Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae cyrff iechyd yng Nghymru yn rhoi gwybod yn rheolaidd nad yw uwch staff clinigol yn fodlon cymryd gwaith a sesiynau ychwanegol oherwydd yr atebolrwydd treth gosbol bosibl. Mewn rhai amgylchiadau, gallai hyn arwain at ffioedd treth ychwanegol sy'n fwy nag unrhyw incwm ychwanegol a enillir.
Nid yw'r pwerau treth a chynllun pensiwn perthnasol wedi'u datganoli. Felly nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu newid y trefniadau sylfaenol sydd wedi achosi'r broblem hon. Rwyf wedi pwysleisio fy mhryderon sylweddol ynglŷn â rhoi Lwfansau Blynyddol ac Oes i uwch staff clinigol ac anghlinigol y GIG. Mae’r mater hwn yn achosi difrod gwirioneddol i’n GIG. Rwyf wedi pwysleisio fy safbwynt i lywodraeth y DU ar sawl achlysur ers rhai misoedd bellach.
Cyn hyn roeddwn wedi gwneud cais am adolygiad brys o'r trefniadau hyn yng nghyd-destun heriau clinigol cynyddol a heriau eraill yn ymwneud â'r gweithlu yn y GIG ym mhob un o bedair gwlad y DU. Mae staff ymgynghorol ysbytai GIG Cymru, fel yn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, wedi'u heffeithio gan y newidiadau a wnaed. Mae hyn wedi golygu bod nifer o feddygon ymgynghorol uwch wedi bod yn amharod i wneud gwaith ychwanegol ar ben oriau eu contract gan y byddai'r gwaith ychwanegol yn sbarduno atebolrwydd treth.
Mae hyn wedi golygu bod rhai apwyntiadau a llawdriniaethau wedi'u gohirio. Mae byrddau iechyd wedi rhoi gwybodaeth i swyddogion sy'n awgrymu bod dros 2,000 o sesiynau cleifion allanol, diagnostig, cleifion mewnol neu achosion dydd wedi'u colli rhwng mis Ebrill a mis Awst 2019, gan effeithio ar dros 15,000 o gleifion.
Meysydd eraill y mae'r pryder gwirioneddol am yr atebolrwydd treth ychwanegol yn effeithio arnynt yw
- nad yw uwch staff clinigol yn cynnig eu hunain ar gyfer cyfrifoldebau ychwanegol a swyddi arweinyddiaeth glinigol fel Cyfarwyddwyr Clinigol;
- bod uwch staff clinigol yn dod â'u dyddiad ymddeol ymlaen gan arwain at lai o gapasiti clinigol yn y GIG yn ystod cyfnod lle mae nifer sylweddol o swyddi gwag.
Nid yw effaith lawn y newidiadau treth hyn, yn enwedig y lleihad mewn Lwfansau Blynyddol a ‘thapro’, wedi'i deimlo yn llawn yn y gwasanaethau clinigol eto. Dim ond yn awr y mae'r mwyafrif helaeth o ymgynghorwyr yn dod i ddeall effaith lawn hyn drwy eu cynghorwyr ariannol, y BMA, y sylw ehangach yn y wasg a gan eu cymheiriaid. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyflogwyr GIG Cymru ganllawiau ynglŷn â defnyddio hyblygrwydd yn lleol o fewn trefniadau Pensiynau'r GIG. Dylai sefydliadau'r GIG yng Nghymru ddefnyddio'r hyblygrwydd sydd ar gael iddynt yn briodol cyn gynted â phosibl, fel sydd ar gael ar gyfer sefydliadau'r GIG yn Lloegr, tra mae llywodraeth y DU yn ymgynghori ar y newidiadau i ddeddfwriaeth Pensiynau'r GIG ac yn adolygu effaith y Lwfansau Blynyddol ac Oes.
Mae staff ein GIG yn gwneud gwaith ardderchog yn achub bywydau bob dydd. Mae'n bwysig eu bod yn cael eu gwobrwyo yn hytrach na'u cosbi am y gwaith ychwanegol y maent yn ei wneud sydd y tu hwnt i'r disgwyl. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn i GIG Cymru barhau i ddarparu gwasanaeth dros fisoedd y gaeaf.