Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad a luniwyd gan fy Nghynghorydd Tân ac Achub Cynorthwyol sy'n edrych ar effaith galwadau diangen yng Nghymru.
Yn 2013-14, ymatebodd y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru i dros 15,000 o alwadau diangen. Mae hyn yn 40% o'r holl alwadau yr ymatebwyd iddynt.
Dros y degawd diwethaf, mae gostyngiad amlwg wedi bod yn nifer yr achosion y mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn ymateb iddynt, ac rwy'n canmol y cyfraniad y mae'r Awdurdodau Tân ac Achub wedi'i wneud i gyflawni hyn drwy eu gwaith atal. Fodd bynnag, er bod nifer yr holl ddigwyddiadau yr ymatebwyd iddynt wedi gostwng o 28%, mae nifer y galwadau diangen wedi gostwng o 13% yn unig.
Mae ymateb i alwadau diangen yn golygu costau o tua £3 miliwn i'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru bob blwyddyn. Rhaid hefyd ystyried y costau cyfle wrth ymateb i ddigwyddiadau pan nad oes angen. Gallai a dylai amser diffoddwyr tân gael ei ddefnyddio'n well.
Mae galwadau diangen hefyd yn amharu ar yr eiddo dan sylw. Maent yn arbennig o gyffredin mewn lleoliadau gofal preswyl, lle gallant achosi poen meddwl i bobl sy'n agored i niwed. Mae galwadau diangen i eiddo masnachol yn amharu ar waith staff, mae'n rhaid i gwsmeriaid adael, ac efallai na fyddant yn dychwelyd. Mae'r golled hon mewn cynhyrchiant a chwsmeriaid yn sgil galwadau diangen mewn eiddo masnachol yn costio tua £28 miliwn y flwyddyn yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn nodi mai systemau larymau tân awtomatig yw prif achos galwadau diangen. Mae hyn yn digwydd pan fo'r systemau hyn naill ai'n cael eu cynnal a'u cadw'n wael, eu gosod mewn ffordd sy'n golygu bod llwch, stêm, mwg wrth goginio a phethau eraill ar wahân i dân yn eu hysgogi. Felly, mae modd eu hosgoi yn gyfan gwbl. Mae ysbytai a lleoliadau gofal, prifysgolion a sefydliadau addysg eraill, ac eiddo manwerthu ymhlith yr rhai sy'n profi'r lefelau uchaf o alwadau diangen.
Yn fy Natganiad ym mis Ionawr am Effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân ac Achub, cyfeiriais at bwysigrwydd defnyddio adnoddau mewn ffordd mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Mae hyn yn bwysicach nawr nag erioed, o ystyried y straen ar adnoddau'r sector cyhoeddus o ganlyniad i fesurau caledi Llywodraeth y DU.
Gall mwy gael ei wneud, a dylai mwy gael ei wneud, i fynd i'r afael â'r broblem. Mae'n amlwg bod angen i Awdurdodau Tân ac Achub reoli eu hadnoddau yn unol ag anghenion a risgiau lleol. Mae rhai o'r risgiau hynny - er enghraifft mewn cartrefi gofal - mor fawr y bydd angen ymateb i unrhyw larwm bob tro. Ond mewn mannau eraill, mae tystiolaeth yn dangos yn glir y gall dulliau mwy cadarn o ymdrin â galwadau larymau awtomatig arbed adnoddau sylweddol heb beryglu diogelwch mewn unrhyw ffordd. Mae'r adroddiad yn amlinellu sawl dull o'r fath, ac rwy'n disgwyl i'r Awdurdodau Tân ac Achub eu hystyried yn ofalus a mabwysiadau'r dulliau mwyaf ymarferol. Rwy’n falch bod Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd eisoes wedi gweithredu dull newydd yn seiliedig ar risgiau o ymateb i larymau tân awtomatig. Mae hyn wedi arbed £20k iddynt mewn arbedion ariannol ac anariannol ers iddo ddechrau ym mis Ebrill.
Fodd bynnag, mae'n effeithio ar y sector cyhoeddus ehangach. Dylai sefydliadau iechyd ac addysg yn arbennig sicrhau nad ydynt yn rhoi baich diangen ar Wasanaethau Tân ac Achub, o ganlyniad i hen systemau larwm neu rai diffygiol. Byddaf yn trafod gyda fy nghydweithwyr yn y Cabinet sut y gallwn ni fel Llywodraeth helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd, a byddaf yn gwneud datganiad pellach fel sy'n briodol.