niwroradiolegydd Ymyriadol a fydd yn cylchdroi yn ôl yr angen i ganolfannau arbenigol yn Lloegr er mwyn galluogi hyfforddeion o Gymru i gael yr hyfforddiant hanfodol hwn.

Histopatholeg

Cynyddu hyfforddiant Histopatholeg yng Ngogledd Cymru gan sicrhau 1 swydd erbyn mis Awst 2022.

Cynnal adolygiad brys er mwyn archwilio datrysiadau i’r heriau darparu hyfforddiant ym meysydd Histopatholeg, Pediatreg a Phatholeg Amenedigol, gan roi argymhellion i’r Prif Weithredwyr ym mis Mehefin 2022.

Iechyd Meddwl

Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc

Gogledd Cymru – cynnydd o 2 swydd erbyn 2022. Sylwer – cafwyd cytundeb a chyllid dros dro i alluogi un o’r swyddi hyn i ddechrau ym mis Awst 2021 yn rhan o gyflwyniadau graddol.

De Cymru – cynnydd o 2 swydd erbyn 2022, ac adolygu’r sefyllfa ymhellach yn 2023 unwaith y bydd adolygiad gan Addysg a Gwella Cymru (AaGC) ar y gweithlu Iechyd Meddwl wedi ei gwblhau, a’r canfyddiadau wedi’u rhannu.

Seiciatreg pobl hŷn

Cynnydd o 2 swydd hyfforddiant yn 2022, 2 swydd yn 2023 a 2 swydd arall yn 2024. Bydd adolygiad pellach unwaith y bydd adolygiad gan Addysg a Gwella Cymru (AaGC) ar y gweithlu Iechyd Meddwl wedi ei gwblhau, a’r canfyddiadau wedi’u rhannu.

Seiciatreg Oedolion Cyffredinol

Dim newidiadau i’r lefel bresennol o swyddi yn y rhaglen Seiciatreg Oedolion Cyffredinol. Cynnal adolygiad pellach unwaith y bydd adolygiad gan Addysg a Gwella Cymru (AaGC) ar y gweithlu Iechyd Meddwl wedi ei gwblhau, a’r canfyddiadau wedi’u rhannu.

Seiciatreg Fforensig

 

Dim newidiadau i’r lefel bresennol o swyddi yn y rhaglen Seiciatreg Fforensig. Cynnal adolygiad pellach unwaith y bydd adolygiad gan Addysg a Gwella Cymru (AaGC) ar y gweithlu Iechyd Meddwl wedi ei gwblhau, a’r canfyddiadau wedi’u rhannu.

Anableddau Dysgu

 

Newid y swydd Anabledd Dysgu / CAMHS yng Ngogledd Cymru i swydd Anabledd Dysgu gan greu swydd ychwanegol. Cynnal adolygiad pellach yn 2023 unwaith y bydd adolygiad gan Addysg a Gwella Cymru (AaGC) ar y gweithlu Iechyd Meddwl wedi ei gwblhau, a’r canfyddiadau wedi’u rhannu.

Alinio Rhaglenni Sylfaen, Craidd ac Uwch

Sylfaen

Cynnydd o 30 o swyddi Blwyddyn Sylfaen 1 a 30 o swyddi Blwyddyn Sylfaen 2 erbyn mis Awst 2022 fel sydd wedi ei fanylu yn yr Achos Busnes Ehangu Sylfaen.

Llwybr Craidd Gofal Acíwt (ACCS)

Meddygaeth Frys

Ehangu’r rhaglen Llwybr Craidd Gofal Acíwt gan sicrhau 4 swydd ychwanegol yn 2022 a 2 swydd arall yn 2023. Bydd hyn yn cwblhau datblygiad Rhaglen Bangor, ac yn sicrhau bod Rhaglen newydd yng Nghaerdydd yn cael ei chreu er mwyn gwneud y mwyaf o’r capasiti hyfforddi presennol.

Llwybr Craidd Gofal Acíwt (ACCS)

Anestheteg

Bydd 5 swydd newydd yn cael eu creu ym meysydd Meddygaeth Frys a Meddygaeth Acíwt gan sicrhau bod rhaglenni Llwybr Craidd Gofal Acíwt ac Anestheteg yn cael eu creu i gefnogi’r aliniad â Hyfforddiant Gofal Dwys.

Anestheteg

Cynnydd o 5 swydd Rhaglen Hyfforddiant Craidd i sicrhau’r aliniad rhwng rhaglenni Craidd ac Uwch a bodloni gofynion y cwricwlwm hyfforddi a gofynion hyfforddiant Llai Nag Amserllawn (LTFT) wrth symud ymlaen.

Meddygaeth Fewnol

Cynnydd o 12 swydd Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol erbyn mis Awst 2022.

Seiciatreg Graidd

Cynnydd o 8 swydd Hyfforddiant Seiciatreg Graidd erbyn mis Awst 2022.

Meysydd blaenoriaeth y gweithlu ychwanegol

Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd

 

Mae’r broses recriwtio ar gyfer swyddi hyfforddiant sy’n bodoli eisoes am gael ei hyrwyddo ymhellach. I gefnogi hyn, mae angen cyllid ar gyfer 2 swydd yn 2022, a 3 swydd yn 2023.

Dylid cwblhau’r gwaith er mwyn ehangu ar y diddordeb presennol sydd gan Feddygon Iau. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth Lleoliadau Hyfforddiant Sylfaen ym maes Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd o fewn y rhaglen Ehangu Sylfaen.

Rhewmatoleg

Cynnydd o 2 swydd hyfforddiant Rhewmatoleg erbyn mis Awst 2022, a 2 swydd arall erbyn mis Awst 2023.

Gastroenteroleg – swydd Arbenigwr Hepatoleg

Creu 1 swydd Is-arbenigaeth Hepatoleg erbyn mis Awst 2022, gan sicrhau bod 3 mis o’r amser hwn yn cael ei dreulio mewn canolfan arbenigol tu allan i Gymru.

Pediatrig

Cynnydd o 4 swydd ST3 i sicrhau bod y nifer o hyfforddeion a grëwyd yn 2020 a 2021 yn datblygu drwy raglen hyfforddiant ac yn cwblhau llwyth blaen y rhaglenni er mwyn uchafu’r %WTE o ST4 ymlaen.

Ymarfer Meddygol

Cynnal y targed presennol o 160 o dderbyniadau y flwyddyn, gydag opsiwn i or-recriwtio i 200 pan fo hynny’n ymarferol bosibl.