Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Gwnaethom gyhoeddi ein Papur Gwyn, "Sicrhau Dyfodol Cynaliadwy,: Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth ar gyfer Cymru Wyrddach" ar 30 Ionawr 2024.
Mae'r Papur Gwyn yn cynnwys ein cynigion i:
- Gwreiddio egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru;
- sefydlu corff llywodraethu newydd i oruchwylio gweithrediad a chydymffurfiaeth awdurdodau cyhoeddus Cymru â chyfraith amgylcheddol yng Nghymru;
- Cyflwyno fframwaith adfer natur strategol, a fydd yn cynnwys targedau bioamrywiaeth.
Mae'r cynigion yn adlewyrchu'r angen am weithredu hirdymor a pharhaus i sicrhau'r trawsnewidiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfyngau Hinsawdd a Natur. Mae’r Papur Gwyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu o blaid “Gymru wyrddach i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng natur”. Bydd yn gyfraniad allweddol tuag at sicrhau ein bod nid yn unig yn cynnal ond yn gwella ansawdd a safonau amgylcheddol ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Ebrill, a derbyniwyd 1171 o ymatebion. Cawsom 161 o ymatebion ar-lein, 5 ymateb i'r fersiwn hawdd ei deall a 1005 o ymatebion i'r ymgyrch. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb.
Comisiynais gwmni ymchwil annibynnol i ddadansoddi'r ymatebion a heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r canfyddiadau. Ochr yn ochr â hynny, rwyf hefyd yn cyhoeddi ein hymateb polisi i'r dadansoddiad. Mae'r Ymateb Polisi yn cynnwys crynodeb o'r prif bwyntiau a ddeilliodd o'r ymateb a'n hymateb i'r pwyntiau hyn.
Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad yn ogystal â'r rhai a fynychodd weithdai a digwyddiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Bydd y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn dangos ein hymrwymiad clir bod gweithredu ac arweinyddiaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac edrychaf ymlaen at barhau â'n perthynas waith gynhyrchiol â rhanddeiliaid wrth i ni fyfyrio ar allbynnau'r ymgynghoriad a mireinio ein cynigion polisi wrth symud ymlaen.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.