Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r pandemig COVID-19 wedi tanlinellu'r angen parhaus am gynnydd yn nifer y gweithwyr iechyd proffesiynol hanfodol. Dyna pam y bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu, a hynny am y seithfed flwyddyn yn olynol. Caiff £227.901m ei fuddsoddi yn 2021/22, sef cynnydd o 8.3% ers 20/21. Mae hyn yn £9.124m yn ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol yng Nghymru, £2.315m yn ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddiant meddygol, £5.312m yn ychwanegol i hybu’r niferoedd craidd ar gyfer hyfforddiant meddygol teulu a chynnydd net o £0.762m ar gyfer hyfforddiant fferyllol ledled Cymru.

Mae hyn yn lefel uwch nag erioed o gyllid, ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal y nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru. 

Rwyf yn hynod o falch o fuddsoddiad y llywodraeth hon mewn addysg a hyfforddiant i gynnal y gweithlu iechyd ar draws Cymru. Mae mwy o bobl yn gweithio i'r GIG heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda phob un ohonynt yn ceisio atal problemau a gofalu am aelodau o'r gymdeithas ar draws pob cymuned yng Nghymru. Nid yw pwysigrwydd ein gwasanaethau iechyd a gofal erioed wedi bod mor amlwg ag yn ystod y naw mis diwethaf.

Mae’n hanfodol bod gweithlu’r GIG wedi’i hyfforddi’n dda ac sy'n meddu ar y sgiliau cywir er mwyn darparu gofal cynaliadwy o’r radd flaenaf i bobl ledled Cymru a gwella safonau yn ein gwasanaeth iechyd. Er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu heddiw, yn enwedig eleni gyda'r pandemig, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae lleoedd hyfforddi nyrsys wedi cynyddu 72% a bydwragedd wedi cynyddu 97%. Mae tablau yn dangos y cynnydd mewn lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a hyfforddiant meddygol ar gyfer 2021/22 i'w gweld yn Atodiad A.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi i’r GIG y gweithlu y mae arno ei angen ac i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy fel y nodir yn Cymru Iachach.

Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn cynyddu gallu’r gweithlu i helpu’r GIG i ymateb i’r heriau sy’n ei wynebu yn awr ac yn y dyfodol.

                                                                                                                      Atodiad A

Cynllun Hyfforddi a Chomisiynu Addysg GIG Cymru ar gyfer 2021/22

Mae’r tablau canlynol yn dangos y cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac ar gyfer hyfforddiant meddygol yn 2021/22.

Staff iechyd proffesiynol

Arbenigedd

O

I

% Cynnydd

Nyrsio Oedolion

1,400

1,540

10%

Nyrsio Iechyd Meddwl

356

410

15%

Nyrsio Plant

159

175

10%

Bydwreigiaeth

161

185

15%

Radiotherapi ac Oncoleg

22

26

18%

Deieteg

52

60

15%

Ffisiotherapi

164

174

6%

Therapi Galwedigaethol

163

179

10%

Podiatreg

24

27

12%

Parafeddygaeth

52

75

44%

Lleoedd ar gyfer Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol

29

32

10%

Gwyddor Gofal Iechyd: rhaglen Hyfforddiant Gwyddonol

32

37

17%

Rhaglen Hyfforddiant Gwyddonol Arbenigol Uwch

5

8

60%

Gwyddor Gofal Iechyd: Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr / Gwyddoniaeth Fiomeddygol

24

25

4%

Argymhellion ar gyfer Cynllunio’r Gweithlu Meddygol

Ymarfer Meddygol

Parhau i hysbysebu 160 gydag opsiwn i recriwtio mwy os ceir digon o ymgeiswyr addas.

Meddygaeth Frys

 

5 swydd Hyfforddiant Uwch newydd (ST3) a 2 swydd Hyfforddiant Craidd ar y Rhaglen Llwybr Craidd Gofal Acíwt. 

Anestheteg

3 swydd Hyfforddiant Uwch newydd.

Meddygaeth Gofal Dwys

4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd sydd wedi’u categoreiddio yn swyddi gofynnol yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Llawdriniaeth Blastig

2 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gefnogi’r Ganolfan Trawma Mawr.

Llawdriniaeth Gyffredinol

4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gefnogi model y gweithlu ar gyfer y Ganolfan Trawma Mawr a’r galw cynyddol i gefnogi triniaethau canser.

Wroleg

4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gefnogi’r agenda Canser.

Pediatreg

6 swydd newydd sy’n cynnwys 2 gymrodoriaeth Hyfforddiant Uwch.

Obstetreg a Gynaecoleg

2 swydd newydd mewn ymateb i ddogfen ‘Gofal mamolaeth yng Nghymru, gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y dyfodol’.

Meddygaeth Fewnol

15 swydd Hyfforddiant Craidd newydd.

Meddygaeth Acíwt

4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd.

Meddygaeth Anadlol

2 swydd Hyfforddiant Uwch newydd. Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos bod angen mwy o feddygon yn y maes meddygaeth anadlol.

Gastroenteroleg

2 swydd Hyfforddiant Uwch newydd i gwaith y llwybr canser unigol.

Oncoloeg Feddygol

 

3 swydd Hyfforddiant Uwch newydd y flwyddyn am 5 mlynedd i gefnogi’r agenda canser.

Oncoloeg Glinigol

4 swydd Hyfforddiant Uwch newydd y flwyddyn am 5 mlynedd i gefnogi’r agenda canser.

Microbioleg Feddygol / Hyfforddiant Heintiau Cyfunol

Parhau â’r argymhelliad o gynllun y llynedd o gael 3 swydd newydd am 5 mlynedd.

Radioleg Glinigol

Cadw at gael 20 o hyfforddeion y flwyddyn.