Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n lansio ymgynghoriad ar Egwyddorion Amgylcheddol a Llywodraethu Amgylcheddol yng Nghymru ar ôl Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fel llywodraeth mae ein neges wedi bod yn glir ac yn gyson – rhaid nad yw Brexit yn gwanhau'r hawliau sydd gennym ar hyn o bryd o ganlyniad i fod yn aelod o'r UE. Ni ddylai ein safonau amgylcheddol ddirywio.

I sicrhau na fydd blwch mewn perthynas â'r safonau amgylcheddol sydd ar waith ar hyn o bryd, dros y chwe mis diwethaf rydym wedi cyflawni'r rhaglen ddeddfwriaethol fwyaf helaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â hi erioed, i sicrhau bod y mesurau diogelu'n parhau, ac os nad oes cytundeb y bydd safonau amgylcheddol cyfredol yn parhau i fod yn berthnasol o'r dyddiad rydym yn gadael yr EU.

Fodd bynnag, mae gadael yr UE yn golygu y bydd bylchau yn y trefniadau llywodraethu cyfredol a ddarperir o dan Gytundebau'r UE, megis gweithredu egwyddorion amgylcheddol yr UE – sydd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau, ac mewn perthynas â rôl sefydliadau'r UE a Llys Cyfiawnder Ewrop wrth oruchwylio'r gwaith o weithredu cyfraith Ewrop.

Er ein bod yn cydnabod y bydd bylchau yn y trefniadau llywodraethu o ganlyniad i adael yr UE, oherwydd ein deddfwriaeth, sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, mae ein bylchau ni yn wahanol i fylchau gweinyddiaethau eraill y DU. Mae ein deddfwriaeth eisoes wedi pennu elfennau craidd y trefniadau llywodraethu a oedd hefyd yn bodoli ar lefel yr UE.

Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, cafodd datblygu cynaliadwy ei ymgorffori fel y prif gyd-destun polisi a'r sail ar gyfer rheoli a defnyddio adnoddau naturiol. Cyflwynodd y Deddfau hyn egwyddorion allweddol ar gyfer cyflawni amcanion y Deddfau, sydd wedi cael eu hymgorffori yn y prosesau ar gyfer llunio a gweithredu polisïau.  Bydd ein deddfwriaeth sylfaenol ddomestig yn parhau i fod ar waith ar ôl inni adael yr UE.

Hefyd, mae deddfwriaeth wedi'i chreu yng Nghymru sydd wedi llwyr ddiwygio'r cyrff sy'n gyfrifol am roi deddfwriaeth amgylcheddol ar waith yng Nghymru.  A hithau â set o egwyddorion amgylcheddol a set wahanol o gyrff, mae man cychwyn Cymru yn hyn o beth yn wahanol iawn sy'n golygu bod gennym ni, yn wahanol i weddill y DU, fframwaith deddfwriaethol y gallwn adeiladu arno. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn am y bylchau y bydd gofyn eu cau yng Nghymru, a sut y gellid gwneud hynny'n effeithiol i greu fframwaith llywodraethu amgylcheddol sy'n diwallu anghenion penodol Cymru, ac yn sicrhau ein bod yn parhau i fodloni ein safonau amgylcheddol. 

Hoffwn annog rhanddeiliaid a thrigolion Cymru i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

https://beta.llyw.cymru/egwyddorion-threfniadau-llywodraethu-amgylcheddol-yng-nghymru-ar-ol-ymadael-ar-ue

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 9 Mehefin 2019.