Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal plant i fwy o deuluoedd sydd ei angen.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i barhau i gefnogi’r rhaglen flaenllaw, Dechrau'n Deg. Ac, yn unol â'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi estyn hyn i gyflwyno darpariaeth i’r blynyddoedd cynnar, gam wrth gam, sy’n cynnwys pob plentyn dwy oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Dechreuodd y cam cyntaf ym mis Medi 2022 ac rydym eisoes wedi pasio ein targed. Mae pob un o bedair elfen rhaglen Dechrau'n Deg, sef gwell ymweliadau iechyd, cymorth mewn perthynas â lleferydd, iaith a chyfathrebu, cefnogaeth rhianta a gofal plant, ar gael i dros 2,600 o blant ychwanegol.
Rydym yn canolbwyntio nawr ar y cam nesaf o’r gwaith ehangu, sef darparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i hyd yn oed mwy o blant dyflwydd oed ledled Cymru.
Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn buddsoddi £46m yn y gwaith o ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ac rydym yn disgwyl gallu cefnogi dros 9,500 yn rhagor o blant dyflwydd oed i gael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel trwy'r rhaglen hon. Mae hyn yn ychwanegol i'n Cynnig Gofal Plant presennol, sy'n darparu 30 awr o ofal plant a ariennir, am 48 wythnos y flwyddyn, i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio neu sydd mewn addysg neu hyfforddiant.
Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i ofal plant Dechrau'n Deg ehangu yn sylweddol, gan gefnogi effeithiau hirdymor, cadarnhaol ar fywydau'r plant a'r teuluoedd hynny ledled Cymru sy'n wynebu'r heriau mwyaf.
Bydd yn golygu y bydd mwy o deuluoedd yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg i'w plant dyflwydd oed yng Nghymru.
Daw hyn flwyddyn yn gynt na'r cynlluniau gofal plant sydd wedi'u hamlinellu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae'n mynd a ni gam yn nes at wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar, gan ganolbwyntio ar gefnogi datblygiad pob plentyn yn eu blynyddoedd cynnar.
Byddwn yn ychwanegu at yr un dull gweithredu a fabwysiadwyd gennym yn ystod cam un wrth i ni ehangu darpariaeth Dechrau'n Deg – byddwn yn cydweithio â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol ac yn y sector gofal plant i gynnig darpariaeth o ansawdd uchel. Byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar gefnogi rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, a bydd y gwaith cyflwyno yn dechrau'r mis hwn.
Mae’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn cynyddu’r gwasanaethau gofal plant cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn sylweddol dros y cyfnod hwn o ddwy flynedd. Bydd y gwaith o ehangu Dechrau'n Deg yn raddol yn digwydd ochr yn ochr â chyflwyno pecyn o fesurau, a gyhoeddwyd gennyf yn wreiddiol ym mis Medi, i gefnogi lleoliadau a gweithwyr gofal plant cyfrwng Cymraeg presennol a'r rhai sy'n awyddus weithio â phlant.
Ni fyddai'r gwaith hwn yn bosibl heb ein partneriaid cyflenwi. Rwyf i, ynghyd â'r Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllian, am ddiolch i'n hawdurdodau lleol, y byrddau iechyd a phartneriaid y blynyddoedd cynnar am eu gwaith caled a'u hymroddiad i ehangu cyrhaeddiad gwasanaethau Dechrau'n Deg i'r rhai a fydd yn elwa arnynt fwyaf.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, rwy’n hapus i wneud hynny.